Ymchwiliad Troseddol
Byddwch yn datblygu meddylfryd a sgiliau ymarferol ymchwilydd troseddol, yn dysgu i werthuso tystiolaeth, cyfweld â dioddefwyr, tystion a phobl dan amheuaeth, ac adeiladu achosion, drwy senarios realistig fydd yn eich paratoi ar gyfer rolau ymchwilio ym maes gorfodi'r gyfraith a’r tu hwnt.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
FM49
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Byddwch yn olrhain hynt ymchwiliadau troseddol o dderbyn y wybodaeth gychwynnol i baratoi achos a'r llys. Gan ddefnyddio deunydd achos realistig a chyfleusterau efelychiadol arbenigol, byddwch yn asesu tystiolaeth, yn cynllunio ymholiadau ac yn ymarfer cyfweliadau ymchwilio. Byddwch yn archwilio troseddau difrifol, cyfundrefnol, economaidd a digidol ac yn datblygu dull moesegol o wneud penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r cwrs yn defnyddio dulliau dysgu seiliedig ar her, asesiadau dilys a deunydd achos realistig i'ch helpu i gymhwyso gwybodaeth am ymchwilio i broblemau'r byd go iawn. Mae'r ffocws ar ddatblygu gwybodaeth ymchwiliol, barn broffesiynol a sgiliau ymarferol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ym maes ymchwilio i droseddau a chyfiawnder troseddol.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn archwilio trosedd, cyfiawnder a phlismona trwy senarios realistig a gwaith achos, gan adeiladu'r sgiliau ymchwilio ymarferol, y farn broffesiynol a’r hyder y bydd eu hangen arnoch i ymateb i heriau'r byd go iawn.
Archwilio sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio yn ymarferol, o ymchwilio ac erlyn i ddedfrydu ac adsefydlu, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o gyfraith droseddol, hawliau, tegwch a chyfiawnder.
Archwilio pam mae pobl yn troseddu a pham mae rhai pobl mewn mwy o beryg o fod yn ddioddefwyr, gan ystyried safbwyntiau troseddol a dioddefol ochr yn ochr â dylanwadau cymdeithasol, seicolegol a strwythurol ar droseddu a niwed.
Adeiladu sgiliau plismona ymatebol ymarferol trwy senarios realistig, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o bwerau'r heddlu, gwneud penderfyniadau, rheoli risg ac ymarfer proffesiynol ac ymateb i ddigwyddiadau yn ddiogel ac yn foesegol.
Datblygu’ch sgiliau ymchwilio trwy waith achos realistig, gan ddysgu sut mae ymchwiliadau yn symud yn eu blaen o'r ymateb cyntaf i adeiladu achosion, gan ddatblygu agwedd broffesiynol at dystiolaeth, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.
Ewch â'ch sgiliau ymchwilio ymhellach, gan archwilio troseddau cymhleth, diogelu, cudd-wybodaeth a thystiolaeth ddigidol a datblygu eich sgiliau cyfathrebu, asesu risg a gwneud penderfyniadau proffesiynol trwy senarios ymchwilio realistig.
Datblygu sgiliau cyfweld ymchwiliol ymarferol, gan ddysgu sut i gyfathrebu â dioddefwyr, tystion a phobl dan amheuaeth drwy ddilyn model PEACE, dulliau sy’n deall trawma a thechnegau cwestiynu effeithiol.
Ymchwilio i sut mae rhwydweithiau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn gweithredu mewn amgylcheddau ffisegol a digidol, gan ddadansoddi bygythiadau cymhleth a datblygu sgiliau i asesu risgiau a chynllunio ymatebion cymesur.
Datblygu eich sgiliau amddiffyn a diogelu'r cyhoedd, gan ddysgu asesu risg, adnabod pwy sy’n agored i niwed a gwneud penderfyniadau cymesur trwy astudiaethau achos realistig a senarios aml-asiantaeth.
Deall sut mae ymchwilwyr yn troi gwybodaeth, cudd-wybodaeth a deunydd digidol yn dystiolaeth, gan ddatblygu sgiliau i asesu cudd-wybodaeth, dehongli tystiolaeth ddigidol a gwneud penderfyniadau cyfiawn mewn ymchwiliadau cymhleth.
Dewch â phopeth rydych chi wedi'i ddysgu i fynd i'r afael ag ymchwiliadau difrifol a chymhleth, gan gymhwyso sgiliau ymchwilio uwch, barn broffesiynol a meddwl seiliedig ar dystiolaeth trwy brofiad yn y gweithle a heriau yn y byd go iawn.
Byddwch hefyd yn dewis un o ddau fodiwl dewisol, sy'n eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfa.
Archwilio sut mae troseddau economaidd a digidol yn cael eu cyflawni a'u hymchwilio, gan ddatblygu sgiliau ymarferol mewn casglu tystiolaeth, ymchwilio ariannol, cudd-wybodaeth mewn mathau o droseddau cymhleth sy'n dod i'r amlwg.
Archwilio ymchwiliadau cudd a seiliedig ar gudd-wybodaeth, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o dactegau arbenigol, technolegau sy'n dod i'r amlwg a'r egwyddorion cyfreithiol, moesegol a hawliau dynol sy'n llywio eu defnydd.
Cymhwyso sgiliau ymchwilio uwch i droseddau difrifol a chymhleth, a datblygu damcaniaethau, rheoli llinellau ymchwilio a gwerthuso tystiolaeth, risgiau a materion diogelu wrth i achosion symud yn eu blaen at erlyniad.
Ennill profiad ymarferol trwy dreulio o leiaf 70 awr mewn gweithle perthnasol, gan gymhwyso eich dysgu a datblygu eich hyder proffesiynol, eich cyflogadwyedd a’ch dealltwriaeth am gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Mynd i'r afael â her byd go iawn mewn plismona, cyfiawnder troseddol neu wasanaeth cyhoeddus, a defnyddio tystiolaeth, creadigrwydd a meddwl beirniadol i greu atebion ymarferol, moesegol ag effaith broffesiynol.
Datblygu eich dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Archwilio safbwyntiau damcaniaethol, ymatebion polisi, a goblygiadau ymarferol a thyrchu i ymatebion cyfreithiol a pholisi o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Byddwch yn cymhwyso'r gyfraith, polisïau a safonau proffesiynol at achosion realistig, gan adeiladu'r wybodaeth, y farn a'r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus. Wrth i chi symud yn eich blaen, byddwch yn ymgymryd â heriau mwy cymhleth ac yn datblygu eich sgiliau proffesiynol trwy asesu ymarferol ac academaidd. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis llwybr profiad gwaith neu brosiect asesu terfynol cyfatebol.
Byddwch yn dysgu trwy senarios ymchwilio i droseddau realistig, ac yn datblygu eich sgiliau o'r ymateb cyntaf i'r llys. Byddwch yn gweithio gyda thystiolaeth tystion, eitemau tystiolaeth, crynodebau cudd-wybodaeth a deunydd digidol, mewn gweithgareddau, gweithdai ac efelychiadau seiliedig ar achosion, i archwilio gwahanol linellau ymholi. Mae cyfleusterau arbenigol, gan gynnwys CIPHER a'r Ffug Llys, yn rhoi cyfle i chi ymarfer cyfweliadau, archwilio tystiolaeth, gweithio ar y cyd a datblygu eich penderfyniadau ymchwilio.
Byddwch yn cael eich asesu trwy dasgau ymarferol ac academaidd sy'n adlewyrchu realiti gwaith ymchwilio. Byddwch yn datblygu cynlluniau ymchwilio, paratoi strategaethau cyfweld, dadansoddi tystiolaeth a chynhyrchu ffeiliau achos proffesiynol. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gyflwyno tystiolaeth ac esbonio eich penderfyniadau mewn senarios realistig, gan gynnwys yn y Ffug Llys. Wrth i chi symud yn eich blaen, bydd asesiadau yn dod yn fwy cymhleth ac annibynnol, gan eich helpu i adeiladu meddwl beirniadol, cyfathrebu proffesiynol a'r farn i reoli ymchwiliadau yn effeithiol.
Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis llwybr profiad gwaith i roi eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwiliol ar waith mewn lleoliad proffesiynol. Byddwch yn cael eich cefnogi gydag adolygiadau paratoi, goruchwylio a chynnydd trwy gydol eich lleoliad, gan eich helpu i wneud yn fawr o'r profiad a chysylltu eich dysgu â'r yrfa fydd gennych yn y dyfodol. Os nad yw lleoliad yn iawn i chi, gallwch ddewis prosiect academaidd terfynol cyfatebol yn lle.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwilio yn CIPHER, Canolfan Efelychiadau Hydra Minerva, ein cyfleuster lleoliadau trosedd a'n ffug lys barn. Byddwch yn gweithio gyda deunyddiau achos realistig, yn asesu gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg ac yn ymarfer esbonio'ch penderfyniadau. Mae'r amgylcheddau hyn yn eich helpu i gysylltu tystiolaeth, rhesymu ymchwiliol a pharatoi achosion trwy gyfrwng senarios ymarferol.
Arweinydd y Cwrs
Janine Vickery
Janine Vickery yw’r Arweinydd Cwrs ar gyfer gradd BSc Ymchwilio Troseddol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei phrif arbenigedd mewn dysgu efelychiadol, gan ddefnyddio senarios realistig i gefnogi a gwella dysgu, yn seiliedig ar theori. Mae hi'n addysgu pynciau gan gynnwys sut mae bod yn agored i niwed yn digwydd, ac i bwy, y galw am wasanaethau plismona a phlismona gweithredol, ac mae hefyd yn ymgynghorydd i'r Coleg Plismona.
Mae gan Janine brofiad proffesiynol gwerthfawr o'i gyrfa gyda Heddlu Thames Valley, lle bu'n gweithio fel Sarsiant mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys ymateb brys, trefn gyhoeddus, materion yn ymwneud â’r ddalfa, a hyfforddiant recriwtiaid yr heddlu.
Oes gennych gwestiynau am y cwrs, yr arddull addysgu neu a yw'n addas i chi gallwch gysylltu â Janine yn uniongyrchol trwy e-bost.
Gofynion Mynediad
Ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC Safon Uwch
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
Mynediad i AU:
Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Safon T:
P
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Gwerslyfrau
Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200
Lleoliad Gwaith
Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300
DBS
Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Gwerslyfrau
Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200
Lleoliad Gwaith
Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300
DBS
Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Ymchwiliad Troseddol
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.