Cynaliadwyedd

Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy

Ein nod yw ymgorffori cynaliadwyedd ar draws pob agwedd ar y Brifysgol.

Amdanom ni Cynaliadwyedd
A group of people smile proudly at the camera after planting a tree

Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd a gwerth Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC) i bob myfyriwr ac aelod o staff, ac i sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i'w helpu i lwyddo yn wyneb heriau byd-eang y dyfodol ar draws ystod o sectorau.


student-25

Ein Strategaeth 2030

I gefnogi hyn, un o brif nodau Strategaeth 2030 y Brifysgol yw mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â symud tuag at fyd mwy cynaliadwy. Mae'r strategaeth yn cynnwys cyflymydd amgylchedd cynaliadwyedd sydd, yn ei hanfod, yn anelu at greu byd mwy diogel a chynaliadwy. Cefnogir hyn gan ymchwil a chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf ac ystod o gyrsiau a modiwlau sy'n archwilio’r pynciau amgylchedd a chynaliadwyedd.


Llywodraethu ac Adrodd

Wrth ddatblygu ein Strategaeth Sero Net 2040, gwnaethom nodi ADC fel agwedd graidd ar y strategaeth a fyddai'n gofyn am ffocws penodol i yrru camau gweithredu. Mae hyn yn cefnogi'r ymrwymiad i ymgorffori cynaliadwyedd ar draws y cwricwlwm fel un o brif nodau’r Cyflymydd Amgylchedd Cynaliadwy. O ganlyniad, gwnaethom sefydlu grŵp Ffocws Dysgu ac Addysgu sy'n cynnwys academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol o bob rhan o PDC gyda'r prif nod o sbarduno gweithgarwch tuag at gyflawni'r nod hwn.

Mae'r grŵp hwn yn cynnig lle i drafod arferion cyfredol a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chyflawni cynaliadwyedd o fewn addysgu a dysgu, yn enwedig o fewn cyd-destun pob cwrs. Mae hyn bellach hefyd yn cael ei gefnogi gan grŵp deillio o academyddion sydd am adolygu amcanion allweddol ac ail-lunio modiwlau a chynnwys cyrsiau i alinio â'r prosiect llythrennedd carbon a llwybrau ardystio myfyrwyr posibl sy'n gysylltiedig â chyrsiau. Ochr yn ochr â hyn, mae trafodaethau pellach ar gyfer cefnogi staff gydag ymwybyddiaeth ehangach o gynaliadwyedd hefyd yn cael eu harchwilio.

Adroddir am gynnydd a gweithgarwch tuag at gyflawni'r ymrwymiadau sefydliadol i ADC i'r Pwyllgor Cynaliadwyedd dan gadeiryddiaeth Mike Bessell, y Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau.

Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm

Ailddilyswyd cwricwlwm Cyrsiau PDC yn 2022 ac fel rhan o'r broses hon, mae'r egwyddorion dylunio bellach yn cynnwys asesiad o gynaliadwyedd mewn perthynas â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen ac yn sylfaen y gallwn adeiladu momentwm arno, gan ehangu ymhellach ar y cyflawniad hwn. Byddwn ni’n alinio ein gwaith â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy i sicrhau cysondeb ac yn anelu at fapio ein prosiectau yn erbyn y NDCau sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu at gyflawni llawer o'r nodau hyn i gofnodi ein heffaith a dangos ein hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy.

Hyfforddiant Carbon Literacy

Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi ein staff i ddeall effeithiau ein gweithgareddau a'n hallyriadau bob dydd, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant Carbon Literacy fel man cychwyn sylfaenol i unigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy'r dewisiadau a'r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud o ddydd i ddydd.

Rydyn ni hefyd yn deall y gofyniad i roi’r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar ein staff i addysgu a rhannu egwyddorion datblygu cynaliadwy gyda’n myfyrwyr ac integreiddio cynaliadwyedd yn eu cyrsiau a'u modiwlau i adlewyrchu'r meysydd pwnc maen nhw’n eu haddysgu'n gywir. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi'r myfyrwyr i ennill y wybodaeth, y sgiliau, yr agweddau a'r gwerthoedd ymarferol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'u hastudiaeth i wneud y newidiadau diriaethol sy'n angenrheidiol i siapio dyfodol cynaliadwy.

Rydyn ni’n cynnig yr hyfforddiant fel sesiynau ar-lein ar hyn o bryd ond rydyn ni’n adolygu opsiynau i ddarparu sesiynau 'ystafell ddosbarth' wyneb yn wyneb hefyd mewn ymdrech i roi hyblygrwydd i staff ddewis pa un sydd fwyaf addas iddyn nhw o ystyried eu hamserlenni gwaith prysur.

Ymchwil mewn Cynaliadwyedd

Mae PDC yn arbenigo mewn ymchwil o'r radd flaenaf ac mae timau ymchwil PDC yn arwain y ffordd wrth ddatblygu datrysiadau arloesol i rai o heriau mwyaf dybryd y byd. O brofi batris gradd fasnachol i ddatrysiadau hydrogen gwyrdd, cydnabyddir effaith ymchwil PDC fel un sy’n arwain y byd. Mae ein gwaith yn cynnig mewnwelediadau pwysig o ran sut y gallwn ddefnyddio adnoddau'n gynaliadwy, gwella cadwraeth bioamrywiaeth ac ecosystemau, a chreu planed a byd iach y gall pobl fyw ynddo nawr ac yn y dyfodol.

Grwpiau a Phrosiectau Ymchwil

Mae ymchwil ac arloesi’r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) yn gyrru datblygiadau mewn dealltwriaeth, technoleg ac arferion i drawsnewid sut mae cymdeithas yn rhyngweithio â'r amgylchedd ac adnoddau naturiol. Yn rhan o SERC, mae’r Ganolfan Hydrogen ym Maglan ym Mhort Talbot yn ganolbwynt ar gyfer datblygu technoleg ynni hydrogen yng Nghymru.

Wedi'i lleoli ar ein Campws Glyn-taf yn Nhrefforest, mae'r Ganolfan ar gyfer Treulio Anaerobig (TA) yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu wedi’i dargedu mewn cydweithrediad â’r diwydiant i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau arloesol ar draws y sector TA.

Mae ein hymchwil Deunydd Peirianneg Uwch a Chynaliadwy, sy’n rhan o'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Peirianneg, yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau gwydn, carbon isel sy’n effeithlon o ran adnoddau ar gyfer yr economi adeiladu gylchol, gan gynnwys defnyddio agregau wedi'u hailgylchu fel sment a choncrit. Mae'r Ganolfan Profi Deunyddiau Uwch (AMTeC) yn cynnig cyfleusterau arbenigol ac arbenigedd ar gyfer profi ac asesu deunyddiau/strwythurol.

Mae Grŵp Ymchwil ac Arloesi (GYA) y Ddaear, Ecoleg a’r Amgylchedd yn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang trwy gynnig datrysiadau effeithiol sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ecolegol a chadwraeth amgylcheddol.

Mae ein hymchwil arloesol yn rhychwantu ecosystemau amrywiol ledled y byd—o'r Cylch Arctig a choedwigoedd glaw trofannol i wlyptiroedd, coetiroedd ac ucheldiroedd Cymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng bywyd gwyllt, pobl a'r amgylchedd i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy sy'n cydbwyso'r defnydd o adnoddau naturiol â gwarchod bioamrywiaeth a lles pobl.

Flowers blooming outside the Student's Union in Treforest

Labordai Byw

Mae PDC yn awyddus i gefnogi ac annog y defnydd o'n cyfleusterau a'n safleoedd i rymuso myfyrwyr ac ymchwilwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu ac ymchwil go iawn a all fod o fudd i PDC tra'n dod â manteision cymdeithasol a/neu amgylcheddol i'r gymuned ehangach gan ddefnyddio dull 'labordy byw'. Rydyn ni’n awyddus i gefnogi ac archwilio cyfleoedd 'labordy byw' arloesol a all helpu i greu newid cadarnhaol wrth ddatblygu cyfleoedd i'n myfyrwyr helpu i ddatblygu’r agenda cynaliadwyedd.

Mae myfyrwyr sydd wedi'u lleoli ar ein Campws Glyn-taf wedi bod yn defnyddio trapiau camera i fonitro ac ymchwilio i boblogaethau draenogod ar y campws.

Ar Gampws Glyn-taf Uchaf mae gennym amrywiaeth o labordai sy'n cefnogi'r gwyddorau cemegol a biolegol. Defnyddir y rhain i gyflwyno dosbarthiadau ymarferol (a rhywfaint o ymchwil) ym meysydd Botaneg, Sŵoleg a Gwyddor yr Amgylchedd. Mae gennym gasgliad amgueddfa bach a ddefnyddir i addysgu am ddosbarthiadau biolegol ac adnabod rhywogaethau. Mae gennym hefyd gyfleusterau ar gyfer Gwyddor Pridd gan gynnwys asesu cynnwys a cholledion carbon o Fawnogydd.

Mae gan y Brifysgol sawl ardal werdd ar draws ei champysau. Yr amlycaf yw’r Coetir ar Gampws Trefforest a'r ardaloedd Blodau Gwyllt ar Gampws Glyn-taf Uchaf. Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn cefnogi addysg myfyrwyr a phrosiectau ar bynciau Ecoleg a Gwyddor yr Amgylchedd, yn enwedig o ran hyfforddiant adnabod rhywogaethau ac asesiadau bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n gweithio gyda myfyrwyr a staff i gytuno ar gynlluniau i ailwylltio ardaloedd dynodedig o'n campysau i gynyddu bioamrywiaeth, rhywogaethau ac amrywiaeth planhigion. Rydyn ni wedi dynodi ardaloedd gwyllt ar gampws Glyn-taf a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer ymchwil israddedig ac ôl-raddedig ar fonitro rhywogaethau.

Ar y cyd â Choed Caerdydd, mae myfyrwyr a staff PDC wedi bod yn plannu coed yn ein hadeilad Atriwm yng Nghaerdydd, sy'n rhoi amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth dechnegol iddynt.

Defnyddiodd ein myfyrwyr Dylunio Mewnol ardal y teras allanol yn ein campws yng Nghaerdydd i ddatblygu cysyniad dylunio creadigol fel 'cynnig byw' yn seiliedig ar friff cleient penodol. Mae'r briff yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu dyluniadau ar gyfer ardal les i staff a myfyrwyr ei mwynhau sy'n cyfrannu at fioamrywiaeth ac yn ystyried yr amcanion a'r targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth PDC.

Mae myfyrwyr PhD wedi adolygu gosodiadau solar ffotofoltäig presennol a darparwyd data cynhyrchu mesuredig yn rheolaidd i gyfrannu at eu hastudiaethau.

Ysgoloriaethau

Mae gan PDC Ysgoloriaeth Noddfa Ffoaduriaid sy'n cynnig cymorth i ffoaduriaid cymwys drwy 15 wythnos neu lai o hyfforddiant Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.

Cynllun Noddfa Ffoaduriaid PDC