Bwrsariaeth Deithio Seicoleg
Mae'r fwrsariaeth deithio hon ar gyfer unrhyw fyfyriwr Prifysgol De Cymru sy'n astudio cyrsiau gradd israddedig sy'n gysylltiedig â seicoleg ac yn ymgymryd â'u blwyddyn rhyngosod yn y flwyddyn academaidd 2027/28.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
Gwerth £500, rhoddir y fwrsariaeth un-tro hon, heb brawf modd, i bob myfyriwr sy'n dechrau eu blwyddyn rhyngosod fel rhan o'u cwrs gradd. Bwriad y fwrsariaeth yw darparu cefnogaeth ariannol tuag at eich costau teithio i'ch lleoliad rhyngosod ac yn ôl.
Sut mae'n gweithio?
I fod yn gymwys, mae angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
-
Ar hyn o bryd yn astudio gradd israddedig amser llawn gymwys, rhyngosod ar un o'r cyrsiau canlynol:
- Byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn rhyngosod yn ystod y flwyddyn academaidd 2027/28.
Ar ôl cofrestru ar gyfer eich blwyddyn rhyngosod, byddwch yn derbyn £500 fydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc trwy BACS, yn ystod eich tymor cyntaf (erbyn diwedd mis Hydref 2027).
Ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, nid oes angen unrhyw gamau pellach.
Ar ôl cofrestru ar gyfer eich blwyddyn rhyngosod, byddwch yn derbyn e-bost gan y Brifysgol yn ystod mis Medi 2027 yn cadarnhau y bydd y fwrsariaeth deithio yn cael ei thalu a manylion ychwanegol.
Cysylltwch â [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y fwrsariaeth.