Lleoedd ar gael ym mis Medi

Marchnata a Hysbysebu

O ddylunio ymgyrchoedd a brandio i seicoleg defnyddwyr a strategaeth ddigidol, mae ein graddau marchnata a hysbysebu yn archwilio sbectrwm llawn marchnata modern. 

Gweld y Cyrsiau  Archebu Diwrnod Agored
Advertising student art work for Gradfest 2024

Wedi'ch lleoli yng nghanol sector creadigol Caerdydd, byddwch yn datblygu'r sgiliau creadigol a dadansoddol sydd eu hangen arnoch i lunio brandiau a gyrru canlyniadau yn y byd digidol heddiw. 


Yr unig gwrs marchnata â thri achrediad yn y DU 

Mae cwrs Marchnata PDC wedi'i achredu gan CIM, PRCA ac IDM, gan roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd i chi sy'n cael eu gwerthfawrogi gan y prif gyflogwyr. 

Y gorau yng Nghymru 

Mae marchnata yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran ansawdd addysgu a gwerth ychwanegol (Guardian University Guide 2026).

Briffiau o’r byd go iawn

Byddwch yn mynd i'r afael â briffiau byw gyda brandiau fel Nike a Google o flwyddyn gyntaf ein gradd Hysbysebu. Cewch brofiad ymarferol sy'n arwain at amryw rolau yn y diwydiant. 

Dan arweiniad arbenigwyr 

Byddwch yn dysgu gan dîm o weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor. 

Dod o hyd i'ch cwrs

Hysbysebu - BA (Anrh)

Rhyddhewch eich creadigrwydd a'ch syniadau strategol a busnes, a dysgwch sut i greu negeseuon pwerus sy'n gwneud i bobl wrando ac ymgysylltu. Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu syniadau gwreiddiol, yn meistroli’r grefft o greu cynnwys a chynhyrchu ymgyrchoedd, ac yn gweithio ar friffiau cleientiaid yn y byd go iawn, i gyd wrth hogi eich sgiliau i apelio at gynulleidfaoedd a meddwl defnyddwyr trwy lwyfannau hysbysebu.

Marchnata a Hysbysebu Saved

Marchnata - BSc (Anrh)

Eich rhoi chi yn gonolog i fusnes, dysgu sut i lunio profiadau defnyddwyr, rhagweld anghenion a gyrru gwerth ar draws diwydiannau amrywiol.


Marchnata gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn dysgu trwy dasgau rhyngweithiol, cymhwysol, prosiectau cydweithredol ac astudiaeth annibynnol, gan feithrin sgiliau mewn cyfathrebu, ymchwil, datrys problemau a rhuglder digidol. Mae gweithgareddau myfyriol yn eich helpu i gysylltu damcaniaeth â chyd-destunau marchnata byd go iawn, gan greu sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn eich gradd Marchnata a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Marchnata a Hysbysebu Saved

Marchnata Strategol a Digidol - MSc

Meddyliwch yn feirniadol, arloeswch, ac adeiladwch eich hyder wrth roi strategaethau marchnata sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial ar waith gyda heriau go iawn yn y gwaith, wedi'u seilio ar astudiaethau craidd o farchnata cynaliadwy a dylunio marchnata drwy brofiadau.

Marchnata a Hysbysebu Saved

Oeddech chi'n gwybod?

Advertising student working at a desk
  • Mae Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru. (Guardian University Guide 2026) 

  • Mae Busnes, Rheoli a Marchnata ymhlith y 5 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am Ansawdd Addysgu. (The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)

Oeddech chi'n gwybod?

#1

Mae Marchnata yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr ac ar y brig yn y DU o ran ansawdd addysgu.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
  • Mae Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru. (Guardian University Guide 2026) 

  • Mae Busnes, Rheoli a Marchnata ymhlith y 5 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am Ansawdd Addysgu. (The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)


Y Tu Mewn i'r Pwnc

A film camera set up in front of a green screen.
An example of student work that shows a billboard campaign inspired by the brand Dove. It shows a woman with long brown hair, covering her eye with the other half of her face pixelated. The text reads
cardiff-facilities-podcast-suite-4

student-25

Ysgol Fusnes De Cymru

Mae Ysgol Fusnes De Cymru ar flaen y gad gyda'i haddysg fusnes, marchnata a chyfrifyddu sy'n cael ei harwain gan ymarfer.

Rydyn ni’n ymgysylltu â'r diwydiant ac yn defnyddio cwricwlwm sy'n seiliedig ar heriau i helpu myfyrwyr i fwrw at ei gyrfa yn syth bin.


student-25

Gŵyl Graddedigion Creadigol

Mae Gŵyl Graddedigion Creadigol yn arddangosfa ar-lein o waith blwyddyn olaf gan fyfyrwyr ar draws cyrsiau creadigol PDC. Mae'n rhoi sylw i'r syniadau, y sgiliau a'r prosiectau a ddatblygwyd gan fyfyrwyr wrth iddynt baratoi at yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.


Astudiwch yng nghanol Caerdydd

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


student-25

Prosbectws digidol

Creu prosbectws digidol personol eich hun ac archwiliwch Brifysgol De Cymru yn ffordd eich hun. Edrychwch ar gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd, gweld sut beth yw bywyd myfyrwyr, ac adeiladu rhywbeth o amgylch yr hyn sy'n bwysig i chi.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru