Rhannu Eich Gwaith
Mae rhannu eich ymarfer, eich canfyddiadau a'ch myfyrdodau yn rhan bwysig o ymchwil pedagogaidd a datblygiad proffesiynol. Mae CELT yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i rannu eich gwaith.
Yn yr Ysgoloriaeth Addysgu a Dysgu (SoTL) mae'n bwysig rhannu eich gwaith gyda chydweithwyr a chymheiriaid. Gall rhannu eich gwaith ddangos effaith ysgolheigaidd, a bod yn dystiolaeth ddefnyddiol wrth wneud cais am gydnabyddiaeth broffesiynol o gynlluniau fel CATE, NTFS a PSF.
Cadwch olwg am gyfleoedd i gyflwyno eich canfyddiadau yn lleol ac yn genedlaethol. Mae pob maes academaidd yn cynnal cynadleddau a chyfarfodydd lle gallwch gysylltu ag eraill yn eich maes pwnc. Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau dysgu ac addysgu yn ffordd wych o ddysgu mwy am ddulliau addysgu ac arferion ysgolheigaidd.
Mae digonedd o ffyrdd i rannu eich gweithgareddau ysgolheigaidd gyda chydweithwyr, cymunedau ymchwil, a’r gymuned addysg uwch ehangach, gan gynnwys:
- Defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol, fel LinkedIn.
- Rhannwch eich canfyddiadau â Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Addysgeg Prifysgol De Cymru (RIG).
- Adneuo eich gwaith mewn cadwrfeydd digidol a Pur.
- Cyhoeddi mewn cyfnodolion ar-lein.
- Ymgysylltu â sianeli digidol amrywiol eraill, megis podledu.
- Cyfrannu at ddigwyddiadau, seminarau a chynadleddau dan arweiniad CELT.
Sefydliadau ysgolheigaidd
Mae gan y Brifysgol aelodaeth sefydliadol gydag amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu ystod o gyfleoedd ysgoloriaeth ac ymchwil.
Gallwch hefyd ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost PDC i gofrestru ar gyfer y sefydliadau canlynol:
Cymdeithas Technoleg Dysgu (ALT)
ALT yw’r corff proffesiynol mwyaf blaenllaw ar gyfer Technoleg Dysgu yn y DU, ac mae’n darparu cydnabyddiaeth ac achrediad i bawb sydd â diddordeb proffesiynol mewn Technoleg Dysgu. Mae ALT yn cynnal y cyfnodolyn Research in Learning Technology sydd â'r nod o godi proffil ymchwil mewn technoleg dysgu.
NEON — y Rhwydwaith Cyfleoedd Addysg Cenedlaethol
NEON yw'r sefydliad proffesiynol sy'n cefnogi'r rhai sy'n ymwneud ag ehangu mynediad i addysg uwch. Mae NEON yn cynnig cynlluniau cydnabod, gweithgareddau datblygu, a chyfleoedd ymchwil.
SEDA — Cymdeithas Datblygu Staff ac Addysg
SEDA yw'r gymdeithas broffesiynol ar gyfer datblygwyr addysgol yn y DU, sy'n hyrwyddo arloesedd ac arfer da mewn addysg uwch. Mae SEDA yn cynnig y cyfle i fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o bobl sy'n ymwneud â datblygiad addysgol ynghyd ag adnoddau ysgolheigaidd.
UKAT — Cymdeithas Cynghori a Thiwtora’r Deyrnas Unedig
Mae UKAT yn gorff o ymarferwyr ac ymchwilwyr sy'n hyrwyddo ysgolheictod ac ymarfer tiwtora personol mewn Addysg Uwch yn y DU. Mae UKAT yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gydweithio a rhannu arferion sy’n cefnogi llwyddiant myfyrwyr gyda thiwtoriaid a chynghorwyr arbenigol ar draws y sector.