Yn dangos 207 cwrs
Diabetes - PGDip

Mae'r cwrs clinigol hwn mewn diabetes, sy'n cael ei gynnal gyda'n partner cydweithredol Diploma MSc, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.


Doethur mewn Athroniaeth - PhD

Dod yn arbenigwr, datrys heriau cymhleth, a chael effaith ystyrlon trwy ymchwil wreiddiol.


Nyrsio Dychwelyd i Ymarfer

Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.


Ffasiwn Dylunio Ffasiwn - BA (Anrh)

Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.


Dylunio Dylunio Setiau Teledu a Ffilm - BA (Anrh)

Ymgollwch ym myd cyffrous dylunio cynyrchiadau ffilm a theledu trwy ddysgu prosesau dylunio, cyfarwyddo ffilmiau byr a pharatoi i gamu i adrannau celf ffilm a theledu.


Economeg Iechyd Cymhwysol - MSc

Nod yr MSc Economeg Iechyd yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth Economeg Iechyd.


Economeg Iechyd Cymhwysol - PGDip

Mae'r cwrs yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae Economeg Iechyd wedi dod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau gofal iechyd, yn ogystal â deall yr egwyddorion, y methodolegau a'r prosesau sylfaenol.


Endocrinoleg - PGDip

Bydd y cwrs ar-lein hwn, sy'n cael ei gynnal gyda'r partner cydweithredol Diploma MSc, yn eich helpu i ddatblygu dulliau creadigol o ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a dod yn eiriolwr pwysig wrth ddarparu gofal i bobl â phroblemau sy'n gysylltiedig ag endocrinoleg.


Ffilm a'r Cyfryngau Ffilm (Golygu) - MA

Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr eraill a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan hogi eich sgiliau golygu ac ennill profiad yn y byd go iawn trwy gydweithio.


Ffilm a'r Cyfryngau Ffilm (Rheoli Cynhyrchiad) - MA

Mireiniwch eich arbenigedd ym maes Cynhyrchu trwy ennill profiad gyda phartneriaid yn y diwydiant a chydweithio â myfyrwyr PDC o'r arbenigeddau MA Ffilm eraill, er mwyn arwain a llwyddo mewn ym maes cynhyrchu ffilm.


Ffilm a'r Cyfryngau Ffilm (Sinematograffeg) - MA

Arbenigwch mewn sinematograffeg trwy gydweithio â myfyrwyr eraill yn PDC a gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn datblygu eich sgiliau.


Ffilm a'r Cyfryngau Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y Sgrîn) - MA

Cyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyd-fyfyrwyr PDC, cael mewnwelediadau, myfyrio'n feirniadol a chywreinio eich ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau cynhyrchu gyda myfyrwyr o’r llwybrau MA Ffilm eraill ar ymarferion ffilm yn semester 1 ac wedyn ar ffilm fer yn semester 2.


Ffisioleg Glinigol - MSc

Os ydych yn barod i symud ymlaen ond ddim eisiau gohirio’ch gyrfa, ein MSc Ffisioleg yw eich llwybr cyflym i swyddi uwch.


Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Fforensig Digidol - BSc (Anrh)

P'un a yw troseddu yn digwydd ar-lein neu'n cael ei drefnu trwy sianeli digidol, mae fforensig digidol yn allweddol i ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Pan fyddwch chi'n astudio BSc mewn fforensig ddigidol, byddwch chi'n dysgu sut i gyrchu, casglu a dehongli data i ddatgelu'r gwir a gwasanaethu fel tyst arbenigol.

Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth - BA (Anrh)

Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.


Gastroenteroleg - PGDip

Nod y cwrs damcaniaethol ar-lein hwn yw hwyluso gwell dealltwriaeth o anhwylderau gastroenteroleg cyffredin a geir yn y gymuned gan amlaf a galluogi myfyrwyr i uwchsgilio mewn diagnosteg a rheoli anhwylderau gastroenterolegol.


Gofal Iechyd sy'n Niwroamrywiaeth-gynhwysol - PGCert

Bydd cwblhau ein cwrs gofal iechyd ar-lein sy'n gynhwysol o ran niwroamrywiaeth yn llwyddiannus yn ychwanegu gwerth at eich CV a bydd yn eich galluogi i ymateb i heriau darparu gofal o ansawdd uchel i'ch cleifion o fewn amgylchedd gofal sylfaenol ac eilaidd cymhleth.


Nyrsio Gofal Lliniarol - PGCert

Mae gofal lliniarol yn rhan hanfodol o ofal cyfannol, ac mae'n ddull aml-broffesiynol yn ei hanfod. Mae'r cwrs dysgu o bell hwn yn cyfuno adnoddau rhagorol a chefnogaeth gan arweinydd y cwrs, sy'n eich galluogi i gyfuno astudio ac ymrwymiadau proffesiynol.


Gorbwysedd - PGCert

Gyda ffocws unigryw ar reoli gorbwysedd mewn poblogaethau arbennig, mae'r cwrs hwn yn sefyll allan trwy gynnig cymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn sydd o fudd i'ch cleifion a'ch ymarfer ar unwaith.


Addysg ac Addysgu Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd - BA (Anrh)

Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.