Mae'r cwrs clinigol hwn mewn diabetes, sy'n cael ei gynnal gyda'n partner cydweithredol Diploma MSc, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.
Dod yn arbenigwr, datrys heriau cymhleth, a chael effaith ystyrlon trwy ymchwil wreiddiol.
Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.
Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.
Ymgollwch ym myd cyffrous dylunio cynyrchiadau ffilm a theledu trwy ddysgu prosesau dylunio, cyfarwyddo ffilmiau byr a pharatoi i gamu i adrannau celf ffilm a theledu.
Nod yr MSc Economeg Iechyd yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth Economeg Iechyd.
Mae'r cwrs yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae Economeg Iechyd wedi dod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau gofal iechyd, yn ogystal â deall yr egwyddorion, y methodolegau a'r prosesau sylfaenol.
Bydd y cwrs ar-lein hwn, sy'n cael ei gynnal gyda'r partner cydweithredol Diploma MSc, yn eich helpu i ddatblygu dulliau creadigol o ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a dod yn eiriolwr pwysig wrth ddarparu gofal i bobl â phroblemau sy'n gysylltiedig ag endocrinoleg.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr eraill a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan hogi eich sgiliau golygu ac ennill profiad yn y byd go iawn trwy gydweithio.
Mireiniwch eich arbenigedd ym maes Cynhyrchu trwy ennill profiad gyda phartneriaid yn y diwydiant a chydweithio â myfyrwyr PDC o'r arbenigeddau MA Ffilm eraill, er mwyn arwain a llwyddo mewn ym maes cynhyrchu ffilm.
Arbenigwch mewn sinematograffeg trwy gydweithio â myfyrwyr eraill yn PDC a gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn datblygu eich sgiliau.
Cyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyd-fyfyrwyr PDC, cael mewnwelediadau, myfyrio'n feirniadol a chywreinio eich ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau cynhyrchu gyda myfyrwyr o’r llwybrau MA Ffilm eraill ar ymarferion ffilm yn semester 1 ac wedyn ar ffilm fer yn semester 2.
Os ydych yn barod i symud ymlaen ond ddim eisiau gohirio’ch gyrfa, ein MSc Ffisioleg yw eich llwybr cyflym i swyddi uwch.
P'un a yw troseddu yn digwydd ar-lein neu'n cael ei drefnu trwy sianeli digidol, mae fforensig digidol yn allweddol i ddod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Pan fyddwch chi'n astudio BSc mewn fforensig ddigidol, byddwch chi'n dysgu sut i gyrchu, casglu a dehongli data i ddatgelu'r gwir a gwasanaethu fel tyst arbenigol.
Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.
Nod y cwrs damcaniaethol ar-lein hwn yw hwyluso gwell dealltwriaeth o anhwylderau gastroenteroleg cyffredin a geir yn y gymuned gan amlaf a galluogi myfyrwyr i uwchsgilio mewn diagnosteg a rheoli anhwylderau gastroenterolegol.
Bydd cwblhau ein cwrs gofal iechyd ar-lein sy'n gynhwysol o ran niwroamrywiaeth yn llwyddiannus yn ychwanegu gwerth at eich CV a bydd yn eich galluogi i ymateb i heriau darparu gofal o ansawdd uchel i'ch cleifion o fewn amgylchedd gofal sylfaenol ac eilaidd cymhleth.
Mae gofal lliniarol yn rhan hanfodol o ofal cyfannol, ac mae'n ddull aml-broffesiynol yn ei hanfod. Mae'r cwrs dysgu o bell hwn yn cyfuno adnoddau rhagorol a chefnogaeth gan arweinydd y cwrs, sy'n eich galluogi i gyfuno astudio ac ymrwymiadau proffesiynol.
Gyda ffocws unigryw ar reoli gorbwysedd mewn poblogaethau arbennig, mae'r cwrs hwn yn sefyll allan trwy gynnig cymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn sydd o fudd i'ch cleifion a'ch ymarfer ar unwaith.
Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.