Yn dangos 187 cwrs
Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Animeiddio (2D a Stop-Symud) - BA (Anrh)

Yn PDC byddwch yn datblygu eich llais creadigol trwy brosiectau, cydweithrediadau, briffiau byw ac ymweliadau â stiwdios, gan feistroli sgiliau 2D neu Stop-symud i raddio’n barod ar gyfer y stiwdio.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cyfrifeg a Chyllid Archwilio Fforensig a Chyfrifeg - MSc

Mae cwrs Meistr mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifyddu uchel ei barch Prifysgol De Cymru – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd ac mae’n darparu sgiliau arbenigol mewn ymchwilio i dwyll, prisio, helpu i ddatrys anghydfodau, adroddiadau arbenigol ac ymchwiliadau seiber.


Busnes a Rheolaeth Arwain a Rheoli - MSc

Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.


Addysg ac Addysgu Arwain a Rheoli (Addysg) - MA

Datblygwch y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau ymarferol i arwain yn effeithiol mewn lleoliadau addysgol ac ym maes dysgu proffesiynol.


Chwaraeon Arwain mewn Chwaraeon - MA

Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant


Nyrsio Arwain mewn Gofal Iechyd - MSc

Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth i sefyllfaoedd cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd, a sut i harneisio potensial adnoddau dynol mewn sefydliadau gofal iechyd.


Busnes a Rheolaeth Arwain Trawsnewid Digidol - MSc

Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.


Troseddeg, Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus Arweinyddiaeth mewn Plismona Proffesiynol - MSc

Mae ein gradd Heddlua Proffesiynol wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn ac wedi darparu addysg i’r heddlu ers degawdau. Gan adeiladu ar hynny, fe gynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y sector heddlua.

Troseddeg, Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd Astudiaethau Bwdhaidd - MA

Byddwch yn archwilio traddodiadau Bwdhaidd dan arweiniad arbenigwyr ac yng nghwmni cyd-fyfyrwyr o bedwar ban byd, ar-lein, yn rhan amser, mewn ffordd sy’n addas i chi.

Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Nyrsio Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Ymarferydd Arbenigol Nyrsio Ardal) - PGDip

Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (CYANA), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.


Nyrsio Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Ymarferydd Arbenigol Nyrsio Plant yn y Gymuned) - PGDip

Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Plant Cymunedol (CYANPC), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.


Iechyd a Gofal Cymdeithasol Astudiaethau Plentyndod (Atodol) - BSc (Anrh)

Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Chwaraeon Busnes a Rheoli Chwaraeon - BA (Anrh)

Nid yw chwaraeon byth yn sefyll yn llonydd ac ni fyddwch chi chwaith. Mae'r cwrs hwn yn datblygu meddwl busnes craff, ymwybyddiaeth fasnachol a hyder i arwain trwy brofiad ymarferol, mewnwelediad i'r diwydiant a dysgu cymhwysol.


Busnes a Rheolaeth Busnes Rhyngwladol (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r radd BA (Anrh) mewn Busnes Rhyngwladol yn canolbwyntio ar y byd cynyddol fyd-eang rydyn ni'n byw ynddo. Bydd cael dealltwriaeth dda o'r agweddau allweddol ar gyflawni busnes ar raddfa fyd-eang yn sicr yn fanteisiol i chi yn y gweithle.


Caethiwed Meddygaeth - PGCert

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig hon mewn Meddygaeth Caethiwed wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â chymhwyster israddedig Prifysgol mewn maes meddygol.


Addysg ac Addysgu CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) - MA

Bydd yr MA hwn, sydd wedi’i lywio gan ymchwil, yn eich helpu i adfyfyrio ar arferion presennol, i archwilio materion allweddol ym maes CAMH a lles, ac i gael effaith gadarnhaol a pharhaol trwy eich taith broffesiynol neu academaidd.


Celf a Llesiant Creadigol Celfyddydau, Iechyd a Lles - MA

Ydych chi'n barod i gyfuno eich cariad at y celfyddydau ag angerdd am wella iechyd a lles? Defnyddiwch eich creadigrwydd i sbarduno newid cadarnhaol a chael effaith wirioneddol.

Celf a Llesiant Creadigol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Chwaraeon Cryfder a Chyflyru - BSc (Anrh)

Astudiwch Gryfder a Chyflyru a dysgwch sut i helpu pobl i symud yn well, perfformio'n hyderus, ac aros yn iach. Datblygwch sgiliau hyfforddi ymarferol ac agorwch lwybrau gyrfa ar draws amgylcheddau chwaraeon, ffitrwydd, iechyd a lles, a pherfformiad.


Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi - MA

Mae’r cwrs MA mewn Cwnsela a Seicotherapi Integreiddiol yn hwyluso myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol ddadansoddol a gwerthusol o theori ac ymarfer therapiwtig yn y maes cwnsela a seicotherapi integreiddiol.


Seicotherapi a Chwnsela Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi - PGDip

Mae’r cwrs cwnsela a seicotherapi integreiddiol dwy flynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn pwysleisio integreiddio theori, ymchwil, ymarfer therapiwtig, ac ymrwymiad i hunanymwybyddiaeth, i’ch helpu i ddatblygu i fod yn gwnselydd a seicotherapydd proffesiynol sy’n ddiogel, yn foesegol, yn wrthormesol, yn berthynol ac yn greadigol.

Seicotherapi a Chwnsela Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs