Cryfder a Chyflyru
Dan arweinyddiaeth arbenigwyr o fewn y diwydiant, mae ein gradd Cryfder a Chyflyru’n eich darparu chi gyda hyfforddiant holl gynhwysfawr sydd wedi ei gymeradwyo gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Cryfder a Chyflyru (NSCA yn Saesneg) a Chymdeithas Prifysgolion Rhyngwladol ar gyfer Cryfder a Chyflyru (IUSCA yn Saesneg). Byddwch yn elwa o brofiad ymarferol ym Mharc Chwarae Prifysgol De Cymru ac yn ennill cymwysterau gwerthfawr CIMPSA (y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol), fydd yn gymorth i’ch gwthio chi tuag at lwyddiant o fewn y maes hyfforddi chwaraeon.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio Gyda NiManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
62B1
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Paratowch at yrfa mewn hyfforddi chwaraeon gyda’n gradd mewn Cryfder a Chyflyru er mwyn ennill y sgiliau a’r technegau y mae’r timau elitaidd yn eu chwennych.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Crëwyd y cwrs gan arweinwyr byd-eang y diwydiant, mae ein Baglor yn y Gwyddorau mewn Cryfder a Chyflyru’n cynnig y cyfuniad perffaith o wyddoniaeth, ymarfer ac arbenigedd hyfforddi. Mae’r cwrs wedi ei deilwra i safonau proffesiynol, a bydd yn eich darparu gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y maes cryfder a chyflyru.
Achredir y cwrs gan
- Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA)
- Cymdeithas Genedlaethol Cryfder a Chyflyru (NSCA)
- Cymdeithas Ryngwladol Cryfder a Chyflyru Prifysgolion (IUSCA)
Llwybrau Gyrfaol
- Cryfder a Chyflyru
- Gwellhad
- Hyfforddiant personol
- Y Gwasanaethau Golau Glas
- Addysgu
- Lles corfforaethol
- Entrepreneuriaeth yn y sector cryfder a chyflyru
Y Sgiliau a ddysgir
- Meddwl yn feirniadol
- Cyfathrebu
- Datrys problemau’n greadigol
- Hyfedredd mewn ystadegau a data
- Ymchwil
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd y cwrs hwn yn gyflwyniad i’r maes cryfder a chyflyru, sy’n hanfodol er mwyn rhoi hwb i’ch perfformiad athletaidd a’ch ffitrwydd. Byddwch yn ennill deallusrwydd gwyddonol ar y cyd â thechnegau hyfforddi, sgiliau ymarferol a phrofiad ymarferol. Drwy theori ac ymarfer, byddwch yn dylunio ac yn darparu rhaglenni hyfforddi effeithiol.
Blwyddyn un
- Hanfodion Hyfforddiant Gwrthiant
- Datblygiad Athletaidd
- Anatomeg a Ffisioleg*
- Hyfforddi Cyflymdra, Ystwythder a Datblygiad Dycnwch
- Hyfforddi Hanfodion Cryfder a Chyflyru
- Cyflwyniad i Sgrinio, Atal ac Adfer
Blwyddyn dau
- Dylunio a Gweinyddu Rhaglenni Cryfder a Chyflyru
- Codi pwysau
- Maetheg Chwaraeon
- Monitro, Profi a Gwerthuso mewn Chwaraeon Tîm
- Dulliau Ymchwilil
- Gwella Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Dewisol)
- Lleoliad Gwaith Chwaraeon* (Dewisol)
- Ymarfer Corff ar gyfer Poblogaethau Arbennig (Dewisol)
Blwyddyn tri
- Materion Amserol o fewn y maes Cryfder a Chyflyru
- Gwyddoniaeth Gymhwysol o fewn Cryfder a Chyflyru
- Hyfforddi Poblogaethau Arbennig
- Prosiect Proffesiynol Cymhwysol (ar-lein) (Dewisol)
- Traethawd Estynedig (Dewisol)
- Dysgu’n Seiliedig ar Waith* (Dewisol
- Gwellhad Uwch o Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Dewisol)
*Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu dulliau hyfforddi gwrthiant effeithiol, yn cynllunio datblygiad athletaidd hirdymor, ac yn ennill trosolwg o systemau ffisiolegol allweddol. Byddwch hefyd yn archwilio dulliau o hyfforddi ar gyfer cyflymder, ystwythder a dycnwch, byddwch yn dod i ddeall egwyddorion gwyddonol cryfder a chyflyru, ac yn astudio asesiadau symudiad, atal anafiadau, ac adfer.
Hanfodion Hyfforddiant Gwrthiant
Dysgwch am y theori y tu ôl i hyfforddiant gwrthiant, gan ganolbwyntio ar sut i hyfforddi unigolion yn effeithiol.
Datblygiad Athletaidd
Darganfyddwch sut i gynllunio hyfforddiant dros amser a datblygu athletwyr yn yr hirdymor. Byddwch yn dysgu am y symudiadau hanfodol ar gyfer perfformiad gwell.
Anatomeg a Ffisioleg*
Enillwch drosolwg eang o’r prif systemau ffisiolegol yn cynnwys y systemau cyhyrysgerbydol, niwroysgerbydol, cardiofasgwlaidd a’r system anadlol.
Hyfforddi Cyflymdra, Ystwythder a Datblygiad Dycnwch
Archwiliwch y ffactorau a all gyfyngu cyflymder, ystwythder a dycnwch mewn chwaraeon. Byddwch yn archwilio’r hyn sydd ei hangen ar bob elfen ar gyfer y perfformiad gorau oll mewn gwahanol sefyllfaoedd o fewn y byd chwaraeon.
Hyfforddi Hanfodion Cryfder a Chyflyru
Enillwch gyflwyniad i’r egwyddorion gwyddonol sy’n cynnal cryfder a chyflyru.
Cyflwyniad i Sgrinio, Atal ac Adfer
Astudiwch y theorïau a’r arferion ar gyfer asesu symudiad, atal anafiadau chwaraeon a chynorthwyo iachâd.
*Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu am hyfforddiant codi pwysau, ac yn astudio maetheg chwaraeon. Byddwch yn archwilio dulliau o fonitro a phrofi chwaraeon tîm ac yn archwilio gwahanol ddulliau ymchwil. Mae’r unedau gwaith dewisol yn cynnwys adfer, ymarfer corff ar gyfer poblogaethau arbennig a lleoliad gwaith o fewn y maes chwaraeon ar gyfer profiad ymarferol.
Dylunio a Gweinyddu Rhaglenni Cryfder a Chyflyru
Archwiliwch bwysigrwydd cynllunio a rheoli rhaglenni’n effeithiol, yn cynnwys yr athroniaethau perthnasol i wneud hynny.
Codi pwysau
Datblygwch sgiliau ymarferol codi pwysau, yn cynnwys sut i hyfforddi cynnydd. Byddwch yn canolbwyntio ar ddadansoddi perfformiad, monitro a chreu rhaglennu hyfforddi effeithiol.
Maetheg Chwaraeon
Astudiwch strategaethau maetheg poblogaidd a newydd er mwyn cynyddu perfformiad ymarfer corff a chwaraeon.
Monitro, Profi a Gwerthuso mewn Chwaraeon Tîm
Ehangwch ar addysg eich blwyddyn gynaf drwy alluogi archwiliad beirniadol o’r sylfeini gwyddonol sydd y tu ôl i brofi a monitro athletwyr chwaraeon tîm.
Dulliau Ymchwilio
Dysgwch am arwyddocâd ymchwil mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol. Cynyddwch eich ymwybyddiaeth o amryw ddulliau ymchwil yn cynnwys dyluniadau ansoddol, meintiol a chymysg.
Unedau gwaith dewisol:
Gwella Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Byddwch yn astudio ac yn ennyn dealltwriaeth feirniadol o adfer cynnar a chanolradd o anafiadau a salwch chwaraeon cyffredin.
Lleoliad Gwaith Chwaraeon*
Cynyddwch a dwysewch eich addysg drwy brofiad gwaith yn y maes chwaraeon.
Ymarfer Corff ar gyfer Poblogaethau Arbennig
Dysgwch sut gall ymarfer corff rheolaidd fod o fudd i amryw boblogaethau arbennig, yn cynnwys y boblogaeth gyffredinol a’r sawl sydd ag anableddau.
*Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae blwyddyn tri’n archwilio dulliau uwch o gryfder a chyflyru ar gyfer grwpiau amrywiol. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o egwyddorion gwyddonol er mwyn gallu cynllunio rhaglenni’n effeithiol. Mae unedau dewisol megis Adfer Uwch ar gyfer Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer atal anafiadau.
Materion Amserol o fewn y maes Cryfder a Chyflyru
Archwiliwch bynciau cyfredol sy’n ymwneud â dulliau hyfforddi a defnyddiwch ddull sydd wedi'i deilwra i'w cymhwyso.
Gwyddoniaeth Gymhwysol o fewn Cryfder a Chyflyru
Dwysewch eich ymwybyddiaeth o anatomeg, ffisioleg a biomecaneg o fewn hyfforddiant. Mae’r uned waith hon yn cynorthwyo myfyrwyr i gyfuno gwybodaeth er mwyn gallu cynllunio a gwerthuso eu rhaglenni’n effeithiol.
Hyfforddi Poblogaethau Arbennig
Archwiliwch yr heriau a wynebir gan boblogaethau arbennig yn cynnwys athletwyr yn eu glasoed, yr henoed, athletwyr Paralymaidd, personél milwrol a’r gwasanaethau brys.
Unedau gwaith dewisol:
Prosiect Proffesiynol Cymhwysol (ar-lein)
Enillwch brofiad a datblygwch y sgiliau angenrheidiol ar gyfer rolau a dyletswyddau penodol o fewn y diwydiant chwaraeon.
Traethawd Estynedig
Dyluniwch a chynhaliwch astudiaeth annibynnol, gan werthuso data a thestunau gwyddonol yn feirniadol.
Dysgu’n Seiliedig ar Waith*
Datblygwch sgiliau galwedigaethol rheoli prosiect, dysgu annibynnol a'r ddarpariaeth sy'n ofynnol gan unigolion o fewn y diwydiant chwaraeon.
Gwellhad Uwch o Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Datblygwch sgiliau ymarferol mewn gwellhad, gwneud penderfyniadau ynghylch dychwelyd i chwarae, a strategaethau i leihau’r posibilrwydd o anafiadau.
*Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae ein cwrs israddedig mewn Cryfder a Chyflyru’n canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol fydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa o fewn y diwydiant. Byddwch yn sefyll arholiadau ar gyfer yr elfen theori, ond bydd asesiadau ymarferol yn ymdrin â thasgau megis dylunio rhaglenni ar gyfer athletwyr. Fel myfyriwr llawn-amser, byddwch yn astudio chwe uned waith bob blwyddyn, gyda chymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol. Byddwch hefyd yn hyfforddi o fewn ein rhaglenni perfformiad chwaraeon yn ystod cyfnodau sydd wedi eu neilltuo ar gyfer y gampfa. Rydym yn defnyddio dulliau dysgu amrywiol yn cynnwys gweithdai, er mwyn rhoi profiad addysg gyfoethog i chi. Bydd yr hyfforddiant ymarferol helaeth fyddwch yn ei dderbyn yn hanfodol ar gyfer eich gyrfa o fewn y maes cryfder a chyflyru ac fe'i werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr y dyfodol.
Staff addysgu
Nid academyddion yn unig fohonom; rydym yn hyfforddwyr cryfder a chyflyru gweithredol. Mae ein cwrs yn canolbwyntio’n gryf ar sesiynau ymarferol, sydd wedi eu cynnal mewn ystafelloedd clinigol a chyfleusterau chwaraeon modern. Gydag amrywiaeth o leoliadau gwaith a thiwtorialau, byddwch yn ennill profiad hanfodol fydd yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd. Byddwch wedi eich cefnogi gan diwtoriaid yr uned waith, cyfarwyddwyr y rhaglen a goruchwylwyr clinigol, a byddwch hefyd yn gallu manteisio ar gefnogaeth diwtorol a system mentora drwy eich cyfoedion. Bydd eich addysg wedi ei gefnogi gan yr ymchwil ddiweddara o’n Grŵp Ymchwil Anafiadau Perfformiad a Theori Chwaraeon wrth i chi ddysgu gan academyddion blaenllaw’r maes.
Lleoliadau Gwaith a Phrofiad Gwaith
Mae lleoliadau gwaith yn elfen allweddol o ddatblygu arbenigedd proffesiynol o fewn y maes cryfder a chyflyru. Mae’r rhaglen yn cyfuno profiadau ymarferol i’r cwricwlwm drwy ddarparu swyddi preswyl a data o’r byd go iawn ar gyfer myfyrwyr. Mae’n ffordd o baratoi myfyrwyr at yrfa drwy deilwra’r cwricwlwm i ateb y sgiliau a’r priodoleddau sy’n cael eu chwennych gan dimoedd y farchnad.
Mae myfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau ar ein cwrs cryfder a chyflyru wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn ystod o sefydliadau proffesiynol yn cynnwys Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Rygbi Caerdydd, Rygbi'r Dreigiau, Pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd, Criced Cymru, a Hoci Cymru.
Cyfleusterau
Fel myfyriwr / myfyrwraig ar ein cwrs Cryfder a Chyflyru, byddwch yn hyfforddi ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, sy’n cynnwys y ganolfan Cryfder a Chyflyru o’r radd flaenaf a chanddi 12 platfform codi pwysau a chae chwarae maint llawn 3G dad do, sy’n cyfateb i safonau FIFA Pro a Rygbi’r Byd 22. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r ystafelloedd dadansoddi perfformiad, y meysydd chwarae tu allan, a’r wynebau bob-tywydd. Yn ogystal â Pharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, byddwch yn elwa o’n campws yng Nglyn-Taf sy’n arbenigo mewn anatomeg, ffisioleg a biomecaneg. Mae ein cyfleusterau rheng uchaf yn cael eu defnyddio’n aml gan dimau rhyngwladol proffesiynol, felly rydych yn gwybod y byddwch yn hyfforddi gyda’r offer orau.
Pam PDC?
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
Mae Gwyddor Chwaraeon ar y brig yng Nghymru am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2024).
Pam PDC?
Mae Gwyddor Chwaraeon yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu.
(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
Mae Gwyddor Chwaraeon ar y brig yng Nghymru am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2024).
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 112 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBC i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth neu Addysg Gorfforol ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod - Teilyngdod Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BB i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth neu Addysg Gorfforol ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Chwaraeon / Gwyddoniaeth gydag o leiaf 112 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£785
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
*Rhwymedig
Mae'r ffi hon yn cynnwys £40 am y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post a'r ffi weinyddu ar-lein.
Cost: £53.20
Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £13. Sylwch fod yn rhaid ymuno â'r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn eich tystysgrif DBS gwell.
Cost: £13
Blwyddyn 2 a 3. Rhaid i fyfyrwyr ariannu costau teithio a chynhaliaeth pan fyddant ar leoliadau gwaith. Bydd y costau yn fawr iawn, yn dibynnu ar y lleoliad.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.