Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Drwy gyfuno arbenigedd meddygol gyda’r amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff, mae’r cwrs hwn yn cynnig i’r egin Therapydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, y cyfartaledd perffaith o theori a phrofiad ymarferol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Dechreuwch eich taith i fyd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dechreuwch eich taith i fyd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Côd UCAS

BC96

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

112


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Côd UCAS

BC96

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

112

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

112

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £804*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

112

Trosolwg o'r Cwrs

Paratowch i weithio yn y diwydiannau meddygol, perfformiad, chwaraeon ac ymarfer corff gyda gradd achrededig yng Nghampws unigryw'r Parc Chwarae. Dysgwch sut i benderfynu a thrin anafiadau, gweithio’n uniongyrchol gydag athletwyr, cyn gadael gyda gwobrau galwedigaethol drwy gydol eich gradd.

Wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag anafiadau chwaraeon ac ymarfer corff, mae'r radd hon yn cynnig ymagwedd gyfannol at reoli anafiadau cyhyrysgerbydol. Enillwch brofiad ymarferol trwy leoliadau gwaith o fewn y diwydiant i roi'r cychwyn gorau i'ch gyrfa ac i atgyfnerthu eich addysg.

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithas Cryfder a Chyflyru Genedlaethol, Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain, CIMSPA, CASES, Pêl-droed Rhyngwladol y DU ac EFL yn y Gymuned.

Partneriaethau

FAW
NSCA
The Society of Sports Therapists
CIMPSA
CASES
UK international soccer
EFL in the community

Mae gennym nifer o bartneriaethau ar gael, gweler trosolwg y cwrs am fanylion.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cymwysterau CIMPSA

Mae cymwysterau CIMPSA Lefel 2 a thri wedi eu gosod o fewn y cwrs gradd.

Cyfleoedd am Leoliadau Gwaith

Bachwch y cyfle i weithio yn un o’n lleoliadau gwaith helaeth o’r cychwyn cyntaf.

Cefnogaeth Academaidd

Byddwch yn derbyn cefnogaeth ymrwymedig gan hyfforddwr bersonol academaidd ar dîm y cwrs.

Cyfleusterau arbenigol

Mae cyfleuster cryfder a chyflyru achrededig BASES yn ymuno ag ystafell therapi ddynodedig ac offer ar gyfer dysgu ymarferol.

Achrediad Cymdeithas Therapyddion Chwaraeon

Mae ein gradd BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Byddwch yn cychwyn eich astudiaethau clinigol gyda chymorth cyntaf wrth ochr y cae a gwybodaeth sylfaenol cymorth cyntaf achub bywydau, anatomeg weithredol, sgrinio a thechnegau meinwe.

Byddwch yn ennill profiad drwy weithio yn nhimau chwaraeon ein prifysgol a thrwy ein clinig tyliniad chwaraeon poblogaidd.

Dysgwch sut i asesu ystod symudiad, profi cryfder cyhyr, archwilio nodweddion anatomegol a datblygu gwybodaeth  ymarferol o anatomeg cyhyrysgerbydol a phatholeg.

Dysgwch am theori sgrinio symudiad, atal anafiadau chwaraeon a dulliau adfer. Datblygwch sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol a sut i reoli anafiadau meinwe meddal.

Datblygwch iaith anatomeg a dwysewch eich dealltwriaeth o anatomeg cyhyrysgerbydol dynol, rhywbeth sy’n angenrheidiol ar gyfer ffisioleg ymarfer corff a biomecaneg.

Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Plymiwch yn ddwfn i feysydd mesur, adfer data, dadansoddi a denhongli, asesiad iechyd a ffitrwydd a phresgripsiwn ymarfer corff.

Enillwch yr arbenigedd i ddylunio, cyflawni ac asesu rhaglenni ymarfer corff i boblogaethau iach sy’n seiliedig ar y gampfa. Arweinir yr uned hon at dystysgrifau Hyfforddwr Campfa CIMPSA Lefel 2 a Hyfforddwr Personol Lefel 3.

Ymgyfarwyddwch â safbwynt y claf parthed anafiadau chwaraeon cyhyrysgerbydol, drwy ddatblygu empathi a sgiliau gwaith tîm o fewn lleoliad amlddisgyblaethol.

Ar lefel pump byddwch yn dysgu sut i asesu a phenderfynu ar anafiadau i’r asgwrn cefn a’r cymalau ymylol, byddwch yn defnyddio sawl dull o wella er mwyn lleihau’r boen a gwella ystod y symudiad a'r gweithrediad.

Erbyn diwedd eich ail flwyddyn byddwch yn gymwys mewn adfer o’r cyfnod cynnar i’r cyfnod canolig.

Meistrolwch asesiadau clinigol. Dadansoddwch ddarganfyddiadau drwy ddefnyddio dulliau gwrthrychol a goddrychol, profion cyhyrysgerbydol arbenigol ac asesiadau gweithredol.

Cynyddwch eich gwybodaeth o driniaethau diogel ac effeithiol ar gyfer anafiadau cyhyrysgerbydol. Dysgwch therapi llaw ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r cymalau, technegau datblygedig ar gyfer meinwe meddal a thechnegau nerfol.

Datblygwch ddealltwriaeth o dechnegau adfer cynnar a chanolradd ar gyfer anafiadau cyhyrysgerbydol cyffredin. Mae’r pynciau’n cynnwys mecanwaith meinwe, cromlin pwysedd-straen, a dewis/ rhoi presgripsiwn ymarfer corff.

Archwiliwch y cydadwaith rhwng ymarfer corff a’r system gardiofasgwlaidd. Enillwch ddealltwriaeth o fesuriadau ffisioleg gardiofasgwlaidd a medrusrwydd wrth eu perfformio.

Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ehangwch eich sgiliau ymchwil drwy ymledu’ch dealltwriaeth o ddulliau ansoddol a meintiol. Dwysewch eich gwerthfawrogiad o amryw ddulliau ymchwil.

Datblygwch ddealltwriaeth o anafiadau chwaraeon ac ymarferol a’r elfennau biomecanyddol i symudiad ar gyfer cinemateg a chineteg esgyrnog.

Dewch i ddeall y materion ffisiolegol a meddygol sy’n effeithio ar ymarfer corff poblogaethau arbennig. Dyluniwch ac aseswch raglenni ymarfer corff personol ar gyfer amrywiol anghenion.

Bydd gofyn eich bod yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol yn ogystal ag ystod o leoliadau gwaith er mwyn ennill profiad gwerthfawr o fewn y diwydiant.

hangwch eich gwybodaeth adfer a datblygwch eich sgiliau rheoli trawma chwaraeon. Byddwch yn cyfuno astudiaeth glinigol gydag unedau sydd wedi eu cymeradwyo gan BASES er mwyn datblygu sgiliau eang a throsglwyddadwy.

Enillwch 250 o oriau o ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth. Aseswch gryfderau, cynlluniwch eich gyrfa, paratowch ar gyfer ffurflenni cais a chyfweliadau, datblygwch i fod yn ymarferydd annibynnol. 

Dysgwch sut i ymateb i anafiadau chwaraeon sy’n beryg bywyd. Astudiwch gefnogaeth bywyd ar gyfer trawma uwch, symudiadau’r llwybrau anadlu, rheoli gwaedu, asesiadau anafiadau i’r asgwrn cefn a chynllunio sut i weithredu mewn argyfwng.

Rhowch hwb i’ch sgiliau ymarferol o fewn y maes adfer cyfnod hwyrach a dewch i ddeall sut i wneud penderfyniadau gwrthrychol o ran dychwelyd i chwarae. Byddwch yn canolbwyntio ar roi cyfarwyddiadau i unigolion a chwaraewyr tîm ynghylch ymarferion cyflymdra, cyflymiad ac ymarferion plyometrig yn ogystal â strategaethau i atal anafiadau.

Bydd gennych y rhyddid i ddylunio a chynnal astudiaeth annibynnol a gwerthuso’n feirniadol data a thestunau gwyddonol.

Archwiliwch y berthynas rhwng ymarfer corff a’r system gardiofasgwlaidd. Enillwch ddealltwriaeth o fesuriadau ffisioleg gardiofasgwlaidd a medrusrwydd wrth eu perfformio. 

Dysgwch sut mae deddfau Newton yn berthnasol i ginemateg a chineteg onglog, mecaneg ac energeteg cerdded a rhedeg. Datblygwch eich sgiliau dadansoddol gan ddefnyddio meddalwedd Biomecaneg Quintic.

Dysgwch y wybodaeth wyddonol hanfodol er mwyn darparu rhaglenni cryfhau a chyflyru effeithiol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Gyda chefnogaeth staff profiadol a Thiwtor Sgiliau Clinigol ymroddedig, byddwch yn gweithio gyda chleifion go iawn, gan eich helpu i ddatblygu a dangos tystiolaeth o'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod yn therapydd chwaraeon graddedig. 

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o ddulliau ymarferol a damcaniaethol a gynlluniwyd i adlewyrchu ymarfer yn y byd go iawn. Mae hyn yn cynnwys arholiadau ymarferol i ddangos sgiliau clinigol, ochr yn ochr ag arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs, portffolios a chyflwyniadau. 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau 250 awr o leoliad, naill ai'n fewnol neu'n allanol. Drwy gydol y cwrs, bydd gennych gyfleoedd rheolaidd i adeiladu oriau lleoliad trwy glinig tylino chwaraeon ac anafiadau'r brifysgol, yn ogystal â chefnogi ar ochr y cae mewn digwyddiadau allanol. 

Mae lleoliadau gwaith yn ganolig i bob lefel o’r cwrs gradd hwn. Ar lefel 4, byddwch yn cefnogi timau chwaraeon y brifysgol fel person cymorth cyntaf ar ochr y cae a byddwch yn ymarfer eich sgiliau newydd yn ein clinigau tylino. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ar leoliadau gwaith gyda’n partneriaid ar lefel 5 a 6 a bydd therapyddion profiadol yn eich goruchwylio. Mae cyfleoedd ychwanegol wedi cynnwys gweithio mewn digwyddiadau megis taith feicio Llundain i Baris, gyda’r holl gostau wedi eu talu amdanynt. Mae profiad ein staff gyda chwaraeon proffesiynol a lled-broffesiynol a chwaraeon rhyngwladol a chlybiau proffesiynol eraill yn darparu cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant.

Mae gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff PDC yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u cymeradwyo gan BASES, ym Mharc Chwaraeon Trefforest. Mae’r rhain yn cynnwys cae 3G dan do o safon FIFA gyda thracio GPS, mannau addysgu clinigol, offer adsefydlu a phrofi uwch, ynghyd â chaeau chwarae pob tywydd a glaswellt a ddefnyddir gan dimau lleol a phroffesiynol.

Arweinydd y Cwrs

Arweinydd y Cwrs

Dyma Leighanne Kelly, Arweinydd y Cwrs ar gyfer y BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Therapydd Chwaraeon Graddedig profiadol gyda chefndir cryf mewn chwaraeon proffesiynol. Mae Leighanne yn arwain y cwrs ymarferol hwn gyda ffocws ar gymhwyso yn y byd go iawn, gan dynnu ar flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rhoddir amgylchedd dysgu ymarferol i fyfyrwyr, gyda chefnogaeth tîm o therapyddion chwaraeon cymwys. Gyda'i gilydd, maent yn creu profiad cydweithredol a throchol wedi'i gynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer proffesiynol.

Rhagolygon Gyrfa

Fel Therapydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Graddedig, mae yna lawer o lwybrau gyrfa ar gael i chi, gan gynnwys gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol/lled-broffesiynol/rhyngwladol, practis/clinigau preifat, a rolau'r GIG fel hyfforddwr iechyd, cynorthwyydd adsefydlu, neu addysgu a’r byd academaidd.

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Mae astudiaethau ôl-raddedig fel rhaglenni Meistr neu PhD hefyd yn opsiynau poblogaidd. Mae cyfleoedd gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, sy'n gwerthfawrogi therapyddion chwaraeon i adsefydlu personél anafedig, a Connect Health, cwmni preifat sy'n gysylltiedig ag ysbytai sy'n cyfeirio cleifion at adsefydliad, gan roi therapyddion chwaraeon ar yr un lefel â phroffesiynau eraill. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Therapydd chwaraeon ar gyfer timau chwaraeon proffesiynol/lled-broffesiynol 
Practis/clinigau preifat 
Therapydd chwaraeon ac ymarfer corff 
Hyfforddwyr adsefydlu ymarfer corff 
Cynorthwyydd adsefydlu 
Addysgu 

96% o raddedigion Chwaraeon PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd mewn Ymarfer Corff a Chwaraeon agor cyfleoedd ym maes chwaraeon a’r sector ehangach. Mae gyrfaoedd ym maes chwaraeon yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £31.4k y flwyddyn
Cymru: £29.8k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 644,306
Cymru: 26,817

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Gofynion Mynediad

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

112 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
BBC i gynnwys un Lefel A mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol

Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BB ar Lefel A i gynnwys un Safon Uwch mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 o bwyntiau tariff UCAS

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffi Rhan-amser y DU £ 804

Fesul 20 credyd

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. *Rhwymedig 

Gwasanaeth Diweddaru DBS

Bydd y cwrs yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed, ac felly bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) uwch. Argymhellir adnewyddu awtomatig blynyddol am £16 y flwyddyn os caiff ei brynu o fewn y 30 diwrnod cyntaf ar ôl derbyn y dystysgrif. £49.50 (DBS)

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. *Rhwymedig 

Gwasanaeth Diweddaru DBS

Bydd y cwrs yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed, ac felly bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) uwch. Argymhellir adnewyddu awtomatig blynyddol am £16 y flwyddyn os caiff ei brynu o fewn y 30 diwrnod cyntaf ar ôl derbyn y dystysgrif. £49.50 (DBS)

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y gorau yng Nghymru am ansawdd mewn Gwyddor Chwaraeon.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

#2

2il yng Nghymru ar gyfer Rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn.

Complete University Guide

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Y gorau yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7fed yn y DU.

Archwiliwch ein cyfleusterau

Cael teimlad o fywyd ym Mharc Chwaraeon USW.

Cyfleusterau chwaraeon

Camwch i mewn i amgylchedd chwaraeon perfformiad uchel, o gaeau elitaidd a labordai uwch i ystafell gryfder a chyflyru llawn offer. Mae popeth yma wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i hyfforddi, profi a pherfformio ar eich gorau.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Storïau Myfyrwyr

''Mae'r radd wedi rhoi'r gallu i mi weithio gydag unrhyw oedran, unrhyw gamp, ac mewn unrhyw fath o leoliad.''

Cameron Bailey Myfyriwr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Gweld Proffil Myfyrwyr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?