Animeiddio
Lansiwch eich gyrfa mewn Animeiddio Cyfrifiadurol drwy ddod â'ch cymeriadau a'ch straeon yn fyw. Datblygwch eich sgiliau'n greadigol ac yn dechnegol, wrth ymuno â graddedigion sydd wedi gweithio mewn stiwdios mawr ar ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau Oscar a BAFTA.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
WW27
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £16,800*
Côd UCAS
WW27
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Gyda darlithwyr sydd wedi ennill BAFTA, cysylltiadau rhagorol â’r diwydiant a mwy na 30 mlynedd o arbenigedd yn cyflwyno'r cwrs hwn, byddwch yn ymuno â graddedigion y tu ôl i ffilmiau sydd wedi ennill Oscar, sioeau teledu poblogaidd a gemau arobryn ledled y byd.
Adeiladwch eich sgiliau a'ch portffolio trwy brosiectau craidd, cydweithrediadau, briffiau byw gyda chleientiaid yn y diwydiant ac ymweliadau stiwdios â chwmnïau animeiddio blaenllaw.
Bydd eich llwybr i feistroli sgiliau technegol CG 3D yn cynnwys animeiddio a pherfformio cymeriadau, dylunio cysyniadau, creu straeon, llifau gwaith cynhyrchu a chyfarwyddo gwaith animeiddio. Graddiwch gydag ystod o sgiliau arbenigol sy'n arddangos creadigrwydd ac arbenigedd, yn barod ar gyfer y diwydiannau creadigol byd-eang.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn archwilio gwaith dylunio cymeriadau, symudiad ac iaith weledol, wrth feistroli offer a llifau gwaith safonol y diwydiant.
Gan weithio mewn amgylchedd stiwdio cydweithredol, byddwch yn cwblhau cyfres o brosiectau animeiddiedig, gan osod y sylfeini creadigol a thechnegol y byddwch yn adeiladu arnynt drwy gydol y cwrs.
Meistrolwch sylfeini animeiddio trwy greu symudiad argyhoeddiadol gyda siapiau syml, wrth ddysgu sut i fodelu, creu gwead a goleuo eich dyluniad cymeriad eich hun.
Dadansoddwch a throswch symudiadau go iawn yn ddilyniannau sy'n dangos sgiliau hanfodol, gan gynnwys dal pwysau, amseru a phersonoliaeth, wrth ddysgu sut i rigio, creu croen ac animeiddio.
Archwiliwch gelfyddyd adrodd straeon drwy semioteg, iaith ffilm a dylunio naratif gweledol. Troswch eich syniadau yn ddelweddau deinamig drwy storifwrdd safonol y diwydiant ac animatig gyda sain.
Dyluniwch a datblygwch gymeriad gwreiddiol, gan fireinio personoliaeth ac arddull, yna dewch ag ef yn fyw gydag actio, animeiddio wynebau, a chydamseru gwefusau i greu perfformiadau mynegiannol a chredadwy.
Hogwch eich sgiliau arsylwadol drwy fywluniadu, astudiaethau anatomeg a brasluniau cyflym. Trawsnewidiwch y mewnwelediadau hyn yn gymeriadau deinamig, gyda symudiad mynegiannol a golygfeydd animeiddiedig grymus ar gyfer eich portffolio.
Archwiliwch animeiddio fel ffurf ar gelfyddyd a chyfrwng adrodd straeon drwy astudio ymarferwyr hanesyddol a chyfoes, deall sut mae syniadau'n cael eu cyfleu a rhoi’r mewnwelediadau hyn ar waith yn eich gwaith creadigol eich hun.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn mireinio sgiliau animeiddio arbenigol trwy lifau gwaith creadigol ac sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu, prosiectau criw cydweithredol a syniadau hunangychwynnol, wrth weithio ar friffiau cleientiaid byw.
Mae hyn yn meithrin arbenigedd proffesiynol, hyder a momentwm creadigol i baratoi ar gyfer eich trydedd flwyddyn.
Ewch ati i greu asedau celf neu animeiddio Graffigau Cyfrifiadurol 3D ar gyfer gemau, integreiddio ag injans a phiblinellau gemau.
Ewch ati i greu asedau celf neu animeiddio Graffigau Cyfrifiadurol 3D ar gyfer Effeithiau Gweledol, integreiddio â thechnegau a phiblinellau ôl-gynhyrchu.
Archwiliwch animeiddio yn hanesyddol, yn gyfoes ac yn bersonol, gan lunio llwybrau gyrfa ac agweddau proffesiynol, wrth ddatblygu sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant a chreu CV, portffolio, rîl sioe a gwefan o dan arweiniad arbenigol.
Astudiwch hanes ac esblygiad animeiddio, gan gysylltu technegau'r gorffennol ag arferion diwydiant heddiw, yna ymchwiliwch, dadansoddwch a rhowch eich canfyddiadau ar waith i greu cynnig arweiniol ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf.
Profwch y broses gynhyrchu lawn yn unigol ac mewn grwpiau, gan ddatblygu gwaith tîm a sgiliau trwy friffiau byw cleientiaid, gan eich paratoi ar gyfer heriau creadigol eich trydedd flwyddyn hollbwysig.
Yn eich blwyddyn olaf hollbwysig, byddwch yn gwireddu'n llawn yr uchelgeisiau creadigol a phroffesiynol a ddatblygwyd yn eich ail flwyddyn, gan gynhyrchu corff o waith sy'n tynnu sylw at eich arbenigedd a'ch talent, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd yn y diwydiant, gwaith creadigol annibynnol, neu'r ddau.
P'un a ydych chi'n canolbwyntio ar ffilm fer, rîl sioe, hysbyslun neu bortffolio arbenigol, mae'r modiwl hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer eich prosiect blwyddyn olaf, gan gydbwyso gweledigaeth greadigol â gweithredu ymarferol.
Mae'r modiwl hwn yn cefnogi eich arbenigedd yn y drydedd flwyddyn, boed yn unigol neu'n seiliedig ar dîm, ac mae'n cynnwys prosiectau a lleoliadau diwydiant, gan ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra a phrofiad criw ymarferol.
Mae'r modiwl hwn yn eich cysylltu â'r diwydiant trwy wyliau, rhwydweithio, gweithdai arbenigol ac arweiniad arbenigol, i gyd yn eich paratoi i arddangos eich gwaith yn y Sioe Arddangos Animeiddiadau Graddedigion.
Dewch â'ch prosiect terfynol yn fyw gyda chefnogaeth academaidd a thechnegol lawn, gan ei gyflwyno yn Sioe Arddangos Animeiddiadau Graddedigion PDC, yn ein gofod o'r radd flaenaf ar gyfer gwesteion y diwydiant.
Datblygwch sgiliau ymchwil a meddwl beirniadol trwy astudiaeth fanwl o bwnc a ddewiswyd, gan werthuso arferion, tueddiadau a hanes animeiddio i lywio'ch gwaith creadigol a'ch dull proffesiynol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn mentora personol ac arweiniad ymarferol i ddatblygu eich llais creadigol unigryw a'ch sgiliau proffesiynol. Trwy ddarlithoedd wyneb yn wyneb, gweithdai a phrosiectau stiwdio, byddwch yn adeiladu eich dysgu yn hyderus. Mae'r profiad ymdrochol hwn yn sicrhau eich bod yn adeiladu sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant, portffolio cryf a'r hyder i lwyddo mewn gyrfa greadigol gystadleuol.
Mae ein strategaeth ddysgu yn cyfuno darlithoedd wyneb yn wyneb â phrosiectau a gweithdai ymarferol, cydweithredol. Mae'r dull ymarferol hwn, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, yn datblygu eich sgiliau technegol, datrys problemau creadigol a hyder proffesiynol, gyda chefnogaeth ac adborth parhaus i fireinio gwaith, tyfu eich portffolio a pharatoi ar gyfer gyrfa mewn animeiddio ar gyfer ffilm, teledu, gemau ac effeithiau gweledol.
Mae'r asesiad ar y cwrs hwn yn seiliedig yn gyfan gwbl ar waith cwrs, heb arholiadau. Byddwch yn cael eich gwerthuso trwy brosiectau ymarferol sy'n adlewyrchu briffiau animeiddio go iawn, gan gynnwys datblygu cysyniadau, gwaith cynhyrchu ac allbynnau terfynol. Mae dysgu'n cyfuno darlithoedd â gweithdai ymarferol a phrosiectau stiwdio cydweithredol, gan eich helpu i feithrin sgiliau technegol a galluoedd datrys problemau creadigol.
Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd i fireinio'ch gwaith a thyfu'ch portffolio. Mae ymgysylltu â'r diwydiant wedi'i gynnwys, gydag ymweliadau â stiwdio a chydweithrediadau byw yn cynnig mynediad y tu ôl i'r llenni i stiwdios animeiddio ac effeithiau gweledol blaenllaw, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffilm, teledu, gemau a chyfryngau digidol.
Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn byddwch yn gweithio ar friffiau byw a osodir gan stiwdios diwydiant a gwyliau animeiddio. Mae'r cyfleoedd hyn yn rhoi profiadau hanfodol, rhwydweithio proffesiynol a mewnwelediad gwirioneddol i chi i lif gwaith y diwydiant.
Byddwch yn astudio mewn stiwdios animeiddio pwrpasol ar ein campws yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio cyfleusterau o safon y diwydiant gan gynnwys cyfrifiaduron personol o safon uchel, Wacom Cintiqs, a meddalwedd fel Autodesk Maya, ZBrush, Adobe Creative Cloud, Blender ac Unreal Engine. Bydd gennych hefyd fynediad at stiwdios 3D, Dal Symudiad, Effeithiau Gweledol, Sgrin Werdd a Stiwdio Rithwir, Stiwdios Sain, Ystafelloedd Ôl-gynhyrchu, a chyfleusterau argraffu 3D. Mae gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr mewn Gemau, Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn adlewyrchu arfer stiwdio go iawn. Darperir yr holl offer a meddalwedd heb unrhyw gost ychwanegol, gyda chymorth technegol ar gael drwy gydol y broses i'ch helpu i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol a pharatoi ar gyfer y diwydiant.
Arweinydd y Cwrs
Jonathan Edwards
Dan arweiniad Jonathan Edwards, y mae ei yrfa 30 mlynedd yn cwmpasu CG 3D, effeithiau gweledol, cynhyrchu animeiddio ac actio byw, mae'r cwrs wedi'i lunio gan brofiad helaeth yn y diwydiant. Byddwch yn dysgu trwy brosiectau ymarferol, yn datblygu sgiliau perthnasol i'r diwydiant ac yn cael cipolwg ar lifau gwaith proffesiynol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar draws ffilm, teledu, gemau a chynhyrchu masnachol.
Gofynion Mynediad
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC mewn Safon Uwch gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Llyfrau Braslunio / Deunyddiau Celf*
Cost: £20 – £50
Costau Teithio / Mynediad Amrywiol
Fel arfer byddwn yn talu costau teithiau lleol. Efallai y byddwn yn gofyn i fyfyrwyr dalu costau cludiant ar gyfer teithiau dewisol ymhellach i ffwrdd.
Cost: £0 - £50 y flwyddyn
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Llyfrau Braslunio / Deunyddiau Celf*
Cost: £20 – £50
Costau Teithio / Mynediad Amrywiol
Fel arfer byddwn yn talu costau teithiau lleol. Efallai y byddwn yn gofyn i fyfyrwyr dalu costau cludiant ar gyfer teithiau dewisol ymhellach i ffwrdd.
Cost: £0 - £50 y flwyddyn
Benthyciadau Cyfryngau
Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Animeiddio
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
-
Apply direct
Animeiddio
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion