Peirianneg Fecanyddol
Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r MSc Peirianneg Fecanyddol yn PDC yn mynd i'r afael â'r galw mawr am beirianwyr ôl-raddedig medrus. Amcan y cwrs yw helpu i ennill statws Peiriannydd Siartredig, ac mae'n cyfoethogi gwybodaeth wrth feithrin sgiliau rheoli prosiectau a sgiliau pobl. Mae myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd uwch, yn dysgu ystyriaethau amgylcheddol a diogelwch, ac yn mynd i'r afael â materion yn y byd go iawn trwy draethodau hir wedi'u llywio gan waith ymchwil ac ymgynghori gweithredol staff.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr mecanyddol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Mae rhai o'r meysydd pwysig y mae Peirianwyr Mecanyddol yn chwilio am atebion cynaliadwy iddynt ac yn cyfrannu eu gwybodaeth atynt yn cynnwys diogelwch ynni, cyflenwadau bwyd a dŵr, trafnidiaeth gynaliadwy.
Achredir gan
- Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn mynd trwy ei broses ail-achredu a drefnwyd pob pum mlynedd gyda’r Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Disgwylir canlyniad yr adolygiad presennol erbyn Tachwedd 2026.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Cynhyrchu
- Peiriannydd Biofeddygol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Modurol
Sgiliau a addysgir
- Datblygu gwybodaeth am dechnoleg arloesol
- Gwaith tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol fel cynaliadwyedd a moeseg
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae’r MSc Peirianneg Fecanyddol yn cynnwys modiwlau sy’n dod i gyfanswm o 180 credyd, sy'n cynnwys:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch - 10 credyd
- Lludded a Thorri - 10 credyd
- Dynameg Hylif Gyfrifiadurol Bellach - 10 credyd
- Dadansoddiad Pellach o Elfennau Meidraidd - 10 credyd
- Roboteg a Rheolaeth - 10 credyd
- Dulliau Ymchwil i Beirianwyr - 10 credyd
- Systemau Gwresogi Diwydiannol - 20 credyd
- Rheoli Peirianneg Broffesiynol - 20 credyd
- Iechyd Diogelwch a Pheirianneg Amgylcheddol - 20 credyd
- Traethawd Hir - 60 credyd
Bydd myfyrwyr Mynediad Uniongyrchol nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am Ddynameg Hylif Gyfrifiadurol neu Ddadansoddi Elfennau Meidraidd yn cael y dewis i gofrestru ar y modiwlau canlynol hefyd:
- Dadansoddiad Cyfrifiadurol Peirianneg - 20 credyd
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae'r rhaglen MSc Peirianneg Fecanyddol yn cynnig dau bwynt mynediad bob blwyddyn (Chwefror a Medi) gyda phatrwm astudio dwys y gellir ei addasu.
Cyflwynir modiwlau trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a labordai. Mae ein cysylltiadau â chyflogwyr, yn lleol ac yn rhyngwladol, yn sicrhau bod y cwrs yn parhau i fod yn berthnasol i'r diwydiant, gan gynnig ymweliadau safle a lleoliadau. Bydd gennych ddarlithwyr sy'n arbenigwyr profiadol gyda phrofiad mewn diwydiant, ac sydd wrthi’n ymchwilio a chyhoeddi, gan gyfoethogi eich addysg. Mae siaradwyr gwadd o'r sector peirianneg yn ehangu dysgu ymhellach.
Mae asesu'n cynnwys gwaith cwrs parhaus neu gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae'r traethawd hir yn cynnwys traethawd ymchwil, cyflwyniad poster, ac arholiad llafar.
Staff addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau arbenigedd eang yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu'r arbenigedd hwn trwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae'r meysydd ymchwil yn rhyngwladol o ran eu cwmpas ac yn berthnasol yn lleol hefyd, gan weithio'n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy'n gweithredu'n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd trwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maen nhw’n defnyddio'r wybodaeth honno bellach i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd sydd gan y staff academaidd yn sicrhau bod profiad y myfyriwr yn un eang ac yn eu datblygu'n dechnegol ac yn broffesiynol.
Lleoliadau
Amherthnasol
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Peirianneg Fecanyddol yn rhagorol. Maent yn cynnwys:
- Ystafelloedd cyfrifiadurol gyda chyfarpar o safon a meddalwedd dylunio a dadansoddi o'r radd flaenaf (safon diwydiant). (SolidWorks, Ansys, FEA a CFD, LS-Dyna, SolidCAM, Simul8, ac ati), gyda chlwstwr (Super Computer) i'w ddefnyddio ar weithgareddau cyfrifiadurol lefel uwch.
- Ystafelloedd prosiect pwrpasol ar gyfer pob carfan, mynediad at dorrwr laser a llwybrydd CNC pedair echelin.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansawdd, gan gynnwys awtoclafau.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D), sganiwr laser, twnnel gwynt, cyfleusterau profi deunydd helaeth, yn ogystal â labordai gydag offer ar gyfer ategu addysgu ym mhob pwnc craidd, mecaneg, dynameg, deunyddiau, thermodynameg, dynameg hylif a rheolaeth.
- Cyfleusterau profi annistrywiol (NDT).
- Mynediad at staff technegol yn ein gweithdai sy'n cynnwys canolfan beiriannu CNC, turnau a pheiriant melino, driliau, ac ati, i'w defnyddio ar yr holl waith prosiect a wneir.
- Ardal fawr amlddisgyblaeth mynediad agored a adeiladwyd ar gyfer prosiectau.
- Ardal adeiladu Fformiwla Myfyriwr (Agor mewn tab newydd) llawn cyfarpar.
Hyb Arloesi yn PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 60 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn peirianneg fecanyddol, er y gellir ystyried disgyblaethau peirianneg cysylltiedig.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.