MSc

Tirfesur Meintiau

Adeiladwch eich arbenigedd mewn tirfesur meintiau a datblygu'r sgiliau masnachol, cytundebol ac ariannol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn yr amgylchedd adeiledig.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â ni

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Chwefror 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Chwefror 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A


Myfyrwyr rhyngwladol: £18,300*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch chi’n dysgu trwy brosiectau go iawn a senarios sy'n seiliedig ar y diwydiant, gan ddatblygu’ch gallu i ddatrys heriau cymhleth mewn perthynas â chostau, contractau, mesur a chaffael. Byddwch chi’n defnyddio offer digidol a data prosiect byw wrth ystyried cynaliadwyedd, gwerth oes gyfan a dulliau modern o adeiladu.

Byddwch chi’n datblygu'r ymwybyddiaeth fasnachol a'r arbenigedd ymarferol i ddylanwadu ar benderfyniadau caffael, rheoli gwerth prosiectau a chefnogi adeiladu cynaliadwy effeithlon. Gyda ffocws ar arferion cyfredol y diwydiant, byddwch chi’n dysgu am reoli costau digidol, prosesau cytundebol a dulliau caffael modern, gan eich paratoi ar gyfer gofynion tirfesur meintiau proffesiynol. 

Achredwyd gan

RICS
ICES

Wedi'i achredu gan y CICES a'r RICS


Pam astudio'r cwrs hwn?

Sgiliau ar gyfer y diwydiant

Datblygwch arbenigedd mewn caffael, tendro, cynllunio costau a gweinyddu contractau.

Rheoli costau digidol

Defnyddiwch BIM, dadansoddeg data ac offer digidol i wella cywirdeb a thryloywder prosiect.

Seiliedig ar y diwydiant

Dysgwch o gwrs sydd wedi’i siapio gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol ac arbenigwyr ar y diwydiant.

Arfer cyfrifol

Datblygwch eich gallu i ystyried cynaliadwyedd, risg, materion cyfreithiol a chydraddoldeb.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Datblygwch eich dealltwriaeth o fesur meintiau trwy reolaeth fasnachol, cynaliadwyedd, ymarfer proffesiynol ac ymchwil.

Byddwch chi’n cysylltu theori academaidd â materion cyfoes y diwydiant, gan ddatblygu persbectif ehangach ar yr amgylchedd adeiledig a'ch rôl ynddo.

Adeiladwch eich sgiliau gwneud penderfyniadau masnachol wrth ddysgu am gynllunio costau, dichonoldeb, caffael a thendro. Byddwch chi’n dysgu i asesu risg, rheoli costau prosiectau, a datblygu strategaethau ar gyfer prosiectau o wahanol gyd-destunau.

Archwiliwch sut mae cynaliadwyedd, polisi amgylcheddol a nodau Sero Net yn siapio penderfyniadau yn yr amgylchedd adeiledig. Byddwch chi’n defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn i ystyried carbon, cylch oes, a dulliau cyfrifol o ddatblygu. 

Datblygwch eich sgiliau rheoli costau, contractau a risg yn ystod gwaith adeiladu. Byddwch chi’n archwilio prisiadau, amrywiadau, hawliadau a datrys anghydfod wrth ddysgu i wneud penderfyniadau gwybodus pan fydd prosiectau'n newid.

Datblygwch eich sgiliau proffesiynol a busnes wrth archwilio moeseg, arweinyddiaeth, llywodraethu a rheolaeth sefydliadol. Byddwch chi’n ystyried sut mae'r meysydd hyn yn dylanwadu ar brosiectau, rhanddeiliaid a phenderfyniadau yn yr amgylchedd adeiledig. 

Rhowch eich gwybodaeth ar waith trwy brosiect ymchwil annibynnol sy'n canolbwyntio ar fater o’r amgylchedd adeiledig. Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymchwil, yn dadansoddi tystiolaeth ac yn cyflwyno eich canfyddiadau mewn fformat proffesiynol neu academaidd.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Byddwch chi’n dysgu trwy gymysgedd o astudiaeth academaidd a gweithgareddau ymarferol sy'n adlewyrchu gofynion tirfesur meintiau proffesiynol. Byddwch chi’n cymhwyso'ch gwybodaeth i senarios adeiladu yn y byd go iawn, yn gweithio gydag eraill ac yn datblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol, myfyrio ar eich dysgu, a gwneud penderfyniadau gwybodus mewn lleoliadau proffesiynol cymhleth.

Byddwch chi’n dysgu trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, gweithdai, gweithgareddau grŵp ac efelychiadau ymarferol, gan gynnwys BIM a Realiti Rhithwir. Byddwch chi’n gweithio gydag astudiaethau achos adeiladu a senarios sy'n seiliedig ar y diwydiant, gan gymhwyso'ch gwybodaeth i heriau masnachol. Bydd sesiynau gwadd gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn rhoi cipolwg i chi ar arfer cyfredol, a bydd astudiaeth a myfyrio annibynnol yn eich helpu i ddatblygu’n ymarferydd hyderus. 

Cewch eich asesu trwy gymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, efelychiadau prosiect, cyflwyniadau a gwaith grŵp sy'n adlewyrchu arfer tirfesur meintiau proffesiynol. Byddwch chi’n mynd i'r afael â thasgau sy'n ymwneud â chaffael, rheoli costau, gweinyddu contractau ac offer digidol, gydag adborth rheolaidd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau. Bydd eich prosiect ymchwil hefyd yn dangos eich gallu i ymchwilio i fater amgylchedd adeiledig cyfoes yn annibynnol. 

Rydym yn annog dull ymarferol o addysgu. Mae myfyrwyr yn dysgu trwy wneud, gan roi eu damcaniaeth ar waith mewn amgylcheddau trochol a senarios bywyd go iawn. Yn lle darllen gwerslyfrau a gwrando ar ddarlithoedd yn unig, byddwn yn sicrhau bod gennych brofiadau a chyfleoedd uniongyrchol dirifedi i gymryd rhan weithredol yn eich proffesiwn dewisol, gan ennill sgiliau ymarferol a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. 

O brosiectau ymarferol ac efelychiadau byd go iawn i gydweithrediadau diwydiant gan weithio gyda chleientiaid go iawn, mynd i'r afael â phroblemau go iawn, a datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Rydym yn creu graddedigion sydd wedi'u paratoi ar gyfer y dyfodol. Pobl sy'n barod i adeiladu eu gyrfaoedd. 

Bydd gennych fynediad at ystafell prosiectau amgylchedd adeiledig, mannau dysgu trawsnewidiol a labordai cyfrifiadurol pwrpasol gyda'r feddalwedd ddiweddaraf, fel Bluebeam, Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks.   

Bydd gennych hefyd fynediad at lyfrgell ac adnoddau dysgu digidol y Brifysgol, gan gynnwys cyfnodolion academaidd, canllawiau proffesiynol, safonau'r diwydiant a setiau data perthnasol. Bydd sesiynau cymorth llyfrgell yn eich helpu i wneud y gorau o'r adnoddau hyn trwy gydol eich astudiaethau. 

Arweinydd y Cwrs

Debbie Hughes

Dyma Dr Debbie Hughes, Aelod Siartredig CIOB ac Arweinydd y Cwrs MSc Tirfesur Meintiau. Gyda chefndir amlddisgyblaethol sy'n cynnwys rheoli adeiladu, peirianneg a gwyddoniaeth, mae ei haddysgu wedi'i seilio ar ymchwil academaidd ac ymarfer y diwydiant. Mae hi wedi arwain gwaith datblygu cwricwlwm, rheoli rhaglenni, ac achredu proffesiynol wrth addysgu ar draws adeiladu, mesur, contractau, a rheoli prosiectau, gan ddod â gwybodaeth o’r byd go iawn i'r ystafell ddosbarth. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Debbie drwy e-bost.   

Rhagolygon Gyrfa

Byddwch chi’n datblygu sgiliau masnachol, digidol a phroffesiynol uwch a all eich helpu i ddatblygu yn yr amgylchedd adeiledig. Trwy brosiectau ymarferol, ymgysylltu â'r diwydiant a thasgau sy’n seiliedig ar safonau proffesiynol, byddwch chi’n magu’r hyder i gymryd mwy o gyfrifoldeb a manteisio ar gyfleoedd ar draws tirfesur meintiau.

Eich gyrfa yn y dyfodol

Byddwch chi’n barod ar gyfer rolau mewn ymgynghoriaeth, contractio a sefydliadau cleientiaid, gyda chyfleoedd i symud i swyddi uwch ac arbenigol. Gall y cwrs gefnogi eich datblygiad tuag at ymarfer proffesiynol siartredig ac uwch, wrth adeiladu sgiliau sy'n berthnasol i ddiwydiant adeiladu sy'n esblygu. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Rheolwr Masnachol  
Ymgynghorydd Costau  
Rheolwr Contractau  
Rheolwr Caffael 

Adeiladwch eich gyrfa eich hun

Nid oes rhaid i'ch gyrfa olygu gweithio i rywun arall. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawrydd, dechrau busnes neu ddatblygu syniad, gall Menter PDC eich helpu gyda mentora un-i-un, gweithdai ymarferol a chyfleoedd ariannu drwy Gronfa Cychwyn Busnes Menter PDC.
 
Bydd gennych hefyd fynediad at fannau Stiwdio Sefydlu yn ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Ar ôl graddio, gallwch gael aelodaeth am ddim am hyd at dair blynedd, gan roi gweithle i chi a rhwydwaith o sylfaenwyr eraill.
 
P'un a ydych chi'n dewis cyflogaeth, gweithio'n llawrydd neu ddechrau busnes, byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r cysylltiadau i symud ymlaen.

Menter PDC
The logo of the Royal Institution of Chartered Surveyors - it shows a lion and

Achubwch y blaen ar eich statws siartredig a denu cyflog uwch, gydag achrediad gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Dysgwch fwy am achrediad RICS

Partneriaid diwydiant

Mae partneriaid o’r diwydiant yn rhan bwysig o'ch dysgu, gan gyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm, dosbarthiadau meistr, gweithdai a gweithgareddau prosiect. Byddwch chi’n ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o ymgynghoriaethau, contractwyr, datblygwyr a sefydliadau cleientiaid, gan ennill dealltwriaeth o arfer cyfredol a gweithio gyda heriau, data a dogfennaeth go iawn. 

Gofynion Mynediad

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Gradd Anrhydedd 2:2 

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
£80

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 18,300

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
£80

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a'r 7fed yn y DU. (HEBCIS)

Archwiliwch ein cyfleusterau

Camwch i ddyfodol STEM.

Calon

Rhowch gynnig ymarferol ar offer safonol y diwydiant yn adeilad newydd Calon, sydd werth £60m. O roboteg a realiti rhithwir i labordai peirianneg arbenigol ac efelychydd hedfan, byddwch yn dysgu defnyddio'r dechnoleg sy'n llunio byd yfory.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

  • Tirfesur Meintiau

    • Llawn Amser, 1 blynedd

    • Chwefror

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau

    • Rhan-amser, 2 blynedd

    • Chwefror

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau

    • Llawn Amser, 1 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau

    • Rhan-amser, 2 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?