Ysgol i Raddedigion

Doethuriaethau a Graddau Ymchwil a Ariennir

Cyfleoedd presennol

Cysylltwch â Ni Ysgol i Raddedigion
A group of three sport researchers, including PhD students and doctoral supervisors, sit around a table chatting with notepads and a laptop

Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC)

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod yn rhan o Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae YGGCC yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (ESRC) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a'i nod yw hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol yng Nghymru i fynd i'r afael ag ystod o faterion brys sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw.

Cydweithrediad rhwng saith prifysgol, mae YGGCC yn cynnig llwyfan unigryw i ymchwilwyr uchelgeisiol. Wedi'i ariannu gan yr ESRC a thrwy bartneriaethau strategol gyda sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae YGGCC yn sicrhau effaith yn y byd go iawn, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

Gwobr Ffocal Doethurol AHRC

Ochr yn ochr â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae PDC yn rhan o gonsortiwm sydd wedi derbyn Gwobr Ffocws Doethurol AHRC yn yr Economi Greadigol i gryfhau'r diwydiannau creadigol ar draws yr arc Celtaidd, sy'n rhychwantu Cymru, Cernyw ac Ucheldiroedd yr Alban.

Mae PDC hefyd yn bartner mewn ail Wobr Ffocal AHRC, Lles, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ar ran Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru, ynghyd â CBCDC. Mae Lles yn canolbwyntio ar y celfyddydau a'r dyniaethau ar gyfer pobl, planed a lle iach, mewn consortiwm o holl sefydliadau addysg uwch Cymru a fydd yn gweithio'n agos gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Gwobr Tirwedd Doethurol AHRC

Ar ben hynny, mae PDC yn un o 50 o Sefydliadau Addysg Uwch i dderbyn Gwobr Tirwedd Doethurol newydd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r gwobrau hyn yn rhan o ddull newydd o ariannu astudiaeth ddoethurol, gyda'r nod o ategu cryfder a sefydlogrwydd ecosystem ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau.

PhD a Ariennir

Os ydych chi'n oruchwyliwr ac mae gennych chi brosiect i'w hysbysebu, cwblhewch y ffurflen awdurdodi hon.

Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth PhD tair blynedd ar gyfer prosiect a gyllidwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes Seicoleg i gychwyn ym mis Hydref 2027.

Disgrifiad o’r Prosiect

Mae’r ysgoloriaeth PhD hon yn ymateb i fwlch critigol mewn darpariaeth addysgol yng Nghymru, sef y broses o adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn plant sy’n derbyn addysg Gymraeg/dwyieithog. Er bod consensws cynyddol yn deillio o waith ymchwil sy’n cadarnhau nad yw dwyieithrwydd yn niweidiol i ddatblygiad plant sydd ag ADY (Ward & Sanoudaki, 2021; 2024; Zhou et al., 2019) ac efallai hyd yn oed yn cynnig manteision ehangach (Uljarević et al., 2016; Montgomery et al., 2022), mae pryderon a phroblemau ymarferol yn parhau mewn sicrhau mynediad a chydraddoldeb mewn darpariaeth addysgol. Gan fod y galw am ADY wedi bod yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf (e.e, nifer gyda Chynllun Datblygiad Unigol – 21,319 yn 2024 i 32,127 yn 2025; Llywodraeth Cymru, 2025), mae’n angenrheidiol sicrhau bod y plant cywir yn derbyn y cymorth cywir, ar yr adeg gywir.

Ar yr un pryd, mae astudiaethau diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhieni’n dal i gael cyngor gan weithwyr proffesiynol i fabwysiadu ymagwedd uniaith, sy’n gallu arwain at straen ac yn cyfyngu ar hunaniaeth ieithyddol y plentyn (Hampton et al., 2017; Lim et al., 2024; Ward et al., dan adolygiad). Yng Nghymru yn benodol, mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai plant o gefndiroedd dwyieithog neu leiafrifol wynebu oedi wrth gael diagnosis (Ward et al., in prep), yn aml gyda phryderon penodol ynghylch addasrwydd offerynnau asesu presennol (Thomas et al., 2023). O ganlyniad i gyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2021, mae yna ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i nodi a chyrraedd anghenion plant ag ADY. O ystyried bod tua 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg (ONS, 2021) a bod llawer o rai eraill yn siarad ieithoedd lleiafrifol eraill, mae adnabod ADY o fewn plant dwyieithog yn fater hollbwysig ar gyfer sicrhau tegwch a chynhwysiant. Mae adnabyddiaeth gynnar yn hanfodol, gydag astudiaeth ddiweddar yn seiliedig ar Gymru yn dangos mai adnabod ADY yw’r ffactor mwyaf dylanwadol wrth ddeall cyrhaeddiad dysgwyr (Knight et al., 2024). Roedd dysgwyr a dreuliodd gyfnodau hirach cyn cael eu hadnabod gyda ADY yn llai tebygol o gyrraedd safonau disgwyliedig. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd adnabyddiaeth a chefnogaeth amserol.

Pwrpas y prosiect hwn yw datblygu ein dealltwriaeth o sut y mae plant sydd ag ADY yn cael eu hadnabod o fewn cyd-destunau dwyieithog a beth yw’r heriau neu’r rhwystrau sy’n atal rhai plant rhag cael eu hadnabod a’u cefnogi mewn ffordd amserol. Trwy ddefnyddio dulliau cymysg, prif nod y prosiect yw archwilio natur y berthynas rhwng dwyieithrwydd, y broses o adnabod ADY, a’r llwybrau cymorth dilynol i blant yng Nghymru. Bydd y camau hyn yn ein galluogi i ddeall mwy am y broses adnabod ac asesu plant dwyieithog yng Nghymru ac amlygu unrhyw fylchau yn y broses hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn goruchwyliaeth gan Dr Rebecca Ward a Dr Richard May o’r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru. 

Nodiadau Ariannu

Mae’r ysgoloriaeth wedi’i hariannu’n llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n amod o’r cyllid fod y traethawd yn cael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd i gyflenwi tuag at gost ffioedd y DU a grant cynhaliaeth (oedd yn £21,805 ar gyfer 2026-27). Ystyrir ceisiadau i astudio yn rhan amser gydag ysgoloriaeth ar gael ar sail pro rata hefyd. Mae’n bosib y bydd yn ddisgwyliedig i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â dyletswyddau addysgu achlysurol drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Seicoleg.

Gofynion Mynediad

Dylai’r ymgeisydd fod wedi derbyn (neu’n disgwyl derbyn yn fuan) gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Seicoleg, Addysg neu faes arall priodol. Mae cymhwyster ar lefel meistr yn ddymunol.  Dylai’r ymgeisydd fedru siarad ac ysgrifennu’n Gymraeg yn rhugl. Byddai’n fanteisiol i’r ymgeisydd fod â phrofiad o ddadansoddiadau ystadegol ac ymgymryd ag ymchwil ansoddol (e.e., cynnal cyfweliadau).

Mwy o Wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r prif oruchwyliwr Dr Rebecca Ward – [email protected].

Am fwy o wybodaeth am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dilynwch y ddolen yma. Am fwy o wybodaeth am yr adran Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru, ewch i: Seicoleg - Prifysgol De Cymru

Sut i ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2026. Bydd cyfweliadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yn cael eu cynnal rhwng 5-8 Ionawr 2027. Ymgeisiwch ar-lein gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddir ar wefan y Brifysgol, gan ddewis Hydref 2027 fel y dyddiad dechrau.

Mae’n bleser gan Prifysgol De Crymru gynnig ysgoloriaeth ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) yn y Llwybr Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr fydd yn dechrau ym mis Hydref 2026. 

Y Grŵp Ymchwil a Arloesi Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru yn ganolfan arloesol ar gyfer dadansoddi polisi cymdeithasol a phwysig. Mae gennym gryfderau mewn nifer o feysydd polisi cymdeithasol a pholisi cyhoeddus, datblygiad rhyngwladol; polisi cymdeithasol byd-eang; symud o lefydd a ffoaduriaid; datblygu dynolol; cyhoeddus, gan gynnwys datblygu rhyngwladol; polisi cymdeithasol byd-eang; symud o lefydd o ffoaduriaid; geopolitics ynni; newyd yn yr hinsawdd; cymryd rhan a chydweithio dinesig; llywodraethu a chraffu; cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Meini Prawf Mynediad:   

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.    Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Hyd yr astudiaeth:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser). 
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:  

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesu:   

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Sut i wneud cais:   

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/26 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.    

Dylai pob cais gael ei gyflwyno yma (gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis mynedfa mis Hydref 2027)

Darllenwch y cyfarwyddyd cystadleuaeth yn ofalus cyn gwneud cais.

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Mae'n ofynnol i YGGCC adrodd ar ddata Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i'r ESRC, cyngor ymchwil y llywodraeth sy'n ariannu YGGCC. Cyn i chi gyflwyno'ch cais, cwblhewch y Ffurflen Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC gysylltiedig. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen ar wahân wrth gyflwyno'ch cais i'ch sefydliad cynnal.

Cyllid:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.    

Os oes gennych ynrhiw gwestiynau am y broses gais, cysylltwch yr Ysgol Graddedigion [email protected].

Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu os ydych am sgwrs anffurfiol am bwnc ymchwil posib, cysylltwch â'r Athro Palash Kamruzzaman [email protected]

Dyddiad cau: 11/12/2026

Mae’n Ganolfan y Criminoleg ym bleser gan Prifysgol De Crymru gynnig ysgoloriaeth ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) yn y Llwybr y Gyfraith a’r Criminoleg sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr fydd yn dechrau ym mis Hydref 2027. 

Mae'r Ganolfan yn darparu atebion arweiniol ledled y byd sy'n seiliedig ar ymchwil i heriau cyfoes a newydd sy'n wynebu'r gymdeithas, troseddwyr, dioddefwyr a'r amgylchedd. Mae ein grwpiau ymchwil ac arloesi arbenigol yn cynnwys defnydd sylweddau; criminoleg werdd, fyd-eang a thrawsgenedlaethol; trais, lladd a phrofiad troseddau mawr; cyfiawnder ieuenctid, ac ymatebion gan y wladwriaeth a'r sector an-statudol i droseddu. Mae canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn cydnabod bod 71% o'n hymchwil yn arloesol ledled y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Rydym ni'n gyntaf ym Mae Cymru am ddylanwad, gyda mwy na 80% o'n dylanwad ymchwil yn arloesol ledled y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*).

Mae gennym ddiwylliant ymchwil ffyniannus a amrywiol. Mae recriwtio myfyrwyr ôl-raddedig rhagorol o'r DU ac o gwmpas y byd yn ganolog i'n hêlfen ymchwil. Ein hymgyrch yw annog ceisiadau i ddarllen trwy proffiliau staff y Ganolfan i adnabod y rhai sydd â diddordebau ymchwil tebyg a chymryd cam ymlaen i gysylltu â goruchwylydd posib i drafod eu cynnig cyn cyflwyno eu cais.

Meini Prawf Mynediad:    

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.    Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Hyd yr astudiaeth:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).     

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:  

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesu:   

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Sut i wneud cais:   

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/26 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.    

Dylai pob cais gael ei gyflwyno yma (gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis mynedfa mis Hydref 2027)

Darllenwch y cyfarwyddyd cystadleuaeth yn ofalus cyn gwneud cais.

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Mae'n ofynnol i YGGCC adrodd ar ddata Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i'r ESRC, cyngor ymchwil y llywodraeth sy'n ariannu YGGCC. Cyn i chi gyflwyno'ch cais, cwblhewch y Ffurflen Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC gysylltiedig. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen ar wahân wrth gyflwyno'ch cais i'ch sefydliad cynnal.

Cyllid:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.    

Os oes gennych ynrhiw gwestiynau am y broses gais, cysylltwch yr Ysgol Graddedigion [email protected]

Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu os ydych am sgwrs anffurfiol am bwnc ymchwil posib, cysylltwch Dr Marian Buhociu [email protected]

Dyddiad cau: 11/12/2026