Ar gael yn Clirio BA (Anrh)

Celf Gemau

Dysgwch sut i ddod â bydoedd a chymeriadau’n fyw a deall sut mae ein graddedigion yn symud ymlaen i rai o stiwdios gemau gorau'r byd.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Dyluniwch gymeriadau a bydoedd, crëwch gelf gemau, ac adeiladwch eich portffolio
Dyluniwch gymeriadau a bydoedd, crëwch gelf gemau, ac adeiladwch eich portffolio

Côd UCAS

W281

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Caerdydd

Côd y Campws

B

Pwyntiau UCAS

96


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Gan weithio ar brosiectau byw ar draws amrywiol gyfryngau gemau, byddwch yn cael y cyfleoedd i feistroli offer safonol y diwydiant fel Unreal Engine.

Byddwch yn datblygu'r sgiliau technegol, creadigol a 'meddal' y mae stiwdios gemau cyfrifiadurol gorau'r byd yn eu mynnu, gan eich paratoi ar gyfer eich rôl ddelfrydol mewn celf gemau.

Os oes gennych chi gefndir mewn celf ac yn caru gemau fideo, mae'r cwrs hwn yn eich helpu i gyfuno'r diddordebau hynny mewn gyrfa amrywiol, ddeinamig a gwerth chweil. Fe welwch chi ansawdd eich gwaith yn gwella a'ch gwybodaeth am y diwydiant yn tyfu nes eich bod chi'n barod am rôl mewn stiwdio flaenllaw. 


Pam astudio'r cwrs hwn?

Ffocws ar ddiwydiant

Cewch ddysgu gan gyn-weithwyr proffesiynol y diwydiant a helpu i feistroli’r sgiliau y mae’r stiwdios gemau gorau eu heisiau – byddwch yn barod i sefyll allan.

Profiad byd go iawn

Cewch brofiad o brosiectau byw, lleoliadau a theithiau, gan ennill profiad ymarferol sy’n eich rhoi ar y blaen.

Rhagolygon gyrfa rhagorol

Lansiwch eich gyrfa ddelfrydol gyda chyn-fyfyrwyr yn y stiwdios gorau fel Creative Assembly, Ubisoft, Rebellion ac Airship Images.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Cael cyflwyniad i sgiliau celf gemau craidd fel lluniadu, cerflunio, modelu 3D a gweadu, cyn symud ymlaen i feddalwedd dechnegol.

Byddwch yn astudio anatomeg gymharol, pensaernïaeth, celf amgylcheddol a modelu cerbydau trwy amrywiaeth o brosiectau.

Dewch i ddeall y broses celf gemau wrth i chi ddysgu sut i ddehongli briffiau, cynhyrchu syniadau a threfnu prosiectau. Ewch i’r afael â meddalwedd peiriant gemau ac offer creu cynnwys.

Dysgwch amrywiaeth o feddalwedd creu gemau 2D a 3D, gan ddefnyddio prosesu o safon diwydiant a dadansoddi eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol.

Archwiliwch esblygiad celf a gemau wrth adeiladu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi hanfodol i’ch helpu i lwyddo’n academaidd.

Cyflwynir efelychu byd go iawn a bydd yn caniatáu i dimau gael eu hadeiladu a bydoedd yn cael eu creu o fewn arferion a phrosesau diwydiant.

Datblygwch eich sgiliau iaith weledol a chynrychioliad gyda lluniadu traddodiadol a digidol, gan wella eich dealltwriaeth o ffurf. Cynhelir y modiwl hwn drwy gydol y flwyddyn.

Dechreuwch efelychu arferion a dulliau diwydiant wrth i chi ddatblygu sgiliau mewn celf cysyniad, modelu a cherflunio uwch, argraffu 3D, dal symudiadau a rhagor.

Nodwch eich hoff sgiliau a datblygwch y rhain trwy gystadlaethau, briffiau byw a lleoliad proffesiynol o fewn y diwydiant.

Ewch amdani wrth i chi gymhwyso sgiliau ac egwyddorion mwy datblygedig i amgylcheddau, cerbydau, cymeriadau a phropiau ar gyfer gwahanol blatfformau, gan ddatblygu llifoedd gwaith effeithiol.

Archwiliwch gelf gemau ac ymchwiliwch i gysyniadau amrywiol sy’n sail i fodiwlau ymarferol, megis pensaernïaeth, peirianneg, cymeriad a naratif mewn gemau cyfrifiadurol.

Dechreuwch arbenigo wrth i chi ddatblygu corff o waith gan ddangos sgil mewn set benodol o dechnegau digidol, a chynllunio prosiect yn broffesiynol mewn ymateb i friff.

Cewch brofiad yn y byd go iawn, gweithio mewn timau cydweithredol a nodi bylchau yn eich datblygiad wrth i chi ymgymryd â lleoliad diwydiant, briff byw neu gymryd rhan mewn cystadleuaeth.

Dyma’r flwyddyn pan fyddwch chi’n agor drysau i’ch gyrfa ddelfrydol mewn celf gemau.

Bydd gennych y lle a’r gefnogaeth i greu portffolio arbenigol a chydweithio â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill, yn union fel y bydd angen i chi ei wneud yn y byd go iawn. Bydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn cynnig cipolwg ar y diwydiant.

Wrth i chi ddychwelyd ar gyfer eich blwyddyn olaf, bydd y modiwl trochi hwn yn gwella eich sgiliau i safon broffesiynol, yn adeiladu eich portffolio ac yn eich paratoi ar gyfer y prosiect mawr sydd i ddod.

Dyluniwch, ymchwiliwch a chynlluniwch gorff o waith sy’n amlygu eich arbenigedd yn eich arbenigaeth a ddewiswyd, gan amlinellu’r syniadau a’r llifoedd gwaith a fydd yn llywio eich blwyddyn olaf.

Profwch eich bod yn barod ar gyfer diwydiant trwy gwblhau eich prosiect gydag asedau o safon uchel ar gyfer eich portffolio, yn barod i’w rhannu ar-lein.

Paratowch ar gyfer y diwydiant trwy archwilio llwybrau gyrfa, adeiladu eich CV, portffolio, a rhwydwaith, a dysgu sut i farchnata eich hunain fel pro.

Archwiliwch fater allweddol yn eich arbenigedd celf gemau gyda’ch prosiect ymchwil, gan ddefnyddio ymchwil annibynnol i gefnogi’ch dadleuon.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Byddwch chi'n dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant sydd â hanes o weithio i stiwdios mawr yn y diwydiant gemau fideo fel Codemasters, a meysydd cyfagos fel animeiddio, teledu a ffilm gyda chwmnïau fel Nickelodeon a'r BBC - Maen nhw'n gwybod beth mae stiwdios yn chwilio amdano ac yn defnyddio eu profiad yn y diwydiant i nodi eich cryfderau a'ch tywys ar hyd llwybr lle gallwch ffynnu.

Mae'r asesiad yn seiliedig yn gyfan gwbl ar waith cwrs, heb arholiadau. Byddwch yn cwblhau prosiectau ymarferol sy'n adeiladu eich portffolio, gan gynnwys celf gysyniadol, asedau 2D a 3D a gwaith parod ar gyfer gemau. Byddwch yn dysgu trwy weithdai, seminarau a phrosiectau stiwdio sy'n adlewyrchu arfer y diwydiant. Byddwch hefyd yn cynhyrchu llyfrau braslunio, cyfnodolion datblygu a gwaith ymchwil i ddangos eich syniadau a'ch proses. Mae rhai prosiectau'n cynnwys gwaith tîm, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau cydweithio. Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd gan diwtoriaid a chyfoedion i wella eich gwaith. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiectau portffolio mawr sy'n eich paratoi am yrfa mewn celf gemau a diwydiannau cysylltiedig. 

Er mwyn eich paratoi ar gyfer y diwydiant, rydym yn sicrhau bod popeth a wnewch yn adlewyrchu gweithio mewn stiwdio go iawn. Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect byw ochr yn ochr â stiwdio enwog, lle byddwch yn gwneud yr holl bethau a ddisgwylir yn broffesiynol gan artist gemau. Bydd gennych hefyd gyfleoedd ar gyfer lleoliadau – mae ein partneriaid yn cynnwys Tiny Rebel Games, Cloth Cat a Painting Practice. Mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ac yn rhannu mewnwelediadau i'r diwydiant, a byddwch yn gweld celf ddigidol ar waith ar amrywiaeth o deithiau maes. Mae'r holl waith a wnewch ar y campws yn defnyddio technoleg a dulliau safonol y diwydiant, felly byddwch yn gallu bwrw ati’n syth i'ch rôl gyntaf ar ôl graddio. 

Bydd gennych fynediad llawn i'r holl feddalwedd a ddefnyddir gan y diwydiant i ddod â bydoedd yn fyw. Mae'r rhain yn cynnwys Unreal Engine, Adobe, AutoDesk, SpeedTree, Marmoset, Maya, 3D Max a mwy. Bydd gennych drwyddedau llawn heb unrhyw gost ychwanegol. Gyda phedair stiwdio sy'n cynnwys 100 o gyfrifiaduron personol, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gyflwyno prosiectau celf gemau unigol a chydweithredol rhagorol. Mae gennym ystafell gymorth TG drws nesaf i’n stiwdios, felly bydd gennych gymorth technegol wrth law bob amser. Wedi'ch lleoli yn hwb creadigol ein campws yng Nghaerdydd, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan bob math o fyfyrwyr creadigol, gan gynnwys y myfyrwyr Dylunio Gemau y byddwch chi'n cydweithio â nhw drwy gydol y cwrs. 

Arweinydd y Cwrs

Simon Reed

Simon Reed yw Arweinydd y Cwrs BA (Anrh) Celf Gemau ac mae'n dod â bron i 30 mlynedd o brofiad ar draws y sectorau gemau, creadigol ac addysg uwch. Ar ôl dal rolau uwch ac arweiniol ar brosiectau gemau AAA a thrwydded, mae gan Simon arbenigedd mewn cynhyrchu celf gemau, creu cynnwys digidol ac arwain prosiectau. Mae ganddo MA, PgCertHE, PgDip, ac mae'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA). Mae myfyrwyr yn elwa o addysgu sydd wedi'i ffurfio gan gydweithrediad diwydiant, gan eu helpu i adeiladu portffolios proffesiynol, datblygu sgiliau creadigol a thechnegol mewn galw mawr, a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant gemau a'r diwydiannau creadigol ehangach. 

Rhagolygon Gyrfa

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Byddwch yn graddio gyda phortffolio cryf a phrofiad o gynhyrchu cydweithredol, yn barod i wneud cais am rolau mewn stiwdios gemau neu ar draws diwydiannau creadigol ehangach.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Artist amgylcheddol
Artist cymeriad
Artist cysyniadol 
Artist propiau 
Artist cerbyd neu arwyneb caled 

Disgwyliadau Cyflog

Gall gradd Celf Gemau agor cyfleoedd ar draws sector gemau ehangach. Mae gyrfaoedd gemau yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £51.4k y flwyddyn
Cymru: £41.5k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 1.26m
Cymru: 30,764

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Siddharth Ravindran's art work

"Gwnaeth y cwrs ddarparu adnoddau a chymorth a wnaeth alluogi fy sgiliau i dyfu i safonau'r diwydiant."

Siddharth Ravindran, Myfyriwr Celf Gemau

Siddharth Ravindran

Adeiladwch eich gyrfa eich hun

Nid oes rhaid i'ch gyrfa olygu gweithio i rywun arall. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawrydd, dechrau busnes neu ddatblygu syniad, gall Menter PDC eich helpu gyda mentora un-i-un, gweithdai ymarferol a chyfleoedd ariannu drwy Gronfa Cychwyn Busnes Menter PDC.
 
Bydd gennych hefyd fynediad at fannau Stiwdio Sefydlu yn ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Ar ôl graddio, gallwch gael aelodaeth am ddim am hyd at dair blynedd, gan roi gweithle i chi a rhwydwaith o sylfaenwyr eraill.
 
P'un a ydych chi'n dewis cyflogaeth, gweithio'n llawrydd neu ddechrau busnes, byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r cysylltiadau i symud ymlaen.
 
Menter PDC

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Mae Academi Gemau ac Animeiddio Cymru yn eich paratoi â'r sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn gemau. Trwy addysgu dan arweiniad y diwydiant, prosiectau cydweithredol a phrofiad yn y byd go iawn, byddwch yn graddio gyda'r arbenigedd creadigol, technegol a phroffesiynol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. 

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Sgiliau Allweddol 

Modelu, cerflunio a rendro 2D a 3D
Meddwl creadigol a datrys problemau
Rheoli prosiectau a gwaith tîm yn y byd go iawn
Deall peiriannau gemau a phibellau cynhyrchu 
Datblygu portffolio ac ymarfer proffesiynol 

Partneriaid Diwydiant 

Byddwch yn gweithio ar friffiau byw, lleoliadau a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, sy'n adlewyrchu amgylcheddau stiwdio go iawn. Byddwch hefyd yn dysgu gan siaradwyr gwadd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau a deall sut mae stiwdios gemau'n gweithredu. 

Gofynion Mynediad

Gofynion ychwanegol

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol

Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol (mae hyn yn gyfwerth â 96 pwynt tariff UCAS).

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS

Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Llyfrau
Ar gael drwy'r llyfrgell. Gall myfyrwyr ddewis buddsoddi mewn llyfrau os ydynt am gael copïau personol.

Allgyrsiol
Rydym yn aml yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a theithiau y gall fod angen taliad ar eu cyfer.

Cost: Hyd at £20 y daith

Offer tynnu lluniau
Mae angen llyfrau braslunio, pensiliau, pennau.

Cost: Hyd at £100

Caledwedd
Mae cyfrifiaduron personol ar gael yn y dosbarth. Fodd bynnag, rydym yn cynghori bod myfyrwyr yn buddsoddi mewn cyfrifiadur gemau ond mae hyn yn ddewisol.

Cost: Hyd at £1000

Teithio
Efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am deithio i ddosbarthiadau meistr / cynadleddau / digwyddiadau / perfformiadau (pob blwyddyn academaidd).

Cost: Hyd at £10 yr ymweliad

Tabled Wacom
Yn ofynnol ym mhob blwyddyn academaidd. 

Cost: £100

Gyriant caled USB
Yn ofynnol ym mhob blwyddyn academaidd. 

Cost: £60

Deunyddiau Celf ar gyfer Blwyddyn 1
Llyfr Braslunio A3 â Chlawr Caled £15, Pen Fine Liner Du £2.99, Pen ProMarker £3.65, Pen ProMarker £3.65 a Phen ProMarker £3.65. 

Cost: hyd at £30 

Trafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Blwyddyn 2
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Amgueddfeydd, Cestyll, Lleoliadau Hanesyddol ac Arddangosfeydd Celf. 

Cost: £20

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,600

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Llyfrau
Ar gael drwy'r llyfrgell. Gall myfyrwyr ddewis buddsoddi mewn llyfrau os ydynt am gael copïau personol.

Allgyrsiol
Rydym yn aml yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a theithiau y gall fod angen taliad ar eu cyfer.

Cost: Hyd at £20 y daith

Offer tynnu lluniau
Mae angen llyfrau braslunio, pensiliau, pennau.

Cost: Hyd at £100

Caledwedd
Mae cyfrifiaduron personol ar gael yn y dosbarth. Fodd bynnag, rydym yn cynghori bod myfyrwyr yn buddsoddi mewn cyfrifiadur gemau ond mae hyn yn ddewisol.

Cost: Hyd at £1000

Teithio
Efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am deithio i ddosbarthiadau meistr / cynadleddau / digwyddiadau / perfformiadau (pob blwyddyn academaidd).

Cost: Hyd at £10 yr ymweliad

Tabled Wacom
Yn ofynnol ym mhob blwyddyn academaidd. 

Cost: £100

Gyriant caled USB
Yn ofynnol ym mhob blwyddyn academaidd. 

Cost: £60

Deunyddiau Celf ar gyfer Blwyddyn 1
Llyfr Braslunio A3 â Chlawr Caled £15, Pen Fine Liner Du £2.99, Pen ProMarker £3.65, Pen ProMarker £3.65 a Phen ProMarker £3.65. 

Cost: hyd at £30 

Trafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Blwyddyn 2
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Amgueddfeydd, Cestyll, Lleoliadau Hanesyddol ac Arddangosfeydd Celf. 

Cost: £20

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

 Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7fed yn y DU (HEBCIS)

Archwiliwch ein cyfleusterau

Canolfan greadigol lle mae gemau ac animeiddio’n ffynnu.

Cyfleusterau Gemau ac Animeiddio

Creu bydoedd a fydd yn trochi cynulleidfaoedd, o animeiddio ffilmiau ac adeiladu effeithiau gweledol i ddylunio cymeriadau gemau fideo unigryw a chynhyrchu darnau celf drawiadol. Byddwn yn rhoi'r sgiliau, yr offer a'r cysylltiadau diwydiant i chi i droi'ch syniadau yn realiti.

Mae ein cyrsiau Gemau ac Animeiddio yn rhan o Academi Gemau ac Animeiddio Cymru.

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Benthyciadau Cyfryngau

Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Celf Gemau

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Caerdydd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

"Mae'r modelu 3D wedi bod fy hoff ran o'r cwrs hyd yn hyn... Rwy'n teimlo taw y canlyniad terfynol fydd yn debygol o fod y rhan orau."

Sam Kwan Sam Kwan Myfyriwr Celf Gemau

Gweld proffil myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Fy hoff ran o’r cwrs hyd yn hyn yw modelu 3D ... Mae'n cŵl iawn gwneud rhywbeth ac yna gweld y cyfan yn dod at ei gilydd mewn ffordd derfynol."

Lewis Hobbs Lewis Hobbs Myfyriwr Celf Gemau

Gweld proffil myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Roedd mynychu'r diwrnod hwnnw yn gwneud i mi deimlo'n fwy hyderus ac roedd yr athrawon yn neis iawn - roedd hynny'n bendant yn rhywbeth wnaeth werthu y cwrs i mi."

Cariad Williams Cariad Williams Myfyriwr Celf Gemau

Gweld proffil myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Mae'r darlithwyr a'r cwrs yn cyflwyno arferion celf 3D o safon uchel iawn, a helpodd hyn i sicrhau bod fy ngwaith celf yn cyrraedd safon y diwydiant."

Siddharth Ravindran Siddharth Ravindran, Myfyriwr Celf Gemau

Gweld proffil myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?