Astudiaeth Ôl-raddedig
Mae PDC Caerdydd yng nghanol y ddinas, sy'n eich rhoi chi wrth galon prifddinas Cymru. Mae’n gartref perffaith i’n cyrsiau diwydiannau creadigol ac yn lle i’n hôl-raddedigion ffynnu.
Diwydiannau Creadigol Cyrsiau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/14-cardiff-facilities/Interior-Design---Graduate-Show-2019_39071.jpg)
Mae'r degawd diwethaf wedi gweld datblygiad cyfleusterau arbenigol ar draws y campws i chi hogi a datblygu sgiliau creadigol mewn amgylchedd proffesiynol. Mae Caerdydd yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu cyfryngau yn y DU, gyda chanol y ddinas yn gartref i'r BBC yn ogystal â'r Pinewood Studios sefydledig.
Datblygu'ch gyrfa
Gellir gweld ein cyn-fyfyrwyr yn gwneud gwahaniaeth ym mhob maes o gymdeithas a diwydiant. Nid yw byth yn rhy hwyr a dim ond rhai blynyddoedd ar ôl graddio y mae llawer yn dod o hyd i'r rôl berffaith honno.
Cyllid ôl-raddedig
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Bwrsariaeth newydd ar gyfer myfyrwyr y DU a’r UE sy’n dechrau cwrs ôl-raddedig a addysgir cymwys ym mlwyddyn academaidd 2018-19. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen ffioedd a chyllid ôl-raddedig.
Bywyd myfyrwyr
Mae Caerdydd ar gyfer myfyrwyr, gyda’i llu o orielau, amgueddfeydd, digwyddiadau chwaraeon, bariau, bwytai a siopa ymhlith llawer mwy i’w darganfod y tu hwnt i ffiniau’r ddinas. Gyda lleoliad canolog PDC Caerdydd nid yw ein myfyrwyr byth yn bell o ganol yr holl fwrlwm.
Dewch o hyd I ni ar gyfryngau cymdeithasol
Eisiau gweld beth sy'n digwydd ar y campws cyn i chi gyrraedd? Cymerwch olwg ar ein ffrydiau a dilynwch @USWCreative ar Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Cysylltu â ni
Ffoniwch ni
03455 76 77 78