Mae Karma Sherab (neu Da Tako) yn ddyn ifanc o Bhutan sydd â'i fryd ar fod yn rapiwr enwog. Clywn am yr heriau a wynebodd i astudio ym Mhrifysgol De Cymru, y pwysau sydd arno nid yn unig i wneud yn dda, ond hefyd i fod yn llysgennad answyddogol dros ei wlad. (Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld y ffilm hon yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu CELT ym mis Mehefin).  

Mae Karma, sy’n fyfyriwr ar y cwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu, eisiau dangos y ffordd i bobl ifanc eraill wneud bywoliaeth gyda cherddoriaeth yn Bhutan, gwlad fach heb ddiwydiant cerddoriaeth fel sydd i’w gael yng ngwledydd Prydain, Unol Daleithiau America a llawer o wledydd eraill.

Watch episode 2 (in Welsh)

A close up of a person singing into a microphone.