Pennod 4: Byw Fy Mywyd
Myfyriwr aeddfed yw Sarah Jayne Smith, a ddaeth yn fam sengl pan oedd yn 17 oed, sydd wedi cyfuno ei hastudiaethau israddedig â magu plentyn a gweithio. Yn y ffilm yma cawn glywed am ei chymhellion dros ddychwelyd i’r byd academaidd i astudio MA mewn Newyddiaduraeth Weledol, a'r heriau dysgu ychwanegol mae'n eu hwynebu hefyd ar ôl cael diagnosis o awtistiaeth a chyflwr prin sy'n cyfyngu ar fywyd o'r enw Sarcoidosis.
Ar ôl wynebu llu o anawsterau drwy gydol ei bywyd fel oedolyn, mae cryfder, positifrwydd a phenderfyniad Sarah Jayne yn dod i’r amlwg wrth iddi drafod ei hangerdd am ddysgu a helpu eraill.
gwylio pennod 4 (yn Gymraeg)