Newyddiaduraeth Weledol
Nod y cwrs yw cynhyrchu cyfathrebwyr ystwyth ac effeithiol sy'n fedrus mewn newyddiaduraeth weledol ac adrodd straeon amlgyfrwng. Mae Prifysgol De Cymru yn cydnabod bod cynnwys yn hollbwysig o ran cyfathrebu ac mae’r cwrs MA hwn yn cynnig dull ymarferol a damcaniaethol o ddeall y ffordd caiff gwybodaeth ei chreu a’i defnyddio.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/journalism-and-media/ma-visual-journalism.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn archwilio ystod o ddulliau newydd a deinamig o greu cynnwys ar gyfer amrywiaeth o sectorau a llwyfannau, wrth fireinio egwyddorion allweddol adrodd straeon newyddiadurol a chyfathrebu cywir a chyfrifol. Mae gan y broses o gyfnewid gwybodaeth y pŵer i ddylanwadu'n eang, i gael ei defnyddio'n fyd-eang ac i wneud brandiau ac unigolion yn feiral.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Pobl sydd eisiau cael effaith sylweddol ar y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol a chyfrannu atynt. Pobl sy’n awyddus i fod yn rhan o fyd y cyfryngau a chyfathrebu sy’n newid yn gyflym ac i ddatblygu’r sgiliau i sefyll allan a ffynnu mewn maes sy’n gofyn i unigolion creadigol feddwl am y presennol a’r dyfodol, a bod yn ystwyth ac yn ymwybodol.
Llwybrau Gyrfaol
- Newyddiadurwr Gweledol
- Swydd Creu Cynnwys
- Rheolwr Cyfryngau
- Ymchwilydd
- Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
Sgiliau a addysgir
- Newyddiaduraeth
- Adrodd Straeon
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Cynhyrchu sain/gweledol
- Ymchwil
/prod01/channel_2/media/video-course-visual-journalism.png)
Trosolwg o'r Modiwl
Mae hwn yn gwrs blwyddyn, amser llawn a fydd yn eich herio, eich datblygu a’ch paratoi ar gyfer y bennod nesaf yn eich gyrfa fel cyfathrebwr hyderus ac effeithiol. Mae pwyslais cryf ar greu cynnwys gweledol ac adrodd straeon mewn ffordd sy’n sail i newyddiaduraeth effeithiol ac sy’n cydnabod y newidiadau mewn gallu defnyddwyr i ganolbwyntio, a’r angen i sefydliadau ac unigolion gyfleu eu neges mewn ffordd glir a deniadol.
Adrodd Straeon yn Weledol a Chreadigol
Mae’r modiwl 40 credyd hwn yn cynnig cipolwg rhagarweiniol ar egwyddorion allweddol arferion cyfredol newyddiaduraeth weledol a chyfryngau cyfathrebu, yn ogystal â phwysigrwydd moeseg a chodau ymddygiad. Mae'r pwyslais ar hwyluso archwilio posibiliadau a datblygu diddordebau mewn ystod o feysydd sy'n ymwneud â’r diwydiant.
Mae ffocws ar friffiau byw a arweinir gan gleientiaid, gan gynnwys adrodd straeon aml-lwyfan, delweddu data, fideo ffurf fer, cynnwys a gynhyrchir ar ffonau symudol, realiti estynedig, fideo 360 a chyfryngau rhyngweithiol, gan archwilio ffyrdd newydd o greu cynnwys ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau ar-lein a chymdeithasol ac allfeydd cyfryngau a chyfathrebu.
Ysgrifennu Perswadiol
Gan ddefnyddio elfennau sylfaenol arferion newyddiaduraeth fel man cychwyn, bydd y modiwl hwn yn archwilio ysgrifennu ac adrodd straeon ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau ac allfeydd, o’r cyfryngau cymdeithasol i ysgrifennu copi i straeon newyddion. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddatblygu eu harddull unigryw eu hunain yn ogystal â gwerthfawrogi gofynion y cyfathrebwr proffesiynol i gyfleu manylion y neges gyda chywirdeb, naws briodol, a'r gallu i ddilyn briff cytunedig sy'n bwydo i mewn i'r naratif ysgrifenedig.
Cyfathrebu: O’r cysyniadau i’r arferion
Beirniadaeth ragarweiniol o gysyniadau allweddol ac offer cyfathrebu ac arfer newyddiaduraeth modern. Mae’n archwilio seiliau damcaniaethol y pwnc drwy archwilio sut y cânt eu defnyddio i liniaru neu ddylanwadu ar faterion mewn cymdeithas, diwydiant a’r amgylchedd. Mae deall sut mae dulliau cyfathrebu traddodiadol yn esblygu a sut yr effeithir ar y diwydiant, yn ganolog er mwyn gallu adeiladu strategaethau effeithiol sy'n gweithio yn yr amgylchedd cyflym hwn.
Gweithle’r Cyfryngau
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno ac yn helpu i hwyluso'r profiad seiliedig ar waith a'r defnydd ymarferol o gynhyrchu cynnwys sy'n seiliedig ar y diwydiant. Cyflawnir hyn drwy leoliad gwaith neu efelychu gweithle a thrwy nodi disgwyliadau ac arferion gweithio i ofynion diwydiant a datblygu cymwyseddau proffesiynol.
Pecyn Cymorth Ymchwil y Cyfryngau
Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r dulliau sydd eu hangen ar gyfer ymchwilio yn sefydliadau’r cyfryngau, i lywio dadansoddiad beirniadol o’r cyfryngau ac, yn benodol, o gynulleidfaoedd y cyfryngau, gan ddatblygu’r gallu i nodi ffynonellau sy’n briodol i dasgau ymchwil penodol a chyfleu’r rhain i ystod wahanol o gynulleidfaoedd.
Mae’n ceisio datblygu cymhwysedd proffesiynol wrth nodi a gwireddu cyfleoedd ar gyfer adrodd straeon yn ddigidol ar draws ystod o lwyfannau drwy greu syniadau, casglu deunydd cydrannol, a chynhyrchu arteffactau amlgyfrwng priodol.
Pŵer y Cyfryngau a Chyfiawnder
Mae meithrin dealltwriaeth gadarn o'r gyfraith a'r materion moesegol sy'n wynebu newyddiadurwyr a chyfathrebwyr yn hanfodol i'w galluogi i weithredu'n effeithiol ac yn broffesiynol. Nod y modiwl hwn yw darparu gwybodaeth am y gyfraith, rheoleiddio a moeseg sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau fel y bônt yn berthnasol i adrodd straeon aml-lwyfan ym maes newyddiaduraeth a'r diwydiant cyfathrebu ehangach. Mae'r modiwl yn magu hyder myfyrwyr i weithredu'n ddiogel drwy drafod, beirniadu a gweithio drwy'r heriau sy'n dod i'r amlwg yn y maes hwn, o bwy sy'n berchen ar hawlfraint delwedd i p'un a allai neges cyfryngau cymdeithasol arwain at ymddangosiad llys.
Arfer yn y byd go iawn
Mae’r prosiect terfynol 40 credyd yn benllanw blwyddyn o ddysgu ac yn cynnig cyfle i ddatblygu arbenigedd a diddordebau. Cefnogir myfyrwyr i nodi, dylunio a chynhyrchu corff sylweddol o waith sy'n arddangos lefel eu gallu technegol, esthetig a deallusol mewn perthynas â'u dewis arbenigedd neu ddiddordeb.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol priodol, neu HND / HNC a phrofiad perthnasol; neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.
Ystyrir y rhai heb gymwysterau o'r fath yn unigol, lle bydd profiad blaenorol yn cael ei ystyried.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr lawrlwytho copi o feddalwedd Adobe sy'n berthnasol i'r cwrs am ddim.
Cost: I fyny at £500
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr deithio i gyfleoedd profiad gwaith a/neu efallai y bydd angen gwisg addas arnynt ar gyfer y gweithle.
Cost: Amrywiol
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Addysgir y cwrs MA Newyddiaduraeth Weledol mewn amgylchedd creadigol a phroffesiynol gan staff sy'n angerddol am eu harbenigedd pwnc ac sy’n awyddus i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ôl-raddedigion i ddod o hyd i'w harbenigedd, gan ddatblygu ystod eang a pherthnasol o sgiliau ar yr un pryd.
Darlithoedd, seminarau a gweithdai yw'r prif ddulliau cyflwyno, ochr yn ochr â thiwtorialau unigol a grŵp a sesiynau stiwdio ac ymarferol. Mae hwn yn gwrs amser llawn sy'n gofyn am dreulio cryn dipyn o amser ar ymchwil, cynllunio a chynhyrchu creadigol ar eich pen eich hunan.
Asesir myfyrwyr drwy'r gwaith ymarferol maen nhw’n ei gynhyrchu, o bortffolios i gyflwyniadau a thrwy'r gwaith ysgrifenedig damcaniaethol a beirniadol maen nhw’n ei ddatblygu ochr yn ochr ag ef. Darperir adborth ysgrifenedig a llafar mewn nifer o ffyrdd gan staff academaidd, technegol a chymorth ac anogir myfyrwyr i archwilio eu gwaith eu hunain yn erbyn disgwyliadau'r diwydiant.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Mae gan arweinydd y cwrs, Julie Kissick, brofiad helaeth mewn darlledu a newyddiaduraeth, yn ogystal â gweithrediadau strategol a rheoli. Mae llawer o’r staff addysgu wedi gweithio fel ymarferwyr yn y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu, ac o ganlyniad mae ganddyn nhw brofiad sylweddol a rhwydwaith o gysylltiadau, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r staff wedi'u hyfforddi yn y diwydiant neu'n academaidd ac yn weithgar ym maes ymchwil, datblygu a/neu ymgynghoriaeth, gydag angerdd dros ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i ffynnu ym maes bywiog newyddiaduraeth a chyfathrebu sy'n esblygu'n barhaus.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Lleoliadau
Mae profiad gwaith, o ran cymryd rhan mewn cyflawni briffiau a arweinir gan gleientiaid a lleoliadau unigol a chyfunol, yn elfen bwysig o'r cwrs. Maen nhw’n hwyluso myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’u maes cyflogaeth dewisol a phrofi gofynion eu maes dewisol wrth adeiladu ymwybyddiaeth o arferion proffesiynol i helpu i ehangu a mireinio eu sylfaen sgiliau. Maen nhw hefyd yn meithrin hyder ac yn cynnig blas ar lwybrau ar gyfer dewisiadau gyrfa.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein campws yng Nghaerdydd wedi’i leoli yng nghanol y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu ac mae myfyrwyr yn elwa ar fod yng nghanol bwrlwm creadigol llewyrchus, gyda phopeth o gynhyrchu teledu i leoliadau celfyddydol annibynnol, darlledwyr cenedlaethol a chwmnïau cyfathrebu o fri rhyngwladol, i gyd yn gweithredu yng nghanol y ddinas neu o fewn tafliad carreg.
Mae gan ein stiwdios ddigonedd o gyfarpar da yn cynnwys cyfleusterau darlledu a chyfryngau o'r radd flaenaf gyda phecynnau meddalwedd o safon y diwydiant. Ar y safle mae gennym sinema, stiwdios teledu a radio, theatr ac ystafelloedd cynadledda y gellir eu defnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a darlithoedd gwadd. Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad i gyfleusterau ar gampysau eraill, gan gynnwys Canolfan Efelychu Hydra a'r Parc Chwaraeon.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.