Mae Laurie Elen Thomas eisiau gallu adrodd straeon sy'n siarad â'i chymuned ac am ei chymuned. Yn y ffilm hon, mae Laurie yn sôn am ei phrofiadau a’r heriau a wynebodd wrth dyfu i fyny yn ferch ifanc hoyw, Gymraeg ei hiaith o Gaerfyrddin, yn astudio yng Nghaerdydd, a’r pethau sy’n ei rhwystro rhag dweud y straeon hynny yn ei hiaith gyntaf.

Cawn ddilyn Laurie Elen, sy’n fyfyrwraig ar y cwrs BA (Anrh.) Perfformio a’r Cyfryngau, wrth iddi fwynhau cwmni ei ffrindiau Cymraeg yng ngŵyl Balchder Caerdydd, ond cawn glywed am ei rhwystredigaethau gydag agweddau rhai pobl ddi-Gymraeg tuag at y Gymraeg.

watch episode 3 (in Welsh)

A person smiling as they go towards Mr Urdd.