Gwyliwch y Gofod
Cyfres o ffilmiau dogfen byr am uchelgeisiau, gobeithion a heriau
Rydyn ni’n disgwyl llawer gan ein hacademyddion, o fod â gwybodaeth bwnc arbenigol, rhagoriaeth o ran addysgeg ac ymchwil a sgiliau bugeiliol. Rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw ddeall eu myfyrwyr yn ogystal â nodau, uchelgeisiau a'r heriau mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu. Fodd bynnag, mae pob cenhedlaeth yn wahanol i'r un flaenorol, fel arfer mewn ffordd gynnil heb i neb sylwi. Dros amser, gall bwlch agor rhwng yr hyn rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n ei wybod am gymhellion a heriau myfyrwyr a beth ydyn nhw mewn gwirionedd.
Cyfres ysbrydoledig o bedair ffilm ddogfen fer yw Gwyliwch y Gofod sy'n ceisio pontio'r bwlch (posib) hwn, i helpu ein hacademyddion i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n ysgogi ein cenhedlaeth bresennol o fyfyrwyr, yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a'u huchelgeisiau ar ôl ennill gradd, boed yn bersonol neu'n gymdeithasol. Yn y pedair ffilm, rydyn ni’n cwrdd â phedwar myfyriwr o amrywiaeth eang o gefndiroedd:
"Mae'r ffilmiau yma’n mynd â ni y tu hwnt i'r hyn rydyn ni’n ei weld yn ein hystafelloedd dosbarth ac yn cyflwyno straeon a bywydau rhai o’n dysgwyr dawnus. Fel staff sy’n addysgu a chefnogi myfyrwyr, mae’n fraint i ni weld un dimensiwn o fywydau myfyrwyr – pan fyddan nhw’n treulio amser gyda ni fel ‘nhw eu hunain wrth ddysgu’. Ond mae mwy i bob myfyriwr, yn union fel mai dim ond un rhan o'n straeon ein hunain yw ein hunaniaeth broffesiynol. Mae’r ffilmiau’n codi llawer o bynciau ac yn tynnu sylw at nifer o’r heriau gall ein dysgwyr eu hwynebu ac ar yr un pryd yn dangos cryfder ysbryd, penderfyniad a gwydnwch sy’n fy ysbrydoli."
Karen Fitzgibbon, Athro Addysgu a Dysgu
Mae cyfres Gwyliwch y Gofod wedi cael ei ffilmio dros y chwe mis diwethaf gan Leonard Merlim, cyn-fyfyriwr MA Ffilm (Cyfarwyddo) o Brifysgol De Cymru, a gafodd ei gyflogi gan CELT drwy Raglen Interniaethau Graddedigion Springboard. Mae’r pedair ffilm ragorol yma’n dyst i’w sgiliau a’i ymroddiad, yn benodol, Pennod 3: Gair i’r Byd, a gafodd ei ffilmio i raddau helaeth yn Gymraeg; iaith nad yw Leonard, sy'n hanu o Indonesia, yn ei siarad, ac nad yw'n gyfarwydd iawn â hi. Mae gallu Leonard i feithrin ymddiriedaeth gyda'r rhai sy’n cael eu cyfweld wedi eu galluogi i deimlo'n ddigon cyfforddus i siarad yn agored am faterion personol iawn.