Gwnewch y mwyaf o’ch rhyddid creadigol ac ymdeimlad o berthyn wrth i chi ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu chwennych gan stiwdios gorau’r byd o ran ffilm, teledu a hysbysebion.
Gwnewch yr hyn sy’n tanio eich brwdfrydedd gan ddogfennu pobl go iawn a materion pwysig ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol ymarferol a diddorol hwn.
Trwy leoliadau gwaith, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo mewn meysydd fel plant, oedolion, neu iechyd meddwl, gan wella eich rhagolygon gwaith ymhellach.
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Siartredig y Gwyddorau Fforensig, mae'r BSc Gwyddor Fforensig yn eich dysgu sut i gymhwyso ystod o wyddoniaeth uwch i ymchwilio i droseddau. Mae'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu gan ddefnyddio offer o safon y diwydiant yn sbardun i amrywiaeth o yrfaoedd ar draws meysydd gwyddonol.
Archwiliwch ryfeddodau'r corff dynol, o systemau organ gwahanol i fiocemeg, geneteg a bioleg gellol.
Mae'r cwrs gradd hwn yn sylfaen berffaith ar gyfer cyrsiau mynediad i raddedigion mewn meddygaeth. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau clinigol ochr yn ochr â gwybodaeth am theori fiofeddygol a pholisïau iechyd.
Gan ganolbwyntio ar y wybodaeth sydd eu hangen o ran chwaraeon a busnes i ddatblygu gweithwyr proffesiynol ar gyfer y diwydiant chwaraeon, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu ac yn dechrau arbenigo'ch profiad dysgu yn y gwaith yn unol â'ch uchelgeisiau gyrfa.
O'r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael profiad ymarferol, gan weithio ar brosiectau go iawn mewn hyfforddi, addysg gorfforol ac arweinyddiaeth chwaraeon. Dysgwch gan arbenigwyr yn y diwydiant, adeiladwch eich sgiliau, a graddiwch yn hyderus, yn barod ar gyfer gyrfa, ac wedi'ch cysylltu â'r byd chwaraeon ehangach.
Meddyliwch yn feirniadol, arloeswch, ac adeiladwch eich hyder wrth roi strategaethau marchnata sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial ar waith gyda heriau go iawn yn y gwaith, wedi'u seilio ar astudiaethau craidd o farchnata cynaliadwy a dylunio marchnata drwy brofiadau.
Mae'r cwrs ar-lein hwn, sy’n cael ei redeg gyda’r partner cydweithredol Diploma MSc, yn seiliedig ar y cwricwlwm hyfforddiant arbenigol a ddatblygwyd gan Gyfadran Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Coleg Brenhinol y Meddygon. Yn sgil hynny, mae'n cyrraedd y safonau uchaf ar gyfer addysg Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff a bydd yn gwella cyflogadwyedd cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig, a gaiff ei haddysgu'n llwyr ar-lein, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer meddygon, deintyddion, therapyddion deintyddol, fferyllwyr a nyrsys, ac fe'i datblygwyd er mwyn hyrwyddo a gwella'r wybodaeth broffesiynol sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.
Bu twf dramatig ym mhoblogrwydd gweithdrefnau cosmetig ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys pigiadau tocsin botwlinwm, llenwyr dermol, triniaeth laser a mwy.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn mireinio sgiliau datrys problemau ar gyfer y sector hedfan, gan ddeall heriau'r diwydiant drwy fodiwlau amrywiol. Byddwch yn dysgu am offer a dulliau ymchwil i fynd i'r afael â materion hedfan yn y byd go iawn. Gyda disgwyl i nifer yr awyrennau masnachol ddyblu mewn 20 mlynedd, bydd ein cwrs MSc Peirianneg a Rheoli Awyrennau yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant.
Elfen bwysig o’r radd Meistr Peirianneg Cerddoriaeth yw cymhwyso’ch gwybodaeth yn ymarferol i gynhyrchu gwaith creadigol iawn. Archwilir meysydd perthynol hefyd, sy’n caniatáu i raddedigion gymhwyso eu sgiliau i lawer o feysydd eraill sy’n gysylltiedig â chyfryngau, gan gynnwys ffilm ac animeiddio.
Enillwch eich gradd anrhydedd a trwydded EASA Rhan-66 B1.1. Yr unig cwrs yn y DU sydd wedi'i achredu ddwywaith gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd a gyflwynir ar un campws.
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
Mae'r cwrs hwn yn darparu addysg fusnes gyfoes gyda modiwlau arbenigol ym meysydd cyfrifeg a chyllid, gan eich paratoi â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad fusnes sy'n esblygu'n barhaus a gwella eich galluoedd busnes a chyfrifyddu.
Mae'r cwrs hwn yn dysgu addysg fusnes gyfoes i chi drwy gynnig modiwlau arbenigol mewn marchnata, gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus yn ogystal â gwella eich sgiliau busnes a marchnata.
Mae'r cwrs hwn yn darparu addysg fusnes gyfoes gyda modiwlau arbenigol ym maes rheoli adnoddau dynol, gan eich paratoi â'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus a gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd ym maes rheoli adnoddau dynol.