Cyflwynir y cwrs hwn yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a’r cymwyseddau proffesiynol sy’n angenrheidiol er mwyn dod yn athro hynod effeithiol.
Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfrwng y Saesneg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ym maes Addysg Uwch.
Byddwch yn gwella eich arbenigedd addysgu gyda phrofiad ymarferol, sesiynau dan arweiniad arbenigwyr, a hyfforddiant TESOL sy'n berthnasol yn fyd-eang.
Hogwch eich sgiliau a datblygwch wybodaeth hanfodol ym maes adeiladu, lle byddwch chi'n dysgu popeth, o adeiladu ac adnewyddu i ddymchwel. Mae'r HNC rhan-amser hwn wedi'i gynllunio i gyd-fynd â gwaith ac mae'n cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i’r sector gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd y diwydiant.
Mae MA Animeiddio yn lle i fireinio’ch crefft a gwthio’ch ymarfer creadigol ymhellach, boed hynny mewn 2D, CG, Stop Motion neu gyfuniad ohonynt, gan eich helpu i ddatblygu ar sail eich sgiliau presennol ac i droi syniadau beiddgar yn straeon pwerus a chrefftus.
Adeiladwch eich sgiliau a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm, teledu, effeithiau gweledol a gemau gyda'r cwrs ymarferol a thechnegol hwn.
Yn PDC byddwch yn datblygu eich llais creadigol trwy brosiectau, cydweithrediadau, briffiau byw ac ymweliadau â stiwdios, gan feistroli sgiliau 2D neu Stop-symud i raddio’n barod ar gyfer y stiwdio.
Mae cwrs Meistr mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifyddu uchel ei barch Prifysgol De Cymru – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd ac mae’n darparu sgiliau arbenigol mewn ymchwilio i dwyll, prisio, helpu i ddatrys anghydfodau, adroddiadau arbenigol ac ymchwiliadau seiber.
Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.
Datblygwch y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau ymarferol i arwain yn effeithiol mewn lleoliadau addysgol ac ym maes dysgu proffesiynol.
Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth i sefyllfaoedd cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd, a sut i harneisio potensial adnoddau dynol mewn sefydliadau gofal iechyd.
Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.
Mae ein gradd Heddlua Proffesiynol wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn ac wedi darparu addysg i’r heddlu ers degawdau. Gan adeiladu ar hynny, fe gynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y sector heddlua.
Byddwch yn archwilio traddodiadau Bwdhaidd dan arweiniad arbenigwyr ac yng nghwmni cyd-fyfyrwyr o bedwar ban byd, ar-lein, yn rhan amser, mewn ffordd sy’n addas i chi.
Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (CYANA), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Plant Cymunedol (CYANPC), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.