Os ydych chi'n profi amgylchiadau esgusodol sy'n eich atal rhag parhau â'ch astudiaethau dros dro, gallwch wneud cais am Doriad ar eich Astudiaethau. Mae hyn yn golygu cymryd seibiant am gyfnod o amser y cytunwyd arno, fel arfer am hyd at un flwyddyn academaidd.

Camau Cyntaf & Cysylltiadau Allweddol

Siaradwch â'ch Arweinydd Cwrs yn gyntaf i drafod eich opsiynau a chadarnhau y bydd eich cwrs yn rhedeg yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Gallwch hefyd ymgynghori â'ch Swyddog Llwyddiant Myfyrwyr (SSO) am arweiniad. Gallant eich tywys i benderfynu os yw’r opsiwn cywir i chi yw i gael torriad yn eich astudiaethau. Er enghraifft, os yw'ch amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i berfformio mewn asesiadau, ond rydych chi'n teimlo eich bod yn gallu cwblhau gweddill y tymor/blwyddyn, efallai y bydd Amgylchiadau Esgusodol yn opsiwn mwy addas i chi. Mae canllawiau ar gyflwyno hawliad ar gael ar dudalen we Amgylchiadau Esgusodol.

Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio o dan lwybr Fisa Myfyrwyr (Haen 4 yn flaenorol) gysylltu â Gwasanaethau Cyngor Mewnfudo PDC cyn gwneud cais. Mae toriad yn golygu y bydd nawdd fisa prifysgol yn dod i ben, a bydd gofyn i chi adael y DU ac ailymgeisio am fisa cyn dychwelyd.

Dylai Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig gysylltu â'r Ysgol Graddedigion yn uniongyrchol am arweiniad ar dorri ar draws eu hastudiaethau.

 

Hyd a Dychwelyd i Astudio

Fel arfer, un flwyddyn academaidd yw'r cyfnod torriad uchaf. Yn dibynnu ar bryd rydych chi'n gwneud cais, mae eich amserlen ailddechrau yn gweithio fel y ganlynol:

  • Ceisiadau Yn y Flwyddyn (yn ystod y flwyddyn academaidd): Os caiff ei gymeradwyo, byddwch yn ailddechrau astudiaethau yn y flwyddyn academaidd ganlynol - naill ai ar ddechrau Tymor 1, neu yn Nhymor 2/3 (sy'n cyfateb i pan ddechreuodd eich seibiant). Rhaid i chi ailgofrestru ar ddechrau'r flwyddyn academaidd yna, pe bai eich bod yn dychwelyd yn nhymor 1, 2 neu 3.
  • Ceisiadau Diwedd Blwyddyn ('Y tu allan i'r flwyddyn'): Os byddwch yn gwneud cais ar ddiwedd y flwyddyn academaidd (cyn ailgofrestru), byddwch yn cael torriad yn eich astudiaethau ar draws y flwyddyn academaidd gyfan ganlynol ac yn dychwelyd y flwyddyn wedyn.

Nodwch: Pan fyddwch chi'n ailddechrau, byddwch yn ddarostyngedig i'r rheoliadau academaidd sydd mewn grym ar gyfer eich carfan dychwelyd newydd, nid y rheoliadau o pan ddechreuoch eich seibiant. Bydd methu â dychwelyd ar y dyddiad y cytunwyd arno heb estyniad cymeradwy yn arwain at dynnu'n ôl o'r brifysgol.

A fyddaf yn cadw fy marciau?

Os cymeradwyir eich cais, bydd un o ddau ganlyniad yn berthnasol i'ch cofnod academaidd ar gyfer y sesiwn gyfredol:

  • Rydych chi'n cadw'r holl farciau a gyflawnwyd hyd at y dyddiad torri y cytunwyd arno (gan gynnwys marciau asesu unigol);
  • Rydych chi'n colli'r holl farciau modiwl a gyflawnwyd yn y sesiwn gyfredol, hyd yn oed os gallai'r marciau fod wedi arwain at basio modiwlau.

Ni chaniateir opsiynau rhannol (cadw rhai marciau, wrth golli eraill).

Bydd eich Arweinydd Cwrs yn penderfynu a ddylech gadw marciau ai peidio. Ni fydd unrhyw raddau ar gyfer blynyddoedd a gwblhawyd yn flaenorol yn cael eu heffeithio.

Dyddiadau cau i wneud cais

Ceisiadau yn ystod y Flwyddyn:  Nid yw ceisiadau a dderbynnir o fewn chwe wythnos i ddechrau'r byrddau asesu fel arfer yn cael eu hystyried.

Cyrsiau safonol (Medi i Fehefin): Mae'r dyddiad cau ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod yn cael ei gyhoeddi yma ar ôl ei gadarnhau. Rhaid cyflwyno'r holl ffurflenni cais a thystiolaeth ategol erbyn y dyddiad cau hwn.

Ceisiadau ar Ddiwedd y Flwyddyn ('Y tu allan i'r flwyddyn'): Rhaid derbyn ceisiadau cyn y dyddiad disgwyliedig o ailgofrestru.

Goblygiadau Ariannol

Mae torri ar draws eich astudiaethau yn effeithio ar eich cyllid, ffioedd dysgu, a chymorth ariannol. Adolygwch y canllawiau ar y dudalen Ydy eich amgylchiadau'n newid? ac archebwch apwyntiad gyda'r Tîm Cyngor Ariannol Myfyrwyr i drafod eich sefyllfa.

Sut i Ymgeisio

Sicrhewch eich bod wedi trafod eich cais gyda'ch Arweinydd Cwrs cyn ei gyflwyno. Bydd angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig ganddynt y bydd y cwrs yn rhedeg y flwyddyn academaidd ganlynol ac a fyddwch yn cadw eich marciau.

Mae ceisiadau yn ystod y flwyddyn yn gofyn am dystiolaeth o ffynhonnell annibynnol o'r amgylchiadau sy'n effeithio ar eich astudiaethau. Mae mathau o dystiolaeth sy'n cael eu derbyn fel arfer wedi'u rhestru yn y tabl isod:

I gwblhau cais:

  1. Ewch yn uniongyrchol i'r Llwybr Torri Astudiaethau ar yr Ardal Cynghori
  2. Darllenwch y wybodaeth 'Trosolwg – Ynglŷn â'r Llwybr hwn'
  3. Dewiswch 'Dechrau/Start' i ddechrau'r cais
  4. Cwblhewch y ffurflen ar-lein a llwythwch eich tystiolaeth ategol i fyny
  5. Dewiswch 'Cyflwyno/Submit' i gwblhau'ch cais

Canlyniadau a'r Broses Adolygu

  • Hysbysiad: Mae ceisiadau yn cael eu hystyried o dan Reoliadau a Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol. Byddwch yn derbyn canllawiau camau nesaf a chanlyniadau drwy'r Llwybr ar Ardal Cynghori Ar-lein, fel arfer o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno cais cyflawn.
  • Mynediad i Gyfrif TG: Ar ôl ei gymeradwyo, bydd mynediad i'ch cyfrif TG (gan gynnwys E-bost, Blackboard, a Gwasanaethau Llyfrgell) yn cael ei gohirio dros dro nes i chi ailgofrestru.
  • Cais am Adolygiad (Apeliadau): Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad, gallwch gyflwyno Cais am Adolygiad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich canlyniad. Mae seiliau a ffurflenni ar gael yn Adran B12 o'r Rheoliadau a Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol.

Cyngor a chefnogaeth

Am fanylion rheoleiddiol llawn, adolygwch Adran B11 o'r Rheoliadau a Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol. Os oes gennych gwestiynau neu angen cefnogaeth, gallwch godi cwestiwn trwy Ardal Gynghori Ar-lein. Os yw'ch ymholiad yn gymhleth, bydd yn cael ei anfon ymlaen at eich SSO. Gallwch hefyd gysylltu â'r Ardal Gynghori ar gyfer ymholiadau dros y ffôn neu bersonol.