
Ar y brig yng Nghymru ar gyfer Animeiddio a Gemau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
Bydd y BA (Anrh) mewn Animeiddio (2D a Stop Motion) ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi profiad cyffredinol i chi o sut beth yw bod yn Animeiddiwr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. O fewn eich taith fel Animeiddiwr, bydd PDC yno i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd o gyfarwyddo/cynhyrchu ffilmiau i animeiddio cysyniad a dylunio. Mae animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru yn ymwneud â datblygu sgiliau craidd sylfaenol, creadigrwydd a rhagoriaeth broffesiynol yn y maes o’ch dewis, wedi’u hategu gan adrodd straeon cryf.
Rydym wedi creu amgylchedd dysgu sy'n adlewyrchu'r diwydiant animeiddio, gan ddefnyddio stiwdios gyda'r meddalwedd a'r caledwedd diweddaraf, ac ystafelloedd ffilmio stop-symud helaeth, ystafelloedd saernïo a gweithdai i wneud setiau pypedau a phropiau.
O fewn ein cwrs rydym yn annog cydweithio trawsddisgyblaethol gyda disgyblaethau creadigol eraill gan gynnwys CG, VFX, drama, ffilm, cerddoriaeth a sain.
Byddwch yn astudio ar gampws creadigol PDC yng nghanol Caerdydd lle mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant lleol fel Clothcat Animation, Picl Animation, Beryl Productions a stiwdios Bad Wolf.
Rydym yn annog myfyrwyr i fynd ar leoliadau gyda'n cysylltiadau diwydiant ledled y DU gan gynnwys Bryste, Manceinion a Llundain.
Mae pwyslais cryf ar waith tîm ac ymarfer proffesiynol ar y cwrs animeiddio hwn, a fydd yn rhoi dealltwriaeth realistig i chi o sut mae'r diwydiant yn gweithio a bydd yn gwella eich rhagolygon cyflogaeth. Mae gradd Animeiddio PDC yn rhan o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, sy’n rhoi’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar fyfyrwyr i weithio yn y diwydiant Teledu a Ffilm cyffrous heddiw.
Yn 2021, roedd y cwrs hwn yn y deg uchaf yn y byd am ragoriaeth cynhyrchu mewn Animeiddio 2D (The Rookies).
Cyntaf yng Nghymru am Animeiddio a Gemau - Canllaw Prifysgol y Guardian 2023
Gweld gwaith gan ein myfyrwyr ar ein Animeidadiad PDC (2D a Stop Motion) Sianel YouTube a Vimeo
Dilynwch ein USW Creative Instagram a USW Creative Twitter PDC.
Gallwch hefyd ddilyn Animeiddiad PDC ar Instagram.
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
23X6 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan amser | 6 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | ||
2025 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
23X6 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
Rhan amser | 6 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae Byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.