GRADDAU FFASIWN
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn. Mae gan ein graddedigion y sgiliau a'r wybodaeth i ragori yn y diwydiant ffasiwn, ac rydym yn eu paratoi i ddod yn wynebau dylunio yn y dyfodol.
Pam Ffasiwn yn PDC?
Cyrsiau Ffasiwn
Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.
Mae BA (Anrh) Marchnata Ffasiwn yn eich dysgu sut mae brandiau ffasiwn yn cysylltu â chynulleidfaoedd ac yn dylanwadu ar ddiwylliant. Trwy ddysgu creadigol ac ymarferol, byddwch yn archwilio brandio, marchnata digidol, a mewnwelediad defnyddwyr, gan roi'r llaw uchaf i chi mewn gyrfa marchnata ffasiwn.
Pam Prifysgol De Cymru?
Ymhlith y deg uchaf yn y DU
Mae Ffasiwn a Thecstilau yn 10fed yn y DU (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
-
Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine
-
Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.
Pam Prifysgol De Cymru?
Ar y brig yng Nghymru
Ffasiwn a Thecstilau yn PDC sydd ar y brig yng Nghymru o ran ansawdd addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine
Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.
Stori Joseph
Gŵyl Graddedigion Creadigol
Mae Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 yn arddangosfa ar-lein o waith blwyddyn olaf myfyrwyr ar gyrsiau creadigol Prifysgol De Cymru. Mae'n arddangos y syniadau, y sgiliau a'r prosiectau gafodd eu datblygu gan fyfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi at yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod
Prosbectws digidol
Creu prosbectws digidol personol eich hun ac archwiliwch Brifysgol De Cymru yn ffordd eich hun. Edrychwch ar gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd, gweld sut beth yw bywyd myfyrwyr, ac adeiladu rhywbeth o amgylch yr hyn sy'n bwysig i chi.