Marchnata Ffasiwn
Datblygwch y sgiliau creadigol, strategol a moesegol i lwyddo yn y diwydiant ffasiwn byd-eang. Trwy brosiectau byw, cydweithio â chyflogwyr, a heriau yn y byd go iawn, byddwch yn dysgu sut mae marchnata ffasiwn yn siapio diwylliant, yn gyrru arloesedd, ac yn adeiladu brandiau pwerus mewn byd digidol, chwim.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
WF45
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,800*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
WN45
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,800*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae BA (Anrh) Marchnata Ffasiwn yn eich dysgu sut mae brandiau ffasiwn yn cysylltu â chynulleidfaoedd ac yn dylanwadu ar ddiwylliant. Trwy ddysgu creadigol ac ymarferol, byddwch yn archwilio brandio, marchnata digidol, a mewnwelediad defnyddwyr, gan roi'r llaw uchaf i chi mewn gyrfa marchnata ffasiwn.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae BA (Anrh) Marchnata Ffasiwn ar gyfer meddylwyr creadigol, chwilfrydig sydd eisiau deall sut mae brandiau ffasiwn yn cysylltu, yn tyfu ac yn dylanwadu ar ddiwylliant. Nid oes angen cefndir ffasiwn arnoch, dim ond uchelgais a syniadau. Os ydych chi eisiau cyfuno creadigrwydd â busnes, strategaeth a throi mewnwelediad yn weithred, y cwrs hwn yw'r un i chi.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Marchnata Ffasiwn
- Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
- Arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus (PR)
- Prynwr Ffasiwn
- Masnachwr Ffasiwn
Sgiliau a addysgir
- Rheoli Brand Strategol
- Dadansoddi Defnyddwyr a Thueddiadau
- Cyfathrebu Digidol Creadigol
- Mewnwelediad Masnachol a Phrynu
- Sgiliau Proffesiynol ac Arweinyddiaeth
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sut mae'r diwydiant ffasiwn yn cydweithio â dylunio ffasiwn i weithio ar brosiectau diwydiant byw o'r diwrnod cyntaf. O frandio a mewnwelediad defnyddwyr i brynu a marchnata. Byddwch yn datblygu sgiliau creadigol, masnachol a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn adeiladu eich rhwydwaith ac yn ymgartrefu ar y cwrs yma yn PDC.
Lansio Cynnyrch: Ffasiwn sy'n Gwneud Gwahaniaeth
Mae'r modiwl cyflwyniadol hwn yn eich helpu i ymgartrefu yn y brifysgol wrth archwilio sut mae'r diwydiant ffasiwn yn gweithio. Byddwch yn dysgu sylfeini ymchwil, mewnwelediad defnyddwyr, brandio a marchnata trwy weithdai a briff byw.
Steilio'r Hunan: Ffasiwn, Tueddiadau ac Arwyddion Diwylliannol
Archwiliwch sut mae hunaniaeth, diwylliant a chymdeithas yn llunio ffasiwn. Byddwch yn astudio seicoleg defnyddwyr, tueddiadau ac iaith weledol, gan gyfuno marchnata a dylunio i ddatblygu atebion creadigol pwrpasol, dan arweiniad ymchwil.
Ailgymysgu Brand: Creu, Cydweithio, Arloesi
Cydweithiwch ar draws sawl cwrs i ymateb i friff byw. Gan feddwl o safbwynt dylunio a thrwy waith tîm, byddwch yn datblygu syniadau brandio, hyder creadigol a sgiliau proffesiynol ar gyfer y diwydiant.
Ychwanegu at y Fasged: Ffasiwn, Rhagolygon ac Elw
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno elfennau prynu a marchnata ffasiwn. Byddwch yn dysgu sut mae cynhyrchion yn cael eu cyrchu, eu prisio a'u gwerthu, wrth archwilio deallusrwydd artiffisial, dadansoddeg data a chadwyni cyflenwi sy'n llunio marchnad ffasiwn digidol heddiw.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich arbenigedd digidol, creadigol a masnachol. Byddwch yn dylunio ymgyrchoedd sy'n seiliedig ar ddata, yn ymateb i heriau rhyngddisgyblaethol, ac yn rhoi eich sgiliau ar waith trwy brosiectau e-fasnach. Gallwch fynd ati i archwilio gwaith datblygu cynnyrch cynaliadwy neu’r cyfryngau a chyfathrebu. Ar ddiwedd y flwyddyn hon mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd blwyddyn lleoliad yn y diwydiant, lle byddwch yn ennill profiad gwerthfawr.
Y Grid: Marchnata Digidol a'r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae'r modiwl hwn yn datblygu eich arbenigedd marchnata digidol. Byddwch yn dylunio ymgyrchoedd ffasiwn sy'n seiliedig ar ddata gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, yn rhoi damcaniaeth ar waith wrth ystyried cynaliadwyedd, moeseg, a phrofiadau defnyddwyr sy'n esblygu.
Rhyddhau Cynnyrch: Datblygu Cynnyrch ar gyfer ffasiwn (Dewis 1)
Archwiliwch ddatblygiad cynnyrch o'r cysyniad i'r farchnad, gan gysylltu dylunio â strategaeth fasnachol. Byddwch yn defnyddio dulliau cynaliadwy, tryloywder cadwyn gyswllt, ac offer prototeipio 3D i wneud penderfyniadau prynu gwybodus a chyfrifol.
Ydych chi wedi gweld fy Storïau? (Dewis 2)
Dewch o hyd i'ch cyfeiriad creadigol, adrodd straeon gweledol, cyfryngau ffasiwn, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Trwy weithdai a phrosiectau, byddwch yn creu cynnwys gweledol ac ysgrifenedig cymhellol, gan gynhyrchu darn terfynol i’r cyfryngau sy'n arddangos eich strategaeth greadigol a'ch sgiliau cyfathrebu.
Rhedfa tuag at Newid
Gweithiwch ar draws timau o amrywiaeth o gyrsiau i fynd i'r afael â briff strategol byw. Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy, yn cryfhau sgiliau datrys problemau, ac yn cydweithio ar draws meysydd pwnc i gyflwyno ateb sy'n seiliedig ar brosiectau.
Sweipiwch i Brynu
Defnyddiwch eich gwybodaeth farchnata mewn byd manwerthu ffasiwn digidol. Gan ddefnyddio dadansoddeg, offer deallusrwydd artiffisial, a mapio taith cwsmeriaid, byddwch yn dylunio cysyniad e-fasnach ar sail data trwy friff diwydiant byw, gan adeiladu portffolio proffesiynol sy'n cryfhau eich cyflogadwyedd.
Blwyddyn o Brofiad yn y Diwydiant
Bydd gennych y cyfle i gwblhau lleoliad diwydiant neu ryngwladol blwyddyn o hyd, gan ennill profiad proffesiynol gwerthfawr yn y DU neu dramor. Gyda chefnogaeth prifysgol drwy gydol y broses ymgeisio, byddwch yn adeiladu eich CV ac yn myfyrio ar eich twf fel gweithiwr proffesiynol y diwydiant yn y dyfodol.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich herio ar eich dealltwriaeth o dueddiadau, ymchwil, diwylliant a theori marchnata wrth i chi ymdrechu i ddod yn weithiwr proffesiynol ifanc. Byddwch yn creu portffolio o brosiectau arloesol sy’n adlewyrchu eich maes diddordeb eich hun a’ch gyrfa yn y dyfodol.
Trawsnewid Brand
Dadansoddwch strategaeth brand ffasiwn trwy archwiliad manwl ac ymchwil y farchnad. Byddwch yn datblygu cynnig sy'n edrych ymlaen, gan ddewis o farchnata, ymgyrchoedd, arloesedd cynnyrch, cydweithrediadau, neu atebion digidol, ac yn darparu eich strategaeth trwy adroddiad a chyflwyniad proffesiynol.
Amharwyr Steil
Ymchwiliwch i ddyfodol marchnata ffasiwn trwy ddadansoddi technolegau sy'n dod i'r amlwg, arloesedd cynnyrch, a newid diwylliannol. Byddwch yn dewis brandiau sy'n cyd-fynd â'ch nodau gyrfa ac yn datblygu strategaethau sy'n edrych ymlaen, sy'n herio confensiwn ac yn llunio esblygiad nesaf y diwydiant.
Darn Nodedig
Cydweithiwch â myfyrwyr eraill o PDC i ymateb i her ddiwydiannol fyw neu her sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Gan weithio gyda phartner allanol a Chyflymydd PDC, byddwch yn meddwl o safbwynt dylunio ac yn defnyddio dulliau ystwyth i brototeipio atebion creadigol beiddgar, parod ar gyfer y farchnad.
Steilio Eich Llwyddiant: Hanfodion Portffolio a Rhwydweithio
Cymerwch berchnogaeth o'ch dyfodol proffesiynol trwy adeiladu eich portffolio, brand personol, a deunyddiau cais am swydd. Drwy ymgysylltu â'r diwydiant, rhwydweithio a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, byddwch yn graddio gyda hyder, y gallu i addasu a sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer gyrfaoedd mewn marchnata ffasiwn neu astudiaeth bellach.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Yn Ffasiwn PDC, mae ein myfyrwyr yn dysgu trwy brosiectau ymdrochol, ar sail heriau, sy'n adlewyrchu ymarfer go iawn yn y diwydiant ffasiwn. Mae briffiau byw, cydweithrediadau cyflogwyr, a gwaith tîm rhyngddisgyblaethol yn eich helpu i feithrin hyder creadigol a sgiliau strategol. Mae'r addysgu dan arweiniad gweithdai, yn rhyngweithiol, ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan gyfuno astudiaeth dan arweiniad â dysgu digidol. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn symud o wybodaeth sylfaenol i ymarfer proffesiynol annibynnol, gan ddatblygu rhwydweithiau diwydiant, sgiliau cyfathrebu dwyieithog, a hyder sy'n barod am yrfa.
Sut y byddwch chi'n cael eich asesu
Mae'r asesiad yn seiliedig ar brosiectau byd go iawn, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, ac sy'n adlewyrchu ymarfer marchnata ffasiwn. Byddwch yn cyflwyno ymgyrchoedd, yn dadansoddi data defnyddwyr, yn datblygu strategaethau brand, ac yn ymateb i friffiau byw, yn annibynnol ac mewn timau. Wrth i chi symud ymlaen, mae disgwyliadau'n cynyddu, gyda mwy o annibyniaeth a chanlyniadau lefel broffesiynol. Mae adborth a myfyrio rheolaidd yn eich helpu i ddeall beth sydd ei angen a gwella eich gwaith. Mae cynaliadwyedd a meddwl moesegol wedi'u cynnwys ym mhob cam. Byddwch hefyd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol fel offeryn creadigol ac ymchwil, gan sicrhau bod eich gwaith yn dangos meddwl clir a gwreiddioldeb, ac yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, menter, neu astudiaeth bellach.
Lleoliadau
Adeiladwch brofiad ffasiwn byd go iawn wrth i chi astudio. Drwy brosiectau diwydiant byw, interniaethau a lleoliadau rydych yn eu trefnu eich hun, byddwch yn camu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac i ymarfer proffesiynol. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid brand sefydledig i gynnig cyfleoedd ystyrlon, tra bod ein tîm Gyrfaoedd ymroddedig yn mynd ati i’ch cefnogi i sicrhau profiad diwydiant ehangach sy'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau. P'un a yw eich diddordebau mewn rolau prynu, marchnata, masnachu, manwerthu neu greadigol, byddwch yn cael mewnwelediad ymarferol mewn amgylcheddau masnachol chwim. Gydag arweiniad gyrfa pwrpasol, briffiau cydweithredol a mentora proffesiynol, byddwch yn tyfu eich rhwydwaith, yn hogi eich CV ac yn graddio'n barod ar gyfer y diwydiant, yn hyderus ac yn gysylltiedig.
Cyfleusterau
Astudiwch yng nghanol dinas Caerdydd, wedi'ch trochi yn egni creadigol y brifddinas. Mae ein stiwdios arbenigol yn adlewyrchu amgylcheddau diwydiant go iawn, gan roi mynediad i chi i Stiwdios Dylunio Ffasiwn, Stiwdios Ffotograffiaeth Ffasiwn a gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau proffesiynol sy’n llawn camerâu a goleuadau safonol y diwydiant. Gweithiwch gyda Meddalwedd Dylunio CLO 3D ac Adobe wrth dynnu ysbrydoliaeth o gylchgronau ffasiwn misol, llyfrgell arbenigol enfawr, adroddiadau defnyddwyr a chyfnodolion academaidd. Mae'r cyfleusterau a'r adnoddau proffesiynol hyn yn cefnogi gwaith creu cynnwys, datblygu ymgyrchoedd a rhagweld tueddiadau, gan sicrhau eich bod yn graddio gyda sgiliau digidol parod ar gyfer y dyfodol, a phrofiad ymarferol sy'n cyd-fynd â disgwyliadau'r diwydiant.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C/B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC Lefel A
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r dewis ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar gais addas. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad efallai y bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad i’n helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£9,790
fesul blwyddyn*£16,800
fesul blwyddyn*£16,800
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Gliniadur
Cyfrifiadur neu Apple sy’n ddigon pwerus ar gyfer meddalwedd dylunio a marchnata creadigol.
£500-£1000
Gwerslyfrau a chyfeirlyfrau
Yn nodweddiadol - Marchnata, Prynu, Brandio, Hyrwyddo
£20 yr un
Costau argraffu a rhwymo
Prosiectau, Adroddiadau, Digwyddiad Graddio
£100
Prosiect a deunyddiau astudio
Dillad ac Ategolion ar gyfer Steilio, Llyfrau Braslunio, Marcwyr, Gyriant Caled Allanol, Deunydd Ysgrifennu
£100
Tripiau Astudio
Arddangosfeydd, Ymweliadau â Diwydiant, Amgueddfeydd
£100
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2027 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2027 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2026 Gyda Blwyddyn Ryngosod
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.