Cwricwlwm 2030 PDC

Cynllun ar gyfer Cynwysoldeb

Bydd holl gwricwla 2030 PDC yn cael eu cynllunio ar gyfer cynwysoldeb a datblygu llythrennedd a chymhwysedd dysgwyr, gan weithredu o fewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hygyrchedd priodol a’u targedu at gulhau ac yn y pen draw ddileu canlyniadau gwahaniaethol a bylchau yn y dyfarniadau.

An icon that shows three people being held in open hands.

Trwy ei ddyluniad, bydd y cwricwlwm yn gwerthfawrogi, yn parchu ac yn rhoi cyfle cyfartal i bob myfyriwr gymryd rhan a llwyddo, waeth beth fo'u cyrhaeddiad blaenorol, cefndir neu ofynion dysgu unigol. Bydd y cwricwlwm yn sicrhau cynrychiolaeth deg a chadarnhaol i lais y myfyrwyr. Bydd y cwricwlwm yn creu cyfleoedd i bob myfyriwr wella eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol, llythrennedd ac ymarfer o fewn, ee, Deddf Cydraddoldeb (2010), a chymhwysedd rhyngddiwylliannol i weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Wrth wreiddio’r egwyddor hon, mae timau cwrs PDC yn myfyrio ar gwestiynau fel:

  • Sut mae cynhwysiant i bawb wedi cael ei ystyried a dylanwadu ar gynllun y cwricwlwm o ran dysgu, asesu a dewis?
  • Pa gyfleoedd sydd gan ddysgwyr i ddatblygu llythrennedd a chymhwysedd gan weithredu o fewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hygyrchedd priodol?
  • Sut mae’r cwricwlwm yn sicrhau cynrychiolaeth deg a chadarnhaol i lais y myfyrwyr?

Mae’r cyfleoedd myfyrio ac adolygu hyn yn galluogi timau cwrs i weithio tuag at adeiladu cwrs (pan fydd yr egwyddor hon wedi’i gwreiddio’n llawn):

Sydd yn wirioneddol hygyrch i bob dysgwr, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac nid yw'n rhoi unrhyw fyfyriwr dan anfantais, gan gynnwys pawb sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sydd wedi'i ddatblygu i alluogi dysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu waeth beth fo'u cefndir neu gyrhaeddiad addysgol blaenorol.
Lle mae dewis asesu yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddangos a phersonoli'r hyn y maent wedi'i ddysgu, a chaiff cyfleoedd asesu ffurfiannol eu cynnwys yn y cwricwlwm ar bob lefel.
Sy’n darparu gweithgareddau sy’n herio safbwyntiau un byd, yn datblygu cymhwysedd rhyngddiwylliannol, yn hyrwyddo parch at eraill, ac yn datblygu llythrennedd a chymhwysedd dysgwyr gan weithredu o fewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hygyrchedd priodol.

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy (6m 10s) DS: Recordiwyd y fideos isod yn 2021. Ers hynny, mae'r cyfranogwyr wedi symud i rolau gwahanol ym Mhrifysgol De Cymru ers hynny.

A wheel with different headings relating to the curriculum design principles. Inclusivity is highlighted in dark blue.

Arweinlyfr Byr, gyda Rhestr Wirio

I'ch helpu i weithredu Egwyddor Dylunio'r Cwricwlwm 'Cynllun Cynwysoldeb' PDC, rydym wedi cynhyrchu canllaw byr sy'n rhoi ei rôl i chi o ran cynllunio ac asesu'r cwricwlwm; cyd-destun PDC sy'n berthnasol iddo; gwybodaeth am lenyddiaeth sy'n cefnogi'r egwyddor hon; cysylltiadau i ddarllen pellach; a rhestr wirio i'ch helpu i nodi pa mor dda y mae'r egwyddor wedi'i hymgorffori yn eich modiwlau.

Lawrlwythwch ein canllaw 'Cynllun Cynwysoldeb'