Cwricwlwm 2030 PDC

Wedi'i gyd-gynllunio gyda'r holl Randdeiliaid

O’r cychwyn cyntaf, mae’r egwyddor hon yn ei gwneud yn ofynnol i gwricwla 2030 PDC gael ei gyd-gynllunio â’r holl randdeiliaid, o ran dylunio a darparu.

An icon that shows four puzzle pieces fitting together in the shape of a sqaure.

Trwy roi’r egwyddor hon ar waith, mae arbenigwyr academaidd yn hwyluso cyd-ddylunio’r cwricwlwm gyda’r holl randdeiliaid gan gynnwys:

  • myfyrwyr;
  • cymunedau;
  • ymchwilwyr PDC;
  • gwasanaethau proffesiynol PDC;
  • cyflogwyr;
  • cyn-fyfyrwyr;
  • Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRBs); a
  • arbenigwyr mewnol ac allanol.

Mae hyn yn sefydlu cwricwlwm a strwythur asesu dilys sy'n gyfoes, yn addas ar gyfer y dyfodol, yn berthnasol i fyfyrwyr presennol a'r dyfodol, y gymuned, a chyflogwyr ac yn cael eu parchu ganddynt.

Bydd y cwricwlwm yn darparu cyfleoedd wedi’u sgaffaldio ar gyfer dysgu rhyngddisgyblaethol ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cymryd risg, trwy herio ffyrdd cryf o feddwl a gweithio i gael effaith gadarnhaol mewn cyflogaeth a chymunedau.

Wrth wreiddio’r egwyddor hon, mae timau cwrs PDC yn myfyrio ar gwestiynau fel:

  • Sut mae’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i gyfrannu’n weithredol i’r cwricwlwm?
  • Pa fecanweithiau sydd ar waith i dynnu ar arbenigedd ystod eang o randdeiliaid priodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gyfoes ac yn addas ar gyfer y dyfodol?

Lle mae’r egwyddor hon wedi’i gwreiddio’n llawn, bydd y myfyrdodau hyn yn dystiolaeth o gwricwlwm:

  • Sydd wedi'i gyd-gynllunio ag amrywiaeth o randdeiliaid (presennol a newydd) gan gynnwys arbenigwyr yn y maes, partneriaid diwydiant/cyflogaeth, myfyrwyr, cymunedau priodol a chyn-fyfyrwyr.
  • Lle mae cyfranogiad rhanddeiliaid yn sicrhau bod y profiadau addysgol yn gyfoes, yn addas ar gyfer y dyfodol, yn ddilys, yn cyfrannu at y ddisgyblaeth ac yn datblygu dealltwriaeth ryngddisgyblaethol.
  • Lle mae academyddion yn hyderus bod myfyrwyr yn teimlo'n rhan o'r gymuned academaidd ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy (6m 8s) DS: Recordiwyd y fideos isod yn 2021. Ers hynny, mae'r cyfranogwyr wedi symud i rolau gwahanol ym Mhrifysgol De Cymru ers hynny.

A wheel with different headings relating to the curriculum design principles. Co-design is highlighted in yellow.