Dysgwch y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn Unedau Fforenseg Ddigidol a thimau Ymateb i Ddigwyddiadau ar y cwrs arloesol hwn, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol wrth i chi ddatblygu’r sgiliau ymarferol a phroffesiynol mae cyflogwyr ym meysydd fforenseg ddigidol, gorfodi'r gyfraith a'r sectorau corfforaethol a seiberddiogelwch ehangach yn chwilio amdanyn nhw.
Dilynwch eich diddordebau i ddod yn ffotograffydd amryddawn sy’n gallu ffynnu mewn unrhyw amgylchedd gwaith.
Gwnewch yr hyn sy’n tanio eich brwdfrydedd gan ddogfennu pobl go iawn a materion pwysig ar y cwrs ffotograffiaeth ddogfennol ymarferol a diddorol hwn.
Gyda chystadleuaeth gynyddol am gyflogaeth yn y maes gofal iechyd, ac arbenigedd cynyddol, pwrpas y cwrs gastroenteroleg yw hyrwyddo a gwella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol sy'n uniongyrchol berthnasol i ofynion rolau gweithio.
Nod y cwrs damcaniaethol ar-lein hwn yw hwyluso gwell dealltwriaeth o anhwylderau gastroenteroleg cyffredin a geir yn y gymuned gan amlaf a galluogi myfyrwyr i uwchsgilio mewn diagnosteg a rheoli anhwylderau gastroenterolegol.
Fel rhan o’r daith i ddod yn feistr ar greu gêmau fideo, byddwch yn datblygu sawl prosiect gêmau sydd â dogfennaeth gadarn, strategaeth fusnes manwl ac, wrth gwrs, gêm i ymfalchïo ynddi.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymarferwyr blaengar sy'n meddu ar y gallu i ddefnyddio arfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datrys problemau mewn modd mwy ymreolaethol.
Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr i dyfu a datblygu fel ymarferwyr ymholgar ac ymreolaethol. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth a’ch gallu i ddangos cymhwysiad a chymhwysedd clinigol a fydd yn cael ei ddangos trwy gymwyseddau Camau Gofal Critigol 2 a chymwyseddau Camau Gofal Critigol 3.
Bydd cwblhau ein cwrs gofal iechyd ar-lein sy'n gynhwysol o ran niwroamrywiaeth yn llwyddiannus yn ychwanegu gwerth at eich CV a bydd yn eich galluogi i ymateb i heriau darparu gofal o ansawdd uchel i'ch cleifion o fewn amgylchedd gofal sylfaenol ac eilaidd cymhleth.
Mae gofal lliniarol yn rhan hanfodol o ofal cyfannol, ac mae'n ddull aml-broffesiynol yn ei hanfod. Mae'r cwrs dysgu o bell hwn yn cyfuno adnoddau rhagorol a chefnogaeth gan arweinydd y cwrs, sy'n eich galluogi i gyfuno astudio ac ymrwymiadau proffesiynol.
Gyda ffocws unigryw ar reoli gorbwysedd mewn poblogaethau arbennig, mae'r cwrs hwn yn sefyll allan trwy gynnig cymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn sydd o fudd i'ch cleifion a'ch ymarfer ar unwaith.
Trwy leoliadau gwaith, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo mewn meysydd fel plant, oedolion, neu iechyd meddwl, gan wella eich rhagolygon gwaith ymhellach.
Byddwch yn adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau. Mae’r cwrs hyblyg ac ymarferol hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain mewn sefydliadau cyhoeddus, o ymateb brys i ddylunio polisi a phopeth yn y canol.
Paratowch ar gyfer gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus wrth feithrin y sgiliau academaidd sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol.
Cwrs achrededig proffesiynol sy'n eich galluogi i gymhwyso fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol mewn un flwyddyn academaidd yn unig, gan roi'r sgiliau a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn y maes.
Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.
Dyluniwyd yr MSc Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy’n Troseddu ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac mae’n cynnig pwyslais arbenigol ar theori ac ymarfer rheoli troseddwyr.
Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae symudiad, ymarfer corff a pherfformiad yn llunio iechyd a bywyd bob dydd, mae'r radd hon ar eich cyfer chi. Byddwch yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol â phrofiad ymarferol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn lleoliadau chwaraeon ac iechyd.
Mae'r cwrs hwn yn defnyddio ein labordai a gymeradwywyd gan Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) ar Gampws Glyn-taf a'n hystafelloedd dadansoddi cryfder a chyflyru a pherfformiad o'r radd flaenaf yn ein Parc Chwaraeon.