Peirianneg Fecanyddol
Cymerwch y camau cyntaf ar eich llwybr i ddod yn beiriannydd gydag astudiaethau hygyrch, rhan-amser wedi’u cynllunio ar eich cyfer chi.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£804*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae peirianneg yn faes enfawr gyda chyfleoedd gwaith anhygoel, a gallwn eich helpu i gymryd y cam cyntaf yn eich addysg beirianneg. Wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser gyda’ch cyflogwr, byddwch yn dysgu hanfodion peirianneg fecanyddol a’r sgiliau astudio y mae eu hangen arnoch i fynd â’ch dysgu ymhellach.
Wedi’i gynllunio ar gyfer:
Os ydych chi’n ymddiddori yn y ffordd y mae pethau’n gweithio ac eisiau symud ymlaen yn eich dysgu, HNC mewn Peirianneg Fecanyddol yw’r dystysgrif i chi.Gallwch astudio yn rhan-amser am ddwy flynedd ochr yn ochr â’ch swydd. Mae’r HNC yn cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd, sy’n eich galluogi i symud ymlaen i Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc).
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd cynnal a chadw
- Peiriannydd cynhyrchu
- Y maes gweithgynhyrchu
Y sgiliau a addysgir
- Cyfathrebu
- Datrys problemau
- Gwaith tîm
- Mathemateg beirianyddol
- Dylunio a gweithgynhyrchu
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Yn ystod eich amser ar y cwrs hwn, byddwch yn mynychu’r brifysgol un diwrnod yr wythnos ac yn astudio tri modiwl bob blwyddyn am ddwy flynedd.
- Mathemateg beirianyddol
- Dylunio a gweithgynhyrchu
- Technegau peirianneg proffesiynol
- Gwyddor fecanyddol 1
- Systemau mesur
- Thermohylifau 1
Bydd myfyrwyr yn astudio tri modiwl ym mlwyddyn 1, gyda phob un yn werth 20 credyd. Mae’r modiwl cyntaf yn cyflwyno mathemateg beirianyddol, a byddwch hefyd yn astudio dylunio, gweithgynhyrchu a thechnegau peirianneg proffesiynol.
Mathemateg beirianyddol
Byddwch yn dysgu’r sgiliau mathemategol y mae eu hangen i ddatrys problemau peirianneg a deall perthnasedd mathemateg mewn peirianneg.
Dylunio a gweithgynhyrchu
Byddwch yn dod yn wybodus am ddylunio peirianneg, gweithgynhyrchu a deunyddiau i ennill sgiliau sylfaenol mewn ymarfer gweithgynhyrchu.
Technegau peirianneg proffesiynol
Mae’r modiwl hwn yn ymdrin â’r sgiliau allweddol a fydd yn rhoi sylfaen ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol.
Ym mlwyddyn 2, byddwch yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gennych yn eich blwyddyn gyntaf ac yn astudio tri modiwl arall. Byddwch yn dysgu am wyddoniaeth fecanyddol, systemau mesur a thermohylifau. Erbyn diwedd blwyddyn 2, byddwch wedi cwblhau popeth y mae ei angen arnoch i gychwyn ar eich gyrfa beirianneg.
Gwyddor fecanyddol 1
Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg ym meysydd statig a deinamig, ac yn ymchwilio i nifer o’r prif egwyddorion gwyddonol.
Systemau mesur
Byddwch yn dysgu nodi a dewis synwyryddion ar gyfer mesur peirianyddol ac yn dylunio cylchedwaith prosesu signalau sylfaenol.
Thermohylifau 1
Byddwch yn dysgu am hanfodion priodweddau thermodynamig a mecanig hylifol hylifau a nwyon, a fydd yn sail ar gyfer astudiaeth uwch.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Rydym am wneud yn siŵr bod ein harddull addysgu yn addas i chi, felly rydym wedi cyfuno darlithoedd, seminarau a thiwtorialau gyda gwaith ymarferol gan ddefnyddio ein cyfleusterau gweithdy a labordy arbenigol. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddysgu’r theori ac yna ei chymhwyso i ymgorffori’r hyn a ddysgwyd gennych.
Fel myfyriwr rhan-amser, byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymhwyso’r hyn a ddysgwch yn y brifysgol i fusnes eich cyflogwr.
Staff addysgu
Daw ein tîm addysgu o bob rhan o ddiwydiant a’r byd academaidd, a byddwch yn elwa ar eu cyfoeth o brofiad. Gyda chefndiroedd mor amrywiol, gallwch fod yn siŵr bod rhywun ar y tîm a all eich helpu i gyflawni eich amcanion dysgu ac o ran gyrfa. Mae ein drysau yn agored bob amser, ac rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn helpu ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u profiad prifysgol.
Cyfleusterau
Rydym yn falch iawn o’n cyfleusterau ymarferol helaeth. Maent yn cynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron â chyfarpar da sy’n defnyddio meddalwedd o’r radd flaenaf sy’n safonol yn y diwydiant (SolidWorks, Matlab, Ansys, FEA a CFD, LS-Dyna, SolidCAM, Simul8 ac ati). Byddwch hefyd yn cael defnyddio ystafelloedd prosiect pwrpasol gyda thorrwr laser ac ystod lawn o gyfleusterau prototeipio cyflym.
Mae gennym gyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansawdd, gan gynnwys awtoclafau ac offer gweithgynhyrchu ychwanegion, sganwyr laser, twnnel gwynt, cyfleusterau profi deunyddiau helaeth, yn ogystal â labordai ag offer i ategu addysgu ym mhob pwnc craidd.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Mae gennym bartneriaethau helaeth ar draws y diwydiant peirianneg ac rydym yn defnyddio’r rhain i wella’ch dysgu. Mae ymweliadau safle yn cynnwys cyfle i ymweld â ffatri Mini yn Rhydychen. Os ydych yn astudio’n rhan-amser, byddwn yn gweithio gyda’ch cyflogwr i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch cwrs a’ch gwaith. Mae’r HNC yn gyflwyniad ardderchog i beirianneg fecanyddol, a gallwch fynd ymlaen i astudio am HND neu BSc mewn Peirianneg Fecanyddol.
Hyb Arloesi yn PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD ar Lefel A
- Bagloriaeth Cymru: Grade D and D at A Level
- BTEC: BTEC Extended Diploma Pass Pass Pass or BTEC Diploma Pass Pass
- Mynediad i AU: Pass Access with a minimum of 48 UCAS points
Gofynion Ychwanegol:
Tri TGAU ar radd C / Gradd 4 neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg ac iaith Saesneg. Ystyrir ceisiadau ar sail unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£804
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.