CVs, CEISIADAU ac ASESU
Dyma'ch cyfle i ddangos a phrofi eich cyflogadwyedd, gan gyflwyno’r fersiwn orau ohonoch chi’ch hun trwy ddangos yn wych eich cynnig unigryw.
Gyrfaoedd
Eich CV
Dangoswch eich perthnasedd i'r rôl trwy gynnwys wedi'i dargedu.
- Adolygwch enghreifftiau o CVs ar gyfer sectorau penodol ac enghreifftiau o sut i gyflwyno eich cynnwys.
- Bydd rhai sectorau'n disgwyl diwyg ac arddull benodol. Yn chwilio am rôl yn y diwydiannau creadigol? Defnyddiwch eich creadigrwydd i lunio’ch CV.
- Cyrchwch CV Builder trwy FyNgyrfa.
- Adolygwch eich CV trwy efelychydd Meddalwedd Olrhain Ymgeiswyr (ATS). Cyrchwch CV360 trwy FyNgyrfa.
- Cewch gipolwg pellach ar CVs trwy E-ddysgu FyNgyrfa.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR LUNIO CV
Eich Llythyr Eglurhaol
Cyflwynwch eich CV, eich rhesymau dros wneud cais a'ch dealltwriaeth o'r rôl a'r sefydliad.
- Archwiliwch gynnwys pellach ar sut i ysgrifennu Llythyr Eglurhaol effeithiol.
- Archwiliwch ffyrdd o ysgrifennu Llythyr Eglurhaol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol.
- Adolygwch enghreifftiau o ffyrdd o gyflwyno cynnwys mewn Llythyr Eglurhaol.
- Cyrchwch sut i gyfansoddi Llythyrau Eglurhaol trwy FyNgyrfa.
- Cewch gipolwg pellach ar LYTHYRAU EGLURHAOL trwy E-ddysgu FyNgyrfa.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR LYTHYRAU EGLURHAOL
Gwneud Ceisiadau
Byddwch yn ymatebol i Fanyleb y Person a chyfrifoldebau'r swydd a dangoswch dystiolaeth glir o'ch sgiliau a'ch profiad.
- Archwiliwch gynnwys pellach ar sut i wneud cais effeithiol.
- Adolygwch enghreifftiau o gwestiynau cais nodweddiadol ac atebion enghreifftiol.
- Ceisiwch gyngor ar sut i ysgrifennu Datganiad Personol effeithiol mewn Ffurflen Gais.
- Dysgwch fwy am y dechneg STAR - ffordd effeithiol o strwythuro a dangos tystiolaeth o atebion eich cais.
- Cewch gipolwg pellach ar WNEUD CEISIADAU trwy E-ddysgu MYCAREER.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR WNEUD CEISIADAU
Defnyddio LinkedIn
Sefydlwch broffil i gynyddu eich cyrhaeddiad cyflogadwyedd. Rhwydweithiwch, Ymgysylltwch a dewch o hyd i gyfleoedd a gwneud cais amdanynt.
- Archwiliwch gynnwys pellach ar sut i greu proffil LinkedIn effeithiol.
- Darganfyddwch sut i ddefnyddio LinkedIn i rwydweithio ac i sicrhau swydd.
- Cyrchwch yr Offeryn Rhwydweithio LinkedIn trwy MyCareer.
- Cewch gipolwg pellach ar LINKEDIN trwy E-ddysgu MYCAREER.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR LINKEDIN
Perfformio mewn Cyfweliad
Byddwch yn barod, byddwch yn ymwybodol o bwy ydych chi a sut i ddangos tystiolaeth o'ch cynnig. Mae angen i chi ddangos dealltwriaeth o’r rôl, y sefydliad a sut mae eich sgiliau, eich profiad a'ch brand personol yn cyd-fynd.
- Archwiliwch gynnwys pellach ar sut i baratoi a pherfformio'n effeithiol mewn cyfweliad.
- Defnyddiwch ein hefelychydd ar-lein i ymarfer techneg eich cyfweliad. Cyrchwch Interview 360 trwy MyCareer.
- Hoeliwch y cyflwyniad perffaith trwy lunio cyflwyniad diddorol, wedi’i dargedu - rîl uchafbwyntiau 60 eiliad o pam eich bod chi'n berffaith ar gyfer y swydd. Defnyddiwch ein Elevator Pitch Builder trwy MyCareer.
- Dysgwch fwy am y dechneg STAR - ffordd o strwythuro a dangos tystiolaeth o'ch atebion cyfweliad yn effeithiol.
- Cewch gipolwg pellach ar BERFFORMIO MEWN CYFWELIAD trwy E-ddysgu MYCAREER.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR GYFWELIADAU.
Canolfannau Asesu
Dangoswch eich set sgiliau yn ymarferol, chwaraewch ran yn y broses a dangoswch sut rydych chi'n gweithio o fewn tîm, yn cyflwyno eich syniadau, yn gwrando ar eraill ac yn gwneud gwahaniaeth i'r dasg dan sylw.
- Archwiliwch gynnwys pellach ar Ganolfannau Asesu a sut i baratoi.
- Cewch drosolwg o Ganolfannau Asesu, gweithgareddau nodweddiadol ac awgrymiadau ar sut i fod yn llwyddiannus trwy'r Offeryn Canolfan Asesu ar MyCareer.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR GANOLFANNAU ASESU.
Profion Seicometrig
Profion wedi'u cynllunio i ddatgelu eich sgiliau, eich personoliaeth, sut rydych chi'n meddwl a sut rydych chi'n gweithio. Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â'r rhain, fel rhan o'r broses ymgeisio gynnar.
Archwiliwch gynnwys pellach ar sut i baratoi ar gyfer Profion Seicometrig a bod yn llwyddiannus ynddynt.
Gallwch ymarfer amrywiaeth o Brofion Addasrwydd - gan gynnwys Profion Rhifiadol, Llafar, Diagramaidd, Barn Sefyllfaol a Rhesymeg - trwy MyCareer.
Mae SHL yn ddarparwr poblogaidd o Asesiadau Seicometrig. Archwiliwch eu profion ymarfer.
GYRFAOEDD PDC CYNGOR AR BROFION SEICOMETRIG
Ein datganiad AI
Mae AI Cynhyrchiol yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac fel offeryn ar gyfer cynllunio gyrfa a gwneud cais mae'n darparu llawer o fanteision i'r defnyddiwr. Fodd bynnag, mae'n offeryn y dylid ei ddefnyddio gyda rhywfaint o ofal ac ystyriaeth.
Beth yw AI Cynhyrchiol?
“Generative AI, also referred to as GenAI, allows users to input a variety of prompts to generate new content, such as text, images, videos, sounds, code, 3D designs, and other media. It “learns” and is trained on documents and artifacts that already exist online”. https://www.coursera.org/articles/what-is-generative-ai
Mewn cyd-destun Gyrfaoedd, mae'n gwasanaethu fel adnodd gwerthfawr ar gyfer syniadau a symleiddio'ch proses ymgeisio trwy gynnig geiriad awgrymedig.
Gallwch ddefnyddio GenAI i:
- Ymchwilio i swyddi a chyflogwyr.
- Creu CVs, llythyrau eglurhaol, a ffurflenni cais.
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau.
- Creu cyflwyniadau.
- Paratoi ar gyfer Canolfannau Asesu a phrofion Seicometrig.
Dyma bum egwyddor arweiniol i wneud y defnydd gorau o GenAI:
- Adolygu, addasu a phersonoleiddio:
- Osgowch gopïo cynnwys yn uniongyrchol o offer AI; defnyddiwch nhw fel sylfaen neu ysbrydoliaeth.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwella cynnwys a gynhyrchir trwy ymgorffori manylion a chyffyrddiadau sy'n unigol ac yn bersonol i chi. Gwnewch yn siŵr bod eich cynnwys yn eich cynrychioli'n glir.
- Byddwch yn ymwybodol y gall rhai cyflogwyr ganfod defnyddio cynnwys a gopïwyd o offer AI, gan eich gwahardd o'r broses ymgeisio neu arwain at gyflwyniadau dyblyg.
- Gwiriwch bob amser gyda chyflogwyr beth yw eu canllawiau wrth ddefnyddio GenAI yn y broses recriwtio. Mae rhai cyflogwyr, er enghraifft, yn datgan yn agored na ddylai ymgeiswyr 'ddefnyddio GenAI mewn profion seicometrig'.
- Croesgyfeirio a gwirio ffeithiau:
- Gwiriwch gywirdeb y wybodaeth a gynhyrchir gan AI, gan y gallai gynnwys gwallau neu ddata ffug.
- Gwerthuswch gynnwys yn feirniadol a'i groesgyfeirio â ffynonellau dibynadwy.
- Ceisio arweiniad gan Wasanaeth Gyrfaoedd PDC:
- Defnyddiwch AI Cynhyrchiol ar gyfer cymorth ysgrifennu ond gwnewch yn siŵr bod eich CV / llythyr eglurhaol / deunyddiau cais wedi'u strwythuro a'u fformatio'n briodol.
- Cyfeiriwch at ein hadnoddau ar-lein am gyngor ar strwythuro CVs, llythyrau eglurhaol a ffurflenni cais yn effeithiol.
- Defnyddio awgrymiadau effeithiol:
- Optimeiddiwch y defnydd o AI trwy ddarparu awgrymiadau clir a phenodol.
- Eglurwch bwrpas eich cais a darparwch wybodaeth gefndir berthnasol.
- Defnyddiwch gwestiynau dilynol neu ailganolbwyntiwch ar feysydd penodol o'ch cwestiwn.
- Byddwch yn ofalus wrth rannu data:
- Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol na sensitif mewn offeryn AI gan na wyddoch ble mae eich gwybodaeth yn cael ei storio.
Gwybodaeth bellach
Mae Llyfrgell PDC wedi darparu canllawiau AI yma.
Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?
Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.