Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr o bob rhan o'r byd yn gwneud Caerdydd yn gartref iddynt. Mae’n lle gwych i astudio. Os ydych chi'n hoffi byw bywyd i’r eithaf neu ar eich cyflymder eich hun, gall Caerdydd gynnig y cyfan i chi.
Yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg, mae un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol ac ni allai fod mewn lleoliad gwell i groesawu bywyd dinas Casnewydd.
O Bontypridd, gallwch fwynhau popeth sydd gan Dde Cymru i'w gynnig - bywyd a diwylliant y ddinas, traethau godidog, a chefn gwlad syfrdanol. Mae'n dref sy'n llawn hanes a threftadaeth a digon i'w ddarganfod.