Rhieni a Gofalwyr

Canllaw rhieni a gofalwyr i glirio prifysgol

Does dim amheuaeth bod Diwrnod Canlyniadau yn gallu bod yn amser llawn straen i bawb – ond, rydym yma i'ch helpu i ddeall sut mae'n gweithio a beth y gallwch chi ei ddisgwyl.

Sut i wneud cais Edrychwch ar ein cyrsiau
two members of university staff working on the phone lines during clearing

P’un a yw'ch plentyn yn gwneud cais am gwrs prifysgol gwahanol neu os na chawsant y graddau yr oedd yn eu disgwyl ar ddiwrnod canlyniadau, rydym yma i'w helpu i gymryd ei gamau nesaf i addysg uwch. 


Beth yw Clirio a phwy sy'n gymwys?

Mae Clirio yn wasanaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig o bob oed sy'n agor ym mis Gorffennaf. Byddwn yn ystyried ceisiadau drwy'r haf hyd at ddechrau'r tymor. Bydd eich plentyn yn gymwys i fynd drwy’r broses Glirio: 

  • Os nad ydynt wedi gwneud cais i'r brifysgol
  • Os cyflwynwyd gais UCAS i astudio ar ôl y dyddiad cau ar 30 Mehefin 
  • Os na chafon nhw unrhyw gynigion 
  • Os dderbynion gynigion nad oedd am eu derbyn 
  • Os nad oes lle ganyddynt ar ôl cael ei ganlyniadau. 

Os na chafodd eich plentyn y graddau Safon Uwch yr oeddent yn gobeithio eu cael, peidiwch â phoeni! Efallai y gallwn ni gynnig le iddynt o hyd, a gallent wirio hyn ar eu tudalennau UCAS Hub. Fel arall, os na allwn ni gadarnhau lle iddynt ar eu cwrs gwreiddiol, byddyn ni’n dal i geisio cynnig lle iddynt ar gwrs arall.   

Bydd hyn yn ymddangos fel "changed course offer" ac "UCC" ar dudalen UCAS Hub. Bydd angen i'ch plentyn naill ai dderbyn neu wrthod y lle sy’n cael ei gynnig ar y cwrs newydd – os byddent yn gwrthod, byddent yn mynd yn awtomatig i’r broses Glirio

Os yw’ch plentyn yn mynd drwy’r broses Glirio oherwydd nad yw eu lle ar ar eu cwrs gwreiddiol wedi’i gadarnhau, mae digon o opsiynau ar eu cyfer o hyd. Ewch ati i’w annog i fynd i'n gwefan i weld yr holl gyrsiau sydd ar gael drwy’r broses Glirio fel y gallent weld beth yr hoffent ei astudio.

Gallent gysylltu â ni mewn amrywiaeth o ffyrdd os bydd unrhyw gwestiynau ganddynt neu os byddent am wneud cais

Dylai eich plentyn gysylltu â ni os nad ydynt wedi penderfynu gwneud cais am gwrs gwahanol. Mae gwneud cais am gwrs yn PDC drwy Glirio yn rhwydd iawn ac, os yw'ch plentyn yn gymwys, fel arfer gallwn ni wneud cynnig ar unwaith dros y ffôn. Dylai fod ganddynt restr o'u cymwysterau a'u graddau yn ogystal â'r cwrs y maent am ei astudio wrth law. Os yw eisoes yn system UCAS, dylent wneud yn siŵr bod ganddynt eu rhif adnabod UCAS personol yn barod hefyd.

Gwneud cais am gwrs yn PDC drwy Glirio

  • Mae helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer y brifysgol yn gyffrous ond gall hefyd fod yn anodd iawn. Rydym wedi llunio rhestr i'ch helpu i'w arwain trwy’r camau nesaf cyn iddynt ymuno â ni ym mis Medi.

  • Helpwch eich plentyn i adael cartref yn hyderus drwy ddysgu sgiliau allweddol ar gyfer byw'n annibynnol.

  • Rydym yma i'ch helpu i ddeall taith eich plentyn drwy’r brifysgol, o’r cais i'r seremoni raddio.


Pum awgrym gwych i helpu'ch plentyn drwy'r broses glirio

  1. Os oes angen i'ch plentyn gysylltu â phrifysgol i holi am le – mae'n rhaid iddynt wneud hynny ei hun. Dim ond gyda’ch plentyn y gallwn ni drafod cais, oni bai ei fod wedi eich enwebu chi neu riant neu ofalwr arall i gael mynediad i'w gais UCAS. Fodd bynnag, p'un a fydd yn cysylltu â phrifysgol dros y ffôn neu ar-lein, gallwch chi barhau i'w gefnogi. Helpwch eich plentyn i baratoi drwy drafod y rhesymau dros fod eisiau astudio'r cwrs a dewis y brifysgol, a gwnewch yn siŵr bod ganddo’r dogfennau perthnasol wrth law.

  2. Cymerwch ran mewn Diwrnodau Agored – mae PDC yn cynnal Diwrnodau Agored a digwyddiadau byw drwy gydol y cyfnod Clirio. Trwy fynychu un o'n digwyddiadau, gall eich plentyn ddarganfod mwy am y campws, siarad â'r darlithwyr a dysgu am ei opsiynau o ran llety.
  3. Byddwch â meddwl agored – byddwch yn barod i edrych ar opsiynau nad ydych chi na'ch plentyn efallai wedi'u hystyried o'r blaen. Dydych chi byth yn gwybod, efallai y bydd eich plentyn yn darganfod ei gwrs perffaith!

  4. Byddwch yn gefnogol ac yn galonogol – mae'n bwysig eich bod chi’n annog eich plentyn ac yn tawelu ei feddwl gan fod y broses Glirio yn gallu achosi straen. Hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi clywed am gwrs neu brifysgol benodol, dydy e ddim yn golygu na fydd e’n gweddu’n dda i'ch plentyn. Helpwch eich plentyn i beidio â chynhyrfu, anogwch nhw i ystyried ei opsiynau a rhowch sicrwydd iddo fod Clirio yn llwybr da a dilys i addysg uwch.

  5. Cymerwch amser i ymchwilio – gall deimlo'n llethol unwaith y bydd y sefyllfa wedi newid. Fodd bynnag, mae digon o opsiynau newydd ar gael i'ch plentyn. Cymerwch ddigon o amser i ymchwilio i'w holl opsiynau, ei helpu i greu rhestr fer, a'i helpu i beidio â rhuthro i wneud unrhyw benderfyniadau.