Ffeindiwch gwrs
Mae’r cwrs hwn yn archwilio egwyddorion gwyddonol dadansoddi ymddygiad a thechnegau therapiwtig, gan eich helpu i ddod o hyd i ymyriadau effeithiol i newid ymddygiad.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Byddwch yn archwilio damcaniaethau seicolegol allweddol plentyndod a llencyndod, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, yn ogystal ag iechyd meddwl a lles. Mae'r cwrs yn archwilio plant a phobl ifanc o fewn eu cyd-destunau ehangach, gan gynnwys dylanwad adfyd, perthnasoedd a newid cymdeithasol.
- Israddedig
- Pontypridd
Meithrin hyder academaidd a sgiliau astudio craidd wrth ddatblygu sylfaen gref mewn datblygiad plentyndod, gan eich paratoi i symud ymlaen i'r radd lawn a gwaith gyda phlant a theuluoedd yn y dyfodol.
- Israddedig
- Pontypridd
Rydym yn credu bod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dysgu ymarferol ag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn. Mae’r cyfan yn rhoi’r profiad y mae ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.
- Israddedig
- Pontypridd
Byddwch yn gweithio gyda’n partneriaid allanol ar friffiau byw a phrosiect traethawd hir cymhwysol, gan roi’r cyfle i chi ysbrydoli newid gwirioneddol yn ystod eich astudiaethau.
- Ôl-raddedig
- Ar-lein
Ewch ati i feithrin yr hyder academaidd a'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth lefel prifysgol, wrth ddatblygu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol a gyrfa mewn seicoleg.
- Israddedig
- Pontypridd
Cyfunwch brofiad ymarferol gydag ymchwil fanwl i sefyll allan wrth ymgeisio am hyfforddiant proffesiynol neu swyddi lefel cynorthwyydd.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Byddwch yn cwblhau’r holl brif feysydd angenrheidiol mewn seicoleg i gael achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain.
- Israddedig
- Pontypridd
Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.
- Israddedig
- Pontypridd
Byddwch hefyd yn astudio datblygiad niwroamrywiol ac amrywiaeth o anhwylderau datblygiadol, gan ddysgu sut mae’r rhain yn cael eu hasesu a pha ymyriadau y gallant eu cynnwys.
- Israddedig
- Pontypridd
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd