Busnes a Rheoli (Logisteg a Rheoli Cadwyni Gyflenwi)
Gradd busnes arloesol ac achrededig, sy'n eich galluogi i arbenigo mewn logisteg a rheoli cadwyn gyflenwi, gan eich paratoi i sbarduno gwelliant ymhlith sefydliadau yn y meysydd hanfodol hyn.
Yn amodol ar ddilysiad.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
NG14
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n chwilfrydig am sut mae busnesau'n gweithio ac eisiau adeiladu gyrfa lwyddiannus, mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar eich cyfer chi.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol am fyd busnes a'r hyder i lwyddo yn y gweithle proffesiynol heddiw. Mae rheoli'r gadwyn gyflenwi yn swyddogaeth hanfodol i fusnesau, ac eto mae llawer o sefydliadau yn cael trafferth dod o hyd i bobl fedrus ar gyfer y rolau hanfodol hyn.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i gael swyddi ym maes y gadwyn gyflenwi sydd â galw mewn amdanynt, sy'n talu dda, ac sy'n briodol i’r dyfodol ar draws ystod o ddiwydiannau.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Mae Blwyddyn Un yn ymwneud â chael eich traed oddi tanoch a chanfod eich llais.
Byddwch yn meithrin hyder, yn archwilio sut mae busnesau’n gweithio’n ymarferol, ac yn datblygu sgiliau, chwilfrydedd a meddylfryd arweinydd y dyfodol.
Magwch eich hyder fel myfyriwr prifysgol ac arweinydd y dyfodol. Datblygwch sgiliau academaidd, gwaith tîm a chyfathrebu wrth archwilio arweinyddiaeth foesegol, cynaliadwyedd a realiti busnes modern.
Archwiliwch sut mae gweithleoedd yn gweithio mewn gwirionedd. Archwiliwch foeseg, tegwch a lles wrth ddysgu sut mae penderfyniadau rheoli pobl yn llunio sefydliadau, cymunedau a dyfodol gwaith.
Ewch ar y daith dechrau busnes o syniad i dwf. Gweithiwch gydag eraill i ddatrys her a osodir gan PDC a phartner diwydiant ac adeiladwch feddylfryd, hyder a sgiliau entrepreneur.
Dysgwch sut i ddenu sylw i’ch syniadau. Meddyliwch o safbwynt marchnata mewn senarios go iawn wrth feithrin sgiliau cynllunio, creadigrwydd a brand personol cryf i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.
Cewch ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch hyder ym maes busnes a rheoli, yn ogystal â dechrau arbenigo mewn logisteg a chadwyni cyflenwi.
Byddwch yn parhau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn logisteg a chadwyni cyflenwi yn y drydedd flwyddyn.
Ewch i'r afael â phroblemau busnes yn y byd go iawn, gan roi technolegau sy'n dod i'r amlwg ar waith, archwilio strategaethau moesegol a chynaliadwy, a datblygu’r hyder i lansio eich gyrfa.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae'r addysgu wedi'i lywio gan y diwydiant ac yn cael ei arwain gan fyfyrwyr, gan eich helpu i feithrin hyder, annibyniaeth a phroffesiynoldeb.
Byddwch yn dysgu trwy sesiynau rhyngweithiol lle byddwch yn cydweithio, yn rhannu syniadau ac yn rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Byddwch yn mynd i'r afael â briffiau byw, yn rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac yn datblygu'r sgiliau i wneud gwahaniaeth ym myd busnes.
Mae'r staff sy'n gweithio’n benodol ar lwybr Logisteg a'r Gadwyn Gyflenwi i gyd yn weithgar yn y diwydiant, gan ddal rolau ymgynghori a chynghori mewn cynghorau ac adrannau'r llywodraeth ac yn dod â phrofiad o rolau dylanwadol yn y sector preifat. Mae ehangder eu profiad yn golygu eu bod nid yn unig yn darparu cymorth academaidd eithriadol ond hefyd yn eich helpu i lywio byd cymhleth ac amrywiol cadwyni cyflenwi byd-eang ac yn eich tywys tuag at rolau sy'n gweddu i'ch cryfderau a'ch diddordebau.
Mae asesiadau'n ymarferol ac yn bwrpasol, gan eich helpu i ddysgu trwy wneud. Byddwch yn gweithio ar dasgau o’r byd go iawn fel cyflwyno syniadau i reolwyr, datblygu adroddiadau busnes, creu gwefannau a chreu cynlluniau busnes, gan eich helpu i ddatblygu hyder, meddwl beirniadol a sgiliau digidol.
Mae'r cwrs wedi'i ddylunio ar gyfer gweithle ôl-AI Cynhyrchiol, felly byddwch yn dysgu defnyddio offer AI yn gyfrifol ac yn effeithiol, gan eich paratoi i lwyddo mewn amgylchedd busnes sy'n newid yn gyflym.
Cewch gyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn drwy flwyddyn ryngosod ddewisol (yn y DU neu'n rhyngwladol) neu leoliad pum wythnos yn eich ail flwyddyn. Mae'r opsiynau hyn yn eich helpu i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu mewn lleoliad proffesiynol, magu hyder, a chryfhau eich cyflogadwyedd.
Mae astudio Busnes a Rheolaeth yn golygu dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Cewch gyfleoedd i ddod i gyswllt â phartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys ymweliadau â gweithleoedd proffesiynol ac addysgu achlysurol mewn gweithleoedd go iawn yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, cewch eich cefnogi gan staff arbenigol a chewch ddefnyddio gliniaduron, cyfleusterau TG ar y campws ac adnoddau llyfrgell i gefnogi eich astudiaethau.
Arweinwyr y Cwrs
Liam Newton
Daw Liam o gefndir marchnata, ar ôl gweithio yn y diwydiant marchnata yn Awstralia cyn symud i'r byd academaidd ac addysgu mewn sawl gwlad ledled Ewrop. Mae'n frwd dros sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni ei nodau unigol trwy'r cwrs - boed hynny i ddod yn arweinydd busnes, gweithio mewn cwmni rhyngwladol, datblygu busnes ymgynghori, neu ddechrau menter newydd.
Scott Parfitt
Mae Scott Parfitt yn Uwch Ddarlithydd ac yn arbenigwr caffael a chadwyni cyflenwi cymwysedig MCIPS gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Yn addysgwr arobryn, mae gan Scott gysylltiadau helaeth â diwydiant a'r sector cyhoeddus. Mae ei addysgu yn dwyn ynghyd theori caffael, logisteg a chadwyni cyflenwi ag ymarfer byd go iawn, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol llwyddiannus.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC Safon Uwch
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
Mynediad i AU:
Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Safon T:
Pasio (C ac uwch)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Treuliau lleoliad: Interniaeth
Cynigir cyfle i fyfyrwyr gwblhau interniaeth yn ystod eu hail flwyddyn astudio. Gall myfyrwyr sy'n ymgymryd ag interniaeth fynd i gostau sy'n gysylltiedig â theithio a'r dillad disgwyliedig yn y gweithle a bydd hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Cost: I fyny at £300
Gliniadur
Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr, byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.
Cost: I fyny at £250
Arall: Eisteddiadau Arholiadau Dramor
Pe bai myfyrwyr yn dewis sefyll arholiadau dramor (yn eu mamwlad er enghraifft) bydd ffi weinyddol o £ 50 a chost o £ 20 fesul arholiad. Mae myfyrwyr hefyd yn gyfrifol am unrhyw daliadau ychwanegol a godir gan leoliad arholiadau tramor.
Cost: £50 - £500

Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Busnes a Rheoli (Logisteg a Chadwyni Cyflenwi)
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion