
Ymhlith yr 20 uchaf yn y DU ar gyfer Nyrsio Cyffredinol - Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Ydych chi am ddod yn nyrs? Bydd cwblhau'r radd nyrsio oedolion hon yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel nyrs gymwysedig.
Mae nyrsio modern yn broffesiwn cyffrous lle mae nyrsys yn ceisio gofalu am y claf yn gyfannol. Mae'r radd nyrsio oedolion yn cyfuno theori ac ymarfer mewn ffordd arloesol, i ganolbwyntio ar ofal pobl ar draws ystod eang o leoliadau gofal iechyd. Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r maes pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth sydd ar y brig yng Nghymru am foddhad cwrs ac addysgu - Tabl Cynghrair y Guardian 2021.
Mae maes nyrsio oedolion yn ymdrin â phob agwedd ar ofalu am bobl ifanc ac oedolion sydd ag ystod o faterion a heriau iechyd. Yn ystod eich hyfforddiant nyrsio, byddwch chi wedi'ch lleoli yn ein Canolfan Efelychu Clinigol o'r radd flaenaf a byddwch hefyd yn ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn ystod o leoliadau i sicrhau bod gennych brofiad o amrywiaeth o feysydd ym maes nyrsio.
Ar hyn o bryd, os ydych chi'n fyfyriwr yn y DU, bydd y ffioedd ar gyfer eich cwrs nyrsio yn cael eu talu gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Dilynwch ni ar Twitter a Instagram.
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
B740 | Amser llawn | 3 blynedd | Mawrth | Glyntaff | A | |
B701 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Glyntaff | A | |
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
B740 | Amser llawn | 3 blynedd | Mawrth | Glyntaff | A | |
B701 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Glyntaff | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.