Y Cynllun Cyhoeddi
Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddi a baratowyd ac a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth heb ei addasu.
Mae’r Brifysgol wedi dilyn Dogfen Diffiniad y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer Prifysgolion wrth nodi’r wybodaeth y mae’n ei darparu yn unol â’r Cynllun Cyhoeddi.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ac i sicrhau bod y dosbarthiadau canlynol o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
Y Cynllun Cyhoeddi
Pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n wneud
- Mae gwybodaeth am hanes a tharddiad y brifysgol ar gael yn electronig ar ein gwefan ynghyd â Ffeithiau a Ffigurau am y sefydliad.
- Mae'r Offeryn ac Erthyglau Llywodraeth yn cynnwys gwybodaeth am fframwaith cyfreithiol a statws corfforaethol y Brifysgol gan gynnwys y dogfennau sefydlu, dyddiadau, rheoliadau a threfniadau llywodraethu.
- Gwybodaeth am y sefydliad gan gynnwys Arweinyddiaeth y Brifysgol a disgrifiadau o bob cyfadran ac adran.
- Gwybodaeth am drefniadau llywodraethu'r Brifysgol ac aelodaeth pwyllgorau.
- Gwybodaeth am leoliad a chynllun ffisegol y Brifysgol
- Manylion yn amlinellu Cydymffurfiaeth y Brifysgol â Safonau'r Iaith Gymraeg.
- Mae gan y Brifysgol weithdrefnau a chanllawiau ar ddelio ag ymholiadau sy'n ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.
- Mae'r cyfeirlyfr ar-lein yn darparu manylion cyswllt staff y Brifysgol.
- Mae Prifysgol De Cymru yn rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru.
- Gellir gweld manylion cwmnïau dan berchnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol y Brifysgol yn y Datganiadau Ariannol.
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am weithgareddau i fyfyrwyr ar wefan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
- Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleoedd chwaraeon i unigolion yn ei chyfleusterau rhagorol.
- Mae gan y Brifysgol 1881 o ystafelloedd myfyrwyr ar ei champysau, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Llety.
- Manylion am ymagwedd y Brifysgol at gynaladwyedd a’r amgylchedd.
Beth rydyn ni’n ei wario a sut rydyn ni’n ei wario
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am ffynonellau cyllid ac incwm, megis grantiau'r Cyngor Cyllido, ffioedd dysgu yn y Datganiadau Ariannol blynyddol.
- Mae'r Brifysgol yn nodi materion ynghylch y polisïau eang sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol yn ei Rheoliadau Ariannol. Mae'r Rheoliadau'n cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd ac yn berthnasol i'r Brifysgol a'i holl ymrwymiadau cysylltiedig, ac maent yn cynnwys yr holl gronfeydd sy'n mynd drwy gyfrifon y Brifysgol.
- GALL manylion gwariant dros £25,000, gan cynnwys costau, gwybodaeth am gyflenwyr a thrafodion, fod ar gael ar gais ysgrifenedig Cydymffurfiaeth Gwybodaeth, yn amodol ar eithriadau sydd ar waith. Dylid cyfeirio ceisiadau at:
Prif Swyddog Cyllid, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL.
E-bost: [email protected]
- Manylion am drefniadau caffael y Brifysgol a sut i werthu i'r Brifysgol.
- Mae gwybodaeth am Adroddiadau Archwilio Ariannol wedi'i chynnwys yn y Datganiadau Ariannol.
- Mae gwybodaeth am Ystadau a'u Rhaglen Gyfalaf ar gael ar gais gan:
Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL
E-bost: [email protected]
- Cyhoeddir cyflogau uwch aelodau o staff yn y Datganiadau Ariannol, ac efallai y bydd gwybodaeth bellach ar gael ar gais. Gwybodaeth am reolau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â threuliau. Efallai y bydd manylion y swm a dalwyd mewn lwfansau a threuliau a hawliwyd gan uwch aelodau staff ar gael ar gais ysgrifenedig a dylid cyfeirio ceisiadau at:
Prif Swyddog Cyllid , Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL.
E-bost: [email protected]
- Efallai y bydd rhagor o wybodaeth am gyflogau swyddi uwch yn y Brifysgol ar gael ar gais ysgrifenedig. Dylid cyfeirio ceisiadau at:
Prif Swyddog Cyllid, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL.
E-bost: [email protected]
- Mae gan y Brifysgol gymuned ymchwil weithredo