Mae’r cwrs MA mewn Cwnsela a Seicotherapi Integreiddiol yn hwyluso myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol ddadansoddol a gwerthusol o theori ac ymarfer therapiwtig yn y maes cwnsela a seicotherapi integreiddiol.
Mae’r cwrs cwnsela a seicotherapi integreiddiol dwy flynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn pwysleisio integreiddio theori, ymchwil, ymarfer therapiwtig, ac ymrwymiad i hunanymwybyddiaeth, i’ch helpu i ddatblygu i fod yn gwnselydd a seicotherapydd proffesiynol sy’n ddiogel, yn foesegol, yn wrthormesol, yn berthynol ac yn greadigol.
Cwrs ymarfer cyfreithiol sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Rheolaidd Cyfreithwyr (ARC), sy’n cwmpasu cyfraith busnes a phrofiad, achosion cyfreithiol, gweithdrefn llys ac ymchwil – yn eich arfogi a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ym maes dylunio graffeg a dysgwch sut i feddwl a gweithio fel dylunydd creadigol ar y cwrs gradd hwn sydd wedi ei deilwra ar gyfer y diwydiant.
Ewch â'ch gyrfa ddylunio i'r lefel nesaf gydag MA Cyfathrebu Graffeg - lle mae syniadau beiddgar, meddwl beirniadol a chydweithio creadigol yn dod at ei gilydd i lunio gwaith gwreiddiol ac effeithiol.
Gyda dewis astudio hyblyg, darlithwyr arbenigol, a phrofiad o’r byd go iawn, byddwch yn datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr yn y gyfraith, y llywodraeth, busnes, a’r sectorau rhyngwladol.
Gyda dewis astudio hyblyg, darlithwyr arbenigol, a phrofiad o’r byd go iawn, byddwch yn datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr yn y gyfraith, y llywodraeth, busnes, a’r sectorau rhyngwladol.
Paratowch ar gyfer dyfodol mewn ymarfer proffesiynol, diwydiant neu gyllid gyda phrofiadau byd go iawn a mewnwelediadau i'r diwydiant trwy ein gradd Cyfrifeg a Chyllid Aml-Achrededig.
Mae Blwyddyn Sylfaen Cyfrifeg a Chyllid yn cyflwyno cysyniadau craidd busnes a chyllid wrth eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol allweddol. Trwy dasgau ymarferol a myfyrio, byddwch yn magu hyder ac yn paratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd.
Mae’r modiwlau, a addysgir gan diwtoriaid arobryn o’n rhaglen ACCA sydd wedi cael achrediad Platinwm, yn cyd-fynd â Lefel Broffesiynol Strategol derfynol Cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau pob arholiad Lefel Broffesiynol Strategol ACCA ac sydd â phrofiad ôl-gymhwysol o leiaf blwyddyn o hyd, i ymuno â llwybr carlam Gradd Meistr. Bydd myfyrwyr yn ennill gradd Meistr mewn Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) (llwybr carlam) trwy gwblhau prosiect ymchwil manwl.
Mae sgiliau cyfrifiadurol yn ddymunol ac yn drosglwyddadwy; crëwch yrfa lewyrchus yn y dyfodol gyda'r cwrs ymarferol hwn.
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau hanfodol i helpu i ddatrys problemau byd go iawn a throi eich hun yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn a chyflogadwy.
Mae'r cwrs TG blaengar hwn yn eich paratoi i feddwl yn feirniadol, gweithio'n ymarferol, ac adeiladu sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant, gan eich helpu i ddechrau a symud ymlaen mewn gyrfa dechnoleg lwyddiannus o'r diwrnod cyntaf yn y brifysgol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel uwch ac i archwilio pynciau arbenigol.
Bydd ein cwrs MSc mewn Cyllid a Buddsoddi yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall damcaniaethau, technegau ac amgylchedd rheoleiddiol buddsoddi yn y farchnad ariannol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau cyllid a buddsoddi ac yn defnyddio meddalwedd efelychu pwerus a chronfeydd data ariannol.
Mae’r cyfuniad o brofiad ymarferol ac arbenigedd technegol ein tîm darlithio a’n rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu yn gwneud cwrs ACCA Prifysgol De Cymru yn arbennig iawn.
Creu, Cydweithio, Arloesi. Gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth a sain gyda'n cwrs arloesol BA Cynhyrchu Cerddoriaeth.
Bydd y rhaglen Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu arloesol hon yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich llais artistig eich hun a gwneud cysylltiadau parhaol o fewn y byd cyfansoddi caneuon.
Wedi'i ddylunio gydag arbenigwyr cyfredol y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r hyder a'r sgiliau i chi ffynnu yn niwydiant cyfryngau sy'n esblygu'n barhaus heddiw.