Ffeindiwch gwrs

Gwyddoniaeth Bioleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Ymdrochwch yn y prosesau sy'n gyrru bywyd, gan gynnwys esblygiad, ffisioleg, bioleg foleciwlaidd ac ecoleg. Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau i ofyn cwestiynau, datrys problemau a gwneud synnwyr o'r byd naturiol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Gwyddoniaeth Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Cyfrifiadureg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs TG blaengar hwn yn eich paratoi i feddwl yn feirniadol, gweithio'n ymarferol, ac adeiladu sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant, gan eich helpu i ddechrau a symud ymlaen mewn gyrfa dechnoleg lwyddiannus o'r diwrnod cyntaf yn y brifysgol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Fforensig Digidol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Dysgwch y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn Unedau Fforenseg Ddigidol a thimau Ymateb i Ddigwyddiadau ar y cwrs arloesol hwn, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol wrth i chi ddatblygu’r sgiliau ymarferol a phroffesiynol mae cyflogwyr ym meysydd fforenseg ddigidol, gorfodi'r gyfraith a'r sectorau corfforaethol a seiberddiogelwch ehangach yn chwilio amdanyn nhw.

  • Israddedig
  • Casnewydd
Gwyddoniaeth Gwyddor Fferyllol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae angen graddedigion ar y diwydiant fferyllol sydd â gwybodaeth wyddonol gref, sgiliau labordy ymarferol, a dealltwriaeth glir o brosesau'r diwydiant. Mae'r radd hon yn meithrin eich arbenigedd a'ch gallu i ddatrys problemau, gan roi'r hyder i chi addasu, arloesi a llwyddo mewn amgylchedd byd go iawn sy'n symud yn gyflym.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Gwyddoniaeth Gwyddor Fforensig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae'r cwrs Gwyddor Fforensig yn cynnig profiad ymarferol o leoliad y drosedd i'r llys. Byddwch yn dysgu technegau allweddol mewn ymchwilio, casglu tystiolaeth, a dadansoddi labordy, gan feithrin yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli canfyddiadau a chyfrannu'n effeithiol mewn senarios fforensig yn y byd go iawn.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Gwyddoniaeth Gwyddor Fiofeddygol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio sut mae clefydau'n datblygu, sut y gellir ymchwilio iddynt, sut mae triniaethau'n gweithio, a sut y gellir ymchwilio i therapïau newydd a'u datblygu i wella bywydau.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Gwyddor Gyfrifiadurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain a'i chreu mewn partneriaeth â diwydiant a myfyrwyr, mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn greadigol ac yn fedrus, ac yn gallu adeiladu'r dyfodol gyda systemau deallus, effeithiol, effeithlon a dibynadwy. Mae'r flwyddyn sylfaen yn darparu ffordd o gael mynediad i'r maes cyffrous hwn i'r rheini sydd efallai'n dychwelyd i astudio, neu sydd angen magu hyder fel arall.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Awyrenegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Cymerwch eich camau cyntaf i ddod yn beiriannydd awyrenegol ar ein Blwyddyn Sylfaen a fydd yn eich paratoi i astudio ein gradd lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Awyrofod gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi symud ymlaen i'n gradd Peirianneg Awyrofod lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn eich helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd yn hyderus, wrth i chi ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol hanfodol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Drydanol ac Electronig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Dewch i feithrin hyder yn ogystal ag arbenigedd wrth i chi baratoi ar gyfer ein gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig lawn, drwy astudio ar ein Blwyddyn Sylfaen gyda chymorth ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Fecanyddol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BEng (Anrh)

Byddwch yn ennill hyder a gwybodaeth arbenigol ac yn paratoi ar gyfer ein gradd lawn mewn Peirianneg Fecanyddol trwy ymuno â’n Blwyddyn Sylfaen a byddwch yn elwa ar ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Peirianneg Peirianneg Sifil gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn eich helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd a gyrfa mewn peirianneg sifil. Byddwch yn magu hyder wrth i chi astudio gyda chymorth ein staff arbenigol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Troseddeg, Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus Plismona Proffesiynol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae'r flwyddyn sylfaen hon yn cefnogi eich cyfnod pontio i addysg uwch, wrth gyflwyno themâu allweddol plismona a gwasanaeth cyhoeddus.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Seiberddiogelwch Cymhwysol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Gan fod mwy a mwy o darfu ar ein systemau hanfodol a’n data personol, mae angen graddedigion seiberddiogelwch medrus iawn arnom nawr yn fwy nag erioed.

  • Israddedig
  • Casnewydd
Gwyddoniaeth Ymchwiliad Fforensig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gref o'r system cyfiawnder troseddol a'r cyfreithiau sy'n ei llunio. Byddwch yn dysgu sut mae tystiolaeth yn cael ei harchwilio a'i herio, gan ddatblygu'r sgiliau i feddwl yn glir, cwestiynu rhagdybiaethau, a gwneud penderfyniadau cyfrifol mewn sefyllfaoedd go iawn, gyda gwyddoniaeth yn cael ei defnyddio fel offeryn ymarferol ar hyd y ffordd.

  • Israddedig
  • Pontypridd