Ar ôl cwblhau'r Diploma Rheoli Poen, byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth systematig o ofal cleifion ym maes Rheoli Poen; gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol ym maes Rheoli Poen rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol
Datblygwch eich sgiliau fel rheolwr prosiect adeiladu, gan ddysgu sut i bontio’r bwlch rhwng cleient a chontractwr a chyflawni prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb.
Os ydych chi’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag adeiladu, neu os ydych chi eisiau gyrfa ym maes rheoli prosiectau adeiladu, bydd y cwrs Meistr hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Achredir y cwrs gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’r APM.
Mae'r cwrs Meistr mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau, sy'n cael ei gynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Gordewdra a Rheoli Pwysau yn feirniadol.
Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau’n canolbwyntio ar alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i drin cleifion yn effeithiol.
Nod y radd MSc hon mewn Rhiwmatoleg, sy'n cael ei chynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Rhiwmatoleg.
Nod y Diploma Ôl-raddedig mewn Rhewmatoleg, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Rhewmatoleg.
Mae byd deinamig seiberddiogelwch angen graddedigion sy'n barod i weithredu. Dyna pam y byddwch chi'n defnyddio technoleg flaengar mewn labordai sy'n efelychu’r byd go iawn ar ein cwrs gradd Seiberddiogelwch Gymhwysol. Byddwch yn datrys problemau byw ochr yn ochr ag arbenigwyr diwydiant gan arfogi’ch hun ar gyfer ystod o rolau seiberddiogelwch.
Bydd y cwrs MSc Seiberddiogelwch Cymhwysol yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf i chi o’r bygythiadau seiber sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg mewn busnes a sut i ddelio â nhw. Byddwch yn ymdrin â’r meysydd technegol a rheoli/llywodraethu sydd eu hangen i weithredu yn y proffesiwn seiberddiogelwch, gan eich galluogi i wella eich sgiliau presennol a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Caiff y cwrs meistr hwn ei gynnal ar y cyd â'n Diploma MSc partner cydweithredol, ac mae'n ddilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Seiciatreg Glinigol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn derbyn gradd Meistr mewn Seiciatreg Glinigol gan Brifysgol De Cymru.
Bydd y Diploma Ôl-raddedig ar-lein mewn Seiciatreg Glinigol, a gaiff ei gyflwyno gyda'n Diploma MSc partner cydweithredol, yn galluogi'r rheini sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol neu unedau arbenigol i gymryd diddordeb arbenigol mewn seiciatreg glinigol.
Cyfunwch brofiad ymarferol gydag ymchwil fanwl i sefyll allan wrth ymgeisio am hyfforddiant proffesiynol neu swyddi lefel cynorthwyydd.
Byddwch yn edrych ar sut mae’r meddwl dynol yn gweithio, ac yn archwilio sut mae hyn yn effeithio ar batrymau ymddygiad troseddol, o’r cymhelliad i droseddu hyd at ddelio â chyhuddiadau anwir a’r effaith ar ddioddefwyr.
Byddwch hefyd yn astudio datblygiad niwroamrywiol ac amrywiaeth o anhwylderau datblygiadol, gan ddysgu sut mae’r rhain yn cael eu hasesu a pha ymyriadau y gallant eu cynnwys.
Dysgwch sut i ddarparu systemau diogel, dibynadwy o ansawdd uchel sy'n gwneud perfformiadau'n dechnegol anhygoel.
Fel therapydd galwedigaethol, byddwch yn galluogi a grymuso unigolion, cymunedau, a phoblogaethau i fyw eu bywydau gorau gartref, yn y gwaith ac ym mhobman arall, gan helpu pobl eraill i oresgyn heriau dyddiol, boed hynny’n ddysgu yn yr ysgol, mynd i’r gwaith, cymryd rhan mewn chwaraeon neu rywbeth mor syml â golchi’r llestri.
Treiddiwch yn ddwfn i achosion a chanlyniadau troseddau, datgelwch waith mewnol y system cyfiawnder troseddol a rhowch eich sgiliau ar brawf gydag achosion bywyd go iawn.
Gan gymysgu theori â'r cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol penodol cryf, byddwn yn rhoi darlun clir i chi o sut mae'r cyfryngau yn gweithio.
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi ac yn datblygu myfyrwyr i ddysgu ‘yn y swydd’ gyda’n gradd ryngweithiol ac ymarferol yn y gyfraith.
Sbardunwch eich gyrfa gyfreithiol gyda’r cwrs hyblyg hwn sy’n cynnig profiad cyfreithiol go iawn i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau blwyddyn o addysg uwch.