Ffeindiwch gwrs

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Celf Gemau - BA (Anrh)

Gan weithio ar brosiectau byw ar draws amryw o gyfryngau chwarae, byddwch yn cael y cyfleoedd i feistroli offer safonol y diwydiant fel Unreal Engine. Byddwch yn datblygu’r sgiliau technegol, creadigol a ‘meddal’ y mae stiwdios gemau cyfrifiadurol gorau’r byd yn gofyn amdanynt, gan eich paratoi ar gyfer rôl eich breuddwydion mewn celf gemau.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Gwyddoniaeth Cemeg Fferyllol - MSc

Mae’r cwrs yn ffocysu ar greu graddedigion cyflogadwy a medrus ar gyfer rolau o fewn y sector fferyllol - un o’r meysydd cyflogaeth mwyaf yn y DU a’r byd, gan ddefnyddio’r cyfleusterau a’r staff arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Chwaraeon Cryfder a Chyflyru - BSc (Anrh)

Byddwch yn elwa o brofiad ymarferol ym Mharc Chwaraeon PDC ac yn ennill cymwysterau Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, i'ch helpu i gamu'n hyderus i faes hyfforddi chwaraeon elît.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Seicotherapi a Chwnsela Cwnsela Integreiddiol a Seicotherapi - PGDip

Mae’r cwrs cwnsela a seicotherapi integreiddiol dwy flynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn pwysleisio integreiddio theori, ymchwil, ymarfer therapiwtig, ac ymrwymiad i hunanymwybyddiaeth, i’ch helpu i ddatblygu i fod yn gwnselydd a seicotherapydd proffesiynol sy’n ddiogel, yn foesegol, yn wrthormesol, yn berthynol ac yn greadigol.

  • Ôl-raddedig
  • Casnewydd
Y Gyfraith Cwrs Ymarfer Cyfreithiol - PGDip

Cwrs ymarfer cyfreithiol sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Rheolaidd Cyfreithwyr (ARC), sy’n cwmpasu cyfraith busnes a phrofiad, achosion cyfreithiol, gweithdrefn llys ac ymchwil – yn eich arfogi a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymhwyso fel cyfreithiwr.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Dylunio Cyfathrebu Graffeg - BA (Anrh)

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ym maes dylunio graffeg a dysgwch sut i feddwl a gweithio fel dylunydd creadigol ar y cwrs gradd hwn sydd wedi ei deilwra ar gyfer y diwydiant.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Dylunio Cyfathrebu Graffeg - MA

Ewch â'ch gyrfa ddylunio i'r lefel nesaf gydag MA Cyfathrebu Graffeg - lle mae syniadau beiddgar, meddwl beirniadol a chydweithio creadigol yn dod at ei gilydd i lunio gwaith gwreiddiol ac effeithiol.

  • Ôl-raddedig
  • Caerdydd
Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Cyfathrebu'r Cyfryngau - BA (Anrh)

Cymerwch ran yn sgyrsiau cyfryngau mwyaf heddiw wrth i chi archwilio sut mae'r berthynas rhwng y cyfryngau, cymdeithas a diwylliant yn llunio pwy ydym ni.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) - MSc

Mae’r modiwlau, a addysgir gan diwtoriaid arobryn o’n rhaglen ACCA sydd wedi cael achrediad Platinwm, yn cyd-fynd â Lefel Broffesiynol Strategol derfynol Cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

  • Ôl-raddedig
  • Casnewydd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth - MSc

Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau hanfodol i helpu i ddatrys problemau byd go iawn a throi eich hun yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn a chyflogadwy.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Cyfrifiadureg Gymhwysol (Atodol) - BSc (Anrh)

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel uwch ac i archwilio pynciau arbenigol.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Ffilm ac Effeithiau Gweledol Cynhyrchu Ffilm - MA

Mireiniwch eich arbenigedd ym maes Cynhyrchu trwy ennill profiad gyda phartneriaid yn y diwydiant a chydweithio â myfyrwyr PDC o'r arbenigeddau MA Ffilm eraill, er mwyn arwain a llwyddo mewn ym maes cynhyrchu ffilm.

  • Ôl-raddedig
  • Caerdydd
Ffilm a'r Cyfryngau Cynhyrchu'r Cyfryngau - BA (Anrh)

Wedi'i ddylunio gydag arbenigwyr cyfredol y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r hyder a'r sgiliau i chi ffynnu yn niwydiant cyfryngau sy'n esblygu'n barhaus heddiw.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Seicoleg Dadansoddi Ymddygiad a Therapi - MSc

Mae’r cwrs hwn yn archwilio egwyddorion gwyddonol dadansoddi ymddygiad a thechnegau therapiwtig, gan eich helpu i ddod o hyd i ymyriadau effeithiol i newid ymddygiad.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Dylunio Darlunio - BA (Anrh)

Mae darlunio’n rhan hanfodol o’n hiaith. Dysgwch sut i ddefnyddio’ch sgiliau creadigol er mwyn cyfathrebu, cysylltu, rhoi gwybod a dysgu eraill trwy ddefnyddio ystod o gyfryngau.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Seicoleg Datblygiad Plentyndod - BSc (Anrh)

Byddwch yn archwilio damcaniaethau seicolegol allweddol plentyndod a llencyndod, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, yn ogystal ag iechyd meddwl a lles.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Diabetes - MSc

Mae'r radd Meistr hon mewn diabetes sydd â ffocws clinigol, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau diabetes arbenigol, nyrsio arbenigol diabetes, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Diabetes - PGDip

Mae'r cwrs clinigol hwn mewn diabetes, sy'n cael ei gynnal gyda'n partner cydweithredol Diploma MSc, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Doethur mewn Athroniaeth - PhD

Dod yn arbenigwr, datrys heriau cymhleth, a chael effaith ystyrlon trwy ymchwil wreiddiol.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Nyrsio Dychwelyd i Ymarfer

Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.

  • Israddedig
  • Pontypridd