Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Addysg ac Addysgu

Bydd ein cyrsiau addysg ac addysgu ymarferol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector addysg.

Gweld y Cyrsiau Archebu Diwrnod Agored
A student reading a childrens book

Bydd gennych fynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol a phrofiadau addysgu byd go iawn wedi'u sicrhau mewn ysgolion cynradd a cholegau addysg bellach.


Rhoi damcaniaeth ar waith

Bydd lleoliadau gwaith yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i chi lwyddo.

Efelychu bywyd go iawn

Dysgwch mewn amgylchedd arloesol, ymarferol sy'n eich paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae ein hystafelloedd dosbarth wedi’u hefelychu a'n Hystafell Hydra yn caniatáu i chi brofi ac ymarfer gwahanol arddulliau dysgu.

Partneriaethau sefydledig

Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith mawr o ddarparwyr a lleoliadau addysg, gan gynnwys ysgolion, a chynnig lleoliadau amrywiol a chysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant.

Dyfodol disglair

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd cyffrous mewn ysgolion, y sector STEM, ac elusennau plant.

Dod o hyd i'ch cwrs

AAA/ADY (Anawsterau Dysgu Penodol) - PGDip

Cyflawnwch ddiploma lefel 7 gyda'r opsiwn i ennill cymhwyster proffesiynol ac achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gefnogi anawsterau dysgu penodol (dyslecsia) - gan eich darparu i wneud newidiadau gwirioneddol i'ch ymarfer mewn ysgolion a lleoliadau dysgu.


AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - MA

Cymhwyswch eich hun â dulliau ac arferion sy'n esblygu ar gyfer anabledd a chymorth, gan eich paratoi i gael effaith ystyrlon ar draws ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill.


AAA/ADY (Awtistiaeth) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.


Addysg - BA (Anrh)

Agorwch ddrysau i gyfleoedd gyrfa yn datblygu plant mewn amgylcheddau cyffrous sy’n amrywio o chwaraeon i amgueddfeydd, ac o sŵau i’r awyr agored, a mwynhewch lwybr di-dor i fyd addysg.


Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - MA

Enillwch y sgiliau a'r hyder sydd i gyrru newid ystyrlon ym maes addysg.


Addysg (Cymru) - MA

Estynnwch eich gwybodaeth, ymgysylltwch ag ymchwil a gyrrwch newid addysgol – gan adlewyrchu ymarfer proffesiynol a blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dwysáu eu gwybodaeth, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar arweinyddiaeth ar draws y system addysg, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Cwricwlwm - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno dwysau eu dealltwriaeth o ddamcaniaeth, dylunio, gweithredu ac arweinyddiaeth y cwricwlwm, gan ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Cydraddoldeb mewn Addysg - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sydd â diddordeb mewn hyrwyddo tegwch, gan archwilio effaith annhegwch ar ddysgwyr a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - TAR

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sy’n hyderus gydag ysgrifennu addysgol neu gymdeithasegol, neu rai a fydd efallai â diddordeb mewn ennill MA mewn Addysg yn ddiweddarach.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc galwedigaethol a thechnegol fel Gwallt a Harddwch, Adeiladu, Gwaith Saer a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfGCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc penodol fel Celf a Chynllun, y Celfyddydau Perfformio, Mathemateg, Chwaraeon, Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Y Cyfryngau a TG.


Addysg Blynyddoedd Cynnar (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.

Addysg ac Addysgu Saved

Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Cymraeg - BA (Anrh)

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a’r cymwyseddau proffesiynol sy’n angenrheidiol er mwyn dod yn athro hynod effeithiol.


Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Cymraeg - TAR

Cyflwynir y cwrs hwn yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.


Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Saesneg - BA (Anrh)

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a’r cymwyseddau proffesiynol sy’n angenrheidiol er mwyn dod yn athro hynod effeithiol.


Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC: Cyfrwng Saesneg - TAR

Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfrwng y Saesneg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn athro hynod effeithiol.


Addysgu mewn Addysg Uwch - PGCert

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ym maes Addysg Uwch.


Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) - MA

Byddwch yn gwella eich arbenigedd addysgu gyda phrofiad ymarferol, sesiynau dan arweiniad arbenigwyr, a hyfforddiant TESOL sy'n berthnasol yn fyd-eang.


Arwain a Rheoli (Addysg) - MA

Datblygwch y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau ymarferol i arwain yn effeithiol mewn lleoliadau addysgol ac ym maes dysgu proffesiynol.


CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) - MA

Bydd yr MA hwn, sydd wedi’i lywio gan ymchwil, yn eich helpu i adfyfyrio ar arferion presennol, i archwilio materion allweddol ym maes CAMH a lles, ac i gael effaith gadarnhaol a pharhaol trwy eich taith broffesiynol neu academaidd.


Dychwelyd i Addysgu -

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arwain, datblygu amrywiaeth o strategaethau rheoli ymddygiad, a meithrin a gwella eich sgiliau cymhwysedd digidol yn yr ystafell ddosbarth.


Gweithio dros Blant a Phobl Ifanc (Cymhwyso Cychwynnol Gwaith Ieuenctid) - MA

Cwrs achrededig proffesiynol sy'n eich galluogi i gymhwyso fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol mewn un flwyddyn academaidd yn unig, gan roi'r sgiliau a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn y maes.


Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd - BA (Anrh)

Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.


Gwyddoniaeth Hanfodol ar gyfer Addysgu -

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.


Mathemateg Hanfodol ar gyfer Addysgu -

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.


Saesneg Hanfodol ar gyfer Addysgu -

Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.

Addysg ac Addysgu Saved

Oeddech chi'n gwybod?

three social work students sitting at a desk working from a laptop in the university library
  • Mae Addysg yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2027)

  • Y gorau yng Nghymru am ansawdd addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026) 

     

Oeddech chi'n gwybod?

Mae 99%

o raddedigion Addysg PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio

(Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2022/23)
  • Mae Addysg yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2027)

  • Y gorau yng Nghymru am ansawdd addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)   


Storïau Myfyrwyr

Edward Pritchard

Myfyriwr Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC

Julia Jones

Myfyriwr Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Syeda Hussain

Graddedig Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC

student-25

Lleoliadau Hyfforddi Athrawon

Byddwch yn elwa o leoliadau sicr mewn addysg gynradd neu addysg bellach a chefnogaeth prifysgol sydd â hanes cryf o ddatblygu gweithwyr addysg proffesiynol llwyddiannus. Mae ein cysylltiadau rhagorol ag ysgolion, meithrinfeydd, colegau a lleoliadau addysg eraill ledled Cymru yn golygu y gallwn ddewis y cyfleoedd profiad gwaith gorau posibl i chi.


Astudiwch yng nghanol Casnewydd

Dinas ar gynnydd, ac yn ei chanol, yn edrych dros yr Afon Wysg, yn un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Diwrnodau Agored i ddod

An internal shot of the Newport campus overlooking the library and the view of the river Usk.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru