Gofal Acíwt a Chritigol
Bydd y cwrs Gofal Acíwt a Chritigol yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i chi asesu, gofalu am gleifion a'u rheoli gan ddefnyddio ymarfer presennol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ffisioleg gymhwysol.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/bsc-acute-and-critical-care.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'n anochel y bydd poblogaeth sy'n heneiddio a disgwyliadau uwch gan y cyhoedd yn golygu mwy o alw am wasanaethau'r GIG yn seiliedig ar ddirywiad acíwt ac anghenion gofal critigol yn y dyfodol. Mae angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn addas i'r diben a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r radd BSc (Anrh) Gofal Acíwt a Chritigol rhan-amser hon ar gyfer Parafeddygon, Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth (ODPs) a nyrsys sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth am gleifion sydd â salwch acíwt neu salwch critigol.
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau
- Sgiliau asesu
- Ymchwil ac ysgrifennu academaidd
- Dadansoddiad beirniadol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad mwy cyflawn a phenodol o'ch ymarfer clinigol wrth ymdrin â chleifion sydd â salwch acíwt neu salwch critigol mewn amgylcheddau cyn-ysbyty neu gymunedol a wardiau ysbytai, gan gynnwys wardiau cyffredinol, theatrau, anaestheteg ac adferiad, gofal critigol ac adrannau brys.
Ffisioleg gymhwysol salwch acíwt a chritigol - 20 credyd
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddadansoddi'n feirniadol effaith pathoffisioleg ar gleifion sy'n oedolion acíwt ac yn ddifrifol wael ac i ddeall ffisioleg wedi'i newid. Byddwch yn archwilio canlyniadau salwch acíwt a chritigol ar homeostasis gan ddefnyddio sylfaen wybodaeth eang o ffisioleg normal a newidiol i ddeall triniaethau allweddol.
Gofal a rheolaeth y rhai sydd â salwch acíwt a chritigol - 20 credyd
Byddwch yn gwerthuso'n feirniadol gymhlethdod materion gofal ac yn dadansoddi cyd-destun y gofal hwnnw. Dadansoddir effeithiolrwydd gweithredu gofal ar draws amrywiaeth o gyflyrau cleifion gan roi ystyriaeth i'r prosesau asesu, monitro ac ymyrraeth.
Materion cyfreithiol a phroffesiynol wrth ofalu am y rhai sydd â salwch acíwt a chritigol - 20 credyd
Yn y modiwl hwn, byddwch yn cynnal gwerthusiad beirniadol o systemau darparu gwasanaethau o safbwyntiau cyfreithiol a phroffesiynol. Mae pynciau fel bywyd a marwolaeth, ewthanasia, diffiniadau cyfreithiol o farwolaeth, rhoi organau a meinwe’n cael eu hystyried hefyd.
Canlyniadau seicolegol salwch acíwt a chritigol - 20 credyd
Yn y modiwl hwn, rydym yn trafod rhai o'r canlyniadau seicolegol sy'n wynebu cleifion, perthnasau a chi fel ymarferwyr gofal iechyd.
Traethawd hir yn seiliedig ar ymarfer - 40 credyd
Byddwch yn dewis pwnc sy'n gysylltiedig â gofal acíwt neu gritigol ac yn cynnal adolygiad llenyddiaeth hyd at 12,000 o eiriau.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch yn astudio drwy gymysgedd o ddarlithoedd, gwaith grŵp, senarios cleifion, tiwtorialau rhyngweithiol a chyflwyniadau seminar. Byddwch yn mynychu'r Brifysgol un diwrnod yr wythnos. Addysgir myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm ac addysgir myfyrwyr ail flwyddyn ar ddydd Iau rhwng 9am a 5pm.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-generic-24140.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol o'r radd flaenaf yn efelychu amgylchedd gofal acíwt y GIG, gan ddarparu cyfleusterau clinigol realistig i'n myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-nursing-patient-simulator27403.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae angen i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), neu'r HCPC (Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd) a bod â Diploma AU neu dystiolaeth o RPL (Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig). Rhaid eich bod eisoes yn gyflogedig ac yn ymarfer mewn amgylchedd gofal aciwt a chritigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£785
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Bydd angen cyflwyniad crynodol ar ffurf poster A1.
Cost: £11 o Print and Design yn PDC
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.