Peirianneg Sifil
Bydd eich BSc mewn Peirianneg Sifil yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i newid y byd.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/bsc-civil-engineering.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
HF00
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
H201
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Rydym yn cymryd peirianneg sifil o ddifrif. Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg sylfaenol ac uwch, yn ogystal â sgiliau TG allweddol sy'n berthnasol i'r diwydiant. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o'r proffesiynau hynaf yn y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar y ddynoliaeth.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Rhywun sydd wedi ymddiddori mewn adeiladau ac adeiladwaith, o adeiladu tyrau o flociau pan yn blentyn bach i synnu at ryfeddodau'r byd. Byddwch yn rhywun sy'n datrys problemau, sy'n ysu am ymdeimlad o gyflawni gwaith da ac sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn barod i fod yn rhan ohono.
Achredir gan
Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM), sy’n cynnwys:
- Sefydliad y Peirianwyr Sifil
- Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol
- Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd
- Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant
- Permanent Way Institution ar ran y Cyngor Peirianneg
Llwybrau Gyrfa
- Peirianneg Sifil
- Rheoli llifogydd
- Rheoli Prosiectau
- Peirianneg fecanyddol
- Peirianneg Sifil
- Cyfrifeg / cyllid
- Addysgu
Sgiliau a addysgir
- Mecaneg a dylunio strwythurol
- Rheoli Prosiectau
- Cyfathrebu Peirianyddol
- Dadansoddeg
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-bsc-civil-eng_thumbnail.png)
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol fel peiriannydd sifil. Bydd y meysydd byddwch yn eu hastudio'n cynnwys yr holl bynciau angenrheidiol i fodloni disgwyliadau'r cyflogwyr. Mae modiwlau'r prosiect yn seiliedig ar gynlluniau ‘byw’, a gefnogir gan ddarlithoedd gwadd gan beirianwyr proffesiynol.
Blwyddyn Un
Mathemateg i Beirianwyr 1
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 1
Mecaneg Thermo-hylif
Deunyddiau Peirianneg Sifil
Arferion ar y Safle a Mesur
Modelu Cysyniadol a Dylunio Cynaliadwy
Blwyddyn Dau
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 2
Geodechneg a Hydroleg
Dulliau Dadansoddol a Hydrolig
Dylunio Cynaliadwy
Ymarfer Peirianneg Sifil
Peirianneg, Mesur a Dylunio Priffyrdd
Blwyddyn Tri
Prosiect Unigol
Prosiect Integredig
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 3
Peirianneg Geodechnegol
Rheolaeth Amgylcheddol a Chludiant Cynaliadwy
Rheolaeth a Busnes Peirianneg Sifil
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg sylfaenol – y blociau adeiladu ar gyfer Peiriannydd Sifil. Byddwch yn archwilio perthnasedd mathemateg ym maes peirianneg ac yn ennyn gwerthfawrogiad o faterion mewn rheoli adeiladu, deunyddiau a'r amgylchedd.
Mathemateg i Beirianwyr 1
Byddwch yn datblygu sgiliau mathemategol i ddatrys problemau peirianyddol a deall perthnasedd mathemateg mewn peirianneg.
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 1
Paratoi strwythurau syml, diogel, cynaliadwy technegol briodol.
Mecaneg Thermo-hylif
Dysgwch am gysyniadau thermodynameg sylfaenol a dynameg hylifau, trosglwyddo gwres a phriodweddau hylifau.
Deunyddiau Peirianneg Sifil
Dysgwch am briodweddau sylfaenol sment, concrit, pren, craig, pridd a dur fel deunyddiau adeiladu.
Arferion ar y Safle a Mesur
Dysgwch am elfennau sylfaenol prosiectau adeiladu a strwythur a phwrpas trefniadaeth safle.
Modelu Cysyniadol a Dylunio Cynaliadwy
Dewch i ddeall rôl a chyfrifoldebau peiriannydd mewn dylunio seilwaith cynaliadwy.
Blwyddyn dau yw pan fyddwch yn dysgu sut i gymhwyso eich gwybodaeth drwy gyfres o fodiwlau sy'n cwmpasu pynciau peirianneg gan gynnwys strwythurau a hydroleg.
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 2
Atgyfnerthu ac ehangu ar hanfodion dadansoddi a dylunio strwythurol integredig.
Geodechneg a Hydroleg
Dysgwch am egwyddorion mecaneg a daeareg pridd a'u cymhwyso mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Dulliau Dadansoddol a Hydrolig
Deall ymddygiad a mesuriadau llif hylifau a datrys problemau peirianneg sifil uwch.
Dylunio Cynaliadwy
Gwerthfawrogi a deall protocolau rhyngwladol a deddfau amgylcheddol sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Ymarfer Peirianneg Sifil
Deall y broses o gymhwyso cynllunio i beirianneg sifil a'r dulliau a ddefnyddiwyd.
Peirianneg, Mesur a Dylunio Priffyrdd
Datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a'r technegau diweddaraf wrth fesur.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu gyda chyfres o brosiectau sydd wedi'u dylunio i brofi eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Byddwch yn cwblhau prosiect unigol, prosiect integredig a phrosiect ar reoli peirianneg sifil.
Prosiect Unigol
Cynnal ymchwiliad unigol manwl i bwnc penodol.
Prosiect Integredig
Astudio effaith prosiectau adeiladu ar yr amgylchedd a dod i ddeall cynaliadwyedd ym maes adeiladu.
Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 3
Dadansoddwch strwythurau sy'n bodoli at ddibenion adnewyddu a strwythurau cysyniadol at ddibenion cynaliadwyedd.
Peirianneg Geodechnegol
Dehongli a dadansoddi damcaniaeth geodechnegol a data a gymhwyswyd i broblemau dylunio ac adeiladu ymarferol.
Rheolaeth Amgylcheddol a Chludiant Cynaliadwy
Ystyriwch dechnoleg a chymdeithaseg gwella a rheoli'r amgylchedd.
Rheolaeth a Busnes Peirianneg Sifil
Datblygwch a chymhwyswch dechnegau arfer gorau mewn rheoli adeiladu
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Pan ddaw hi i beirianneg sifil, mae angen i chi brofi'r hyn a ddysgwyd gennych y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Dyna pam rydym yn cyfuno'r gwaith o addysgu damcaniaeth gyda chyfleoedd ymarferol i gymhwyso eich gwybodaeth. Gan ddefnyddio adnoddau ymroddedig y Brifysgol, profiad gwaith a thripiau maes, byddwch yn cwblhau tasgau a phrosiectau ymarferol. Byddwch hefyd yn cael mynediad i'r ymchwil ddiweddaraf a wnaed gan Ganolfan Ymchwil Peirianneg y Brifysgol. Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o ddiwydiant ac academia. Mae'r asesiadau'n cynnwys aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth, cyflwyniadau ac arholiadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/subject-civil-engineering-students42864.jpg)
Staff addysgu
Mae ein tîm addysgu yn dod o gymysgedd o ddiwydiant ac academia. Dim ots ble y gallech freuddwydio am weithio yn y dyfodol, bydd gan rywun yn ein cyfadran gysylltiad yno.
Mae cymysgedd sgiliau ein darlithwyr yn helaeth. Mae ein profiad cyfunol yn cynnwys cynnal gwaith ymchwil, cyflwyno mewn cynadleddau, cyhoeddi eu gwaith a hysbysu eich astudiaethau gyda'r mewnwelediadau diweddaraf. Byddwch hefyd yn elwa ar siaradwyr gwadd o'r byd peirianneg.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-engineering-civil-engineering-luan-al-haddad-39957.jpg)
Lleoliadau
Os ydych yn cwblhau'r cwrs yn llawn amser, rydym yn eich annog yn gryf i gymryd blwyddyn o leoliad gwaith rhwng blynyddoedd dau a thri eich astudiaethau. Bydd cael y cyfle i ddysgu wrth weithio, profi'r hyn a ddysgwyd gennych a meithrin dealltwriaeth o'r heriau y mae'r rhai sy'n gweithio ym maes peirianneg sifil yn eu hwynebu, yn eich rhoi chi mewn sefyllfa dda i ddatblygu eich prosiect unigol a gorffen eich astudiaethau wrth eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Mae ein myfyrwyr rhan amser yn cael y budd o weithio mewn cwmnïau peirianneg a gallant gymhwyso'r sgiliau hyn yn y gwaith.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/subject-civil-engineering-student-42882.jpg)
Cyfleusterau
Mae'r peiriannau diweddaraf gyda chymorth cyfrifiadur ac a reoleiddir wedi eu darparu yn ein labordai peirianneg sifil. Dros y ddwy flynedd nesaf, cewch gyfle i fod yn rhan o brosiect strwythurol byw wrth i ni adeiladu datblygiad Cyfrifiadura, Peirianneg a Thechnoleg newydd Prifysgol De Cymru. Bydd yn cynnwys lleoedd addysgu, dysgu ac ymchwil arloesol, a chewch gyfle i ddod â'ch profiad fel myfyriwr a'ch gwybodaeth dechnegol newydd ei chaffael i'r datblygiad.
Byddwn hefyd yn mynd â'n myfyrwyr y tu hwnt i ffiniau campws Prifysgol De Cymru, gan ddefnyddio tripiau maes, ymweliadau â safleoedd a lleoliadau diwydiant er mwyn gwella ac ymgorffori eich dysgu.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/campus-facilities-treforest-civil-engineering-26877.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-engineering-civil-engineering-joanne-thomas-39949-1.jpg)
Mae cyrsiau Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024Gofynion mynediad
pwynt tariff UCAS: 96
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys Mathemateg neu bwnc rhifol fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Ddaearyddiaeth
- Bagloriaeth Cymru: Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC ar gyfer Lefel A i gynnwys Mathemateg neu bwnc rhifog fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Ddaearyddiaeth
- Gofynion Gwyddoniaeth: Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll Gwyddoniaeth Lefel A yn Lloegr basio'r elfen ymarferol ochr yn ochr â chyflawni'r radd(au) y gofynnwyd amdani
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
- Safon T: Pasio (C ac uwch)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£9,535
fesul blwyddyn*£785
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2025 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2026 Rhan-amser
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Weithio, Ennill a Dysgu!
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael trwy Network75, llwybr gwaith ac astudio cyfun.
Dysgwch fwy