Peirianneg
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.
Gweld y Cyrsiau Archebu Diwrnod Agored
Gall cydnabyddiaeth broffesiynol fynd â'ch gyrfa beirianneg ymhellach. Mae ein cyrsiau'n ymgorffori'r safonau a'r achrediadau a osodwyd gan gyrff blaenllaw'r diwydiant, gan roi'r hygrededd i chi y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi fwyaf.
Dod o hyd i'ch cwrs
Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Electroneg a TG. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn mireinio sgiliau datrys problemau ar gyfer y sector hedfan, gan ddeall heriau'r diwydiant drwy fodiwlau amrywiol. Byddwch yn dysgu am offer a dulliau ymchwil i fynd i'r afael â materion hedfan yn y byd go iawn. Gyda disgwyl i nifer yr awyrennau masnachol ddyblu mewn 20 mlynedd, bydd ein cwrs MSc Peirianneg a Rheoli Awyrennau yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant.
Dysgwch y sgiliau i weithio ar bob agwedd ar gerbydau awyr o ddylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, profi ehediadau ac ardystio, i warchod addasrwydd i hedfan a gweithrediadau awyrennau cynaliadwy, gyda'n cwrs peirianneg awyrenegol o'r radd flaenaf.
Y cwrs pedair blynedd Meistr mewn Peirianneg (MEng) yw'r dyfarniad uchaf ar gyfer astudiaethau israddedig ym maes peirianneg. Mae cyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Awyrenegol â deunydd lefel Meistr yn eich galluogi i sefyll ar wahân trwy ddatblygu set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol.
Mae’r MSc Peirianneg Awyrenegol yn bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig (CEng) gyda’r Sefydliad Peirianneg Fecanyddol (IMechE) a’r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS).Mae dilyniant at reolaeth yn allweddol i yrfaoedd peirianwyr ôl-raddedig, felly fel rhan o’r rhaglen peirianneg awyrenegol byddwch yn datblygu sgiliau rheoli perthnasol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio’r diwydiant awyrenegol.
Cymerwch eich camau cyntaf i ddod yn beiriannydd awyrenegol ar ein Blwyddyn Sylfaen a fydd yn eich paratoi i astudio ein gradd lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.
Mae cyrraedd y gofod yn gofyn am beirianwyr sydd nid yn unig â sgiliau technegol rhagorol, ond hefyd y creadigrwydd i ddatrys problemau newydd a chymhleth. Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu hennill ar y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi ar draws y byd awyrofod, yn ogystal â byd awyrennau, moduron, gweithgynhyrchu a mwy.
Nod y radd hon yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen i weithio yn y diwydiant awyrofod. Mae’r cwrs llawn yn cynnwys profiad hedfan byw, sy’n cael ei atgyfnerthu gan waith SIM yn yr efelychydd hedfan. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, ac rydym yn annog lleoliadau diwydiannol fel rhan o opsiwn blwyddyn ryngosod.
Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi symud ymlaen i'n gradd Peirianneg Awyrofod lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.
Mae'r MSc Peirianneg Broffesiynol ar gael i'r rhai sydd mewn swydd ar hyn o bryd ac mae'n ddelfrydol os ydych chi’n ceisio symud ymlaen a datblygu ymhellach yn y proffesiwn peirianneg. Mae'r cymhwyster peirianneg rhan-amser arloesol a hyblyg yn eich galluogi i ennill gradd Meistr a symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig (CEng) trwy weithgareddau a wneir yn y gweithle.
Enillwch eich gradd anrhydedd a trwydded EASA Rhan-66 B1.1. Yr unig cwrs yn y DU sydd wedi'i achredu ddwywaith gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd a gyflwynir ar un campws.
Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn eich helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd yn hyderus, wrth i chi ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol hanfodol i baratoi i ymuno ag unig gwrs achrediad dwbl y DU.
Mae angen mwy na sgiliau rhagorol yn unig ar beirianwyr trydanol heddiw, mae hefyd angen creadigrwydd ac arloesedd i ffynnu mewn byd mwy digidol, deallus a chysylltiedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.
Mae'r cwrs MEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn cyfuno deunydd BEng (Anrh) gyda chynnwys lefel Meistr, gan gynnig sgiliau proffesiynol a thechnegol uwch i fyfyrwyr mwy datblygedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.
Mae cael cymhwyster BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol) yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth a'ch sgiliau arbenigol. Caiff y cwrs atodol ei addysgu'n llawn amser (mynediad uniongyrchol) neu'n rhan-amser i'r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth, ac mae’n rhoi'r dewis i chi arbenigo naill ai mewn peirianneg pŵer trydanol neu mewn peirianneg electroneg.
Dewch i feithrin hyder yn ogystal ag arbenigedd wrth i chi baratoi ar gyfer ein gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig lawn, drwy astudio ar ein Blwyddyn Sylfaen gyda chymorth ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.
Mae'r radd BEng Peirianneg Fecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.
Mae peirianneg yn faes enfawr gyda chyfleoedd gwaith anhygoel, a gallwn eich helpu i gymryd y cam cyntaf yn eich addysg beirianneg. Wedi’i gynllunio i’w gwblhau’n rhan-amser gyda’ch cyflogwr, byddwch yn dysgu hanfodion peirianneg fecanyddol a’r sgiliau astudio y mae eu hangen arnoch i fynd â’ch dysgu ymhellach.
Mae peirianneg yn faes enfawr gyda chyfleoedd gwaith anhygoel. Mae’r HND yn cymryd cam y tu hwnt i’r HNC, gan ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i lefel uwch-dechnegydd a’r hyn sy’n cyfateb i ail flwyddyn BSc (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol. Dysgwch yn rhan-amser tra’n gweithio hefyd am ddwy neu bedair blynedd.
Drwy gyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol â deunydd ar lefel Meistr, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ennill bri pellach gyda set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol. Hefyd, mae'r cwrs Peirianneg Fecanyddol yn dileu'r angen i ddod o hyd i ragor o gyllid i astudio cymhwyster lefel Meistr.
Mae'r MSc Peirianneg Fecanyddol yn PDC yn mynd i'r afael â'r galw mawr am beirianwyr ôl-raddedig medrus. Amcan y cwrs yw helpu i ennill statws Peiriannydd Siartredig, ac mae'n cyfoethogi gwybodaeth wrth feithrin sgiliau rheoli prosiectau a sgiliau pobl. Mae myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd uwch, yn dysgu ystyriaethau amgylcheddol a diogelwch, ac yn mynd i'r afael â materion yn y byd go iawn trwy draethodau hir wedi'u llywio gan waith ymchwil ac ymgynghori gweithredol staff.
Byddwch yn ennill hyder a gwybodaeth arbenigol ac yn paratoi ar gyfer ein gradd lawn mewn Peirianneg Fecanyddol trwy ymuno â’n Blwyddyn Sylfaen a byddwch yn elwa ar ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.
Rydym yn cymryd Peirianneg Sifil o ddifrif. O’r gwareiddiadau cynharaf, mae peirianwyr wedi dylunio’r amgylchedd adeiledig ac wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o broffesiynau hynaf y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar ddynoliaeth.
Os oeddech chi’n meddwl nad oedd y brifysgol ar eich cyfer chi ond bod y byd gwaith wedi gwneud i chi feddwl eto, efallai mai ein HNC mewn Peirianneg Sifil yw’r ateb i chi. Mae’n gymhwyster galwedigaethol, sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd ac sy’n cael ei gynnig yn rhan-amser tra byddwch yn gweithio.
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
Y rhaglen MSc yw eich cyfle i sefydlu neu atgyfnerthu eich gyrfa fel Peiriannydd Sifil. Bydd eich astudiaethau'n datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, a'r arbenigedd rheoli sydd ei angen i reoli prosiectau peirianneg sifil a gweithredu atebion cynaliadwy. Bydd y cwrs yn darparu'r dysgu sy'n ofynnol i symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig.
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn eich helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd a gyrfa mewn peirianneg sifil. Byddwch yn magu hyder wrth i chi astudio gyda chymorth ein staff arbenigol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.
Mae'r radd BEng Peirianneg Systemau Mecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol i'r diwydiant, arbenigedd technegol, a sgiliau proffesiynol. Byddwch wedi'ch paratoi’n llawn fel gweithiwr proffesiynol medrus a chyfrifol sy'n barod am ystod amrywiol o rolau ledled y sector awyrofod.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yng Nghymru. (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
Mae Peirianneg Fecanyddol ar y brig yng Nghymru am ansawdd addysgu (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
Oeddech chi'n gwybod?
Y 10 Uchaf
yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am ansawdd addysgu mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu.
(Canllaw Prifysgolion Da y Times 2026)Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yng Nghymru. (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
Mae Peirianneg Fecanyddol ar y brig yng Nghymru am ansawdd addysgu (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
Calon. Adeilad i Adeiladu’r Dyfodol.
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gyda datblygiad cyffrous newydd Calon yng nghanol ein Campws ym Mhontypridd.
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod